Henri Matisse: Arlunydd Ffrengig (1869-1954)

Arlunydd Ffrengig oedd Henri Matisse (31 Rhagfyr 1869 – 3 Tachwedd 1954).

Roedd yn un o arlunwyr enwocaf yr 20g am ei ddefnydd o liw a'i arddull rhydd. Dylunydd, argraffwr a cherflunydd oedd ef, ond fe'i adnabyddir yn bennaf fel peintiwr.

Henri Matisse
Henri Matisse: Bywyd Cynnar, Fauvisme, Gertrude Stein ac Académie Matisse
Ganwyd31 Rhagfyr 1869 Edit this on Wikidata
Le Cateau-Cambrésis Edit this on Wikidata
Bu farw3 Tachwedd 1954 Edit this on Wikidata
Nice Edit this on Wikidata
Man preswylBohain-en-Vermandois, Paris, Issy-les-Moulineaux, Nice, Q122222531 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • École nationale supérieure des Beaux-Arts
  • Académie Julian Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, cerflunydd, gwneuthurwr printiau, lithograffydd, drafftsmon, seramegydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amBlue Nude, Blue Nude II, Chapelle du Rosaire de Vence Edit this on Wikidata
Arddulldecoupage, celf tirlun, figure painting, bywyd llonydd, portread (paentiad) Edit this on Wikidata
MudiadArgraffiadaeth, rhaniadaeth, Fauvisme, Neoargraffiadaeth, Ôl-argraffiaeth Edit this on Wikidata
PriodAmélie Parayre Edit this on Wikidata
PlantMarguerite Duthuit Faure, Jean Gérard Matisse, Pierre Matisse Edit this on Wikidata
Gwobr/auChevalier de la Légion d'Honneur Edit this on Wikidata
llofnod
Henri Matisse: Bywyd Cynnar, Fauvisme, Gertrude Stein ac Académie Matisse

Gyda Pablo Picasso a Marcel Duchamp ystyrir Matisse yn o'r tri arlunydd a oedd yn bennaf gyfrifol am ysbrydoli'r datblygiadau chwyldroadol yng nghelfyddydau gweledol yr 20g.

Er iddo gael ei labelu yn wreiddiol fel rhan o'r grŵp Fauve, erbyn y 1920au fe'i cydnabuwyd fel un a oedd yn driw i draddodiad clasurol peintio Ffrengig.

Bywyd Cynnar

Ganed ef yn Henri-Émile-Benoît Matisse yn Le Cateau-Cambrésis, Nord-Pas-de-Calais, Ffrainc, a magwyd ef yn Bohain-en-Vermandois yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc, lle'r oedd gan ei rieni fusnes hadau. Ym 1887 aeth i Baris i astudio'r gyfraith, ac wedi pasio ei arholiadau, bu'n gweithio fel gweinyddwr llys yn Le Cateau-Cambrésis. Dechreuodd arlunio ym 1889, a phenderfynodd ddod yn arlunydd. Dychwelodd i Baris i astudio, ac ym 1897 a 1898, ymwelodd â'r arlunydd John Peter Russell ar ynys Belle Île ar arfordir Llydaw. Cyflwynodd Russell waith Vincent van Gogh iddo, a newidiodd Matisse ei arddull yn llwyr. Dylanwadwyd arno hefyd gan Paul Cézanne, Gauguin a Paul Signac, a chan arlunwaith Japaneaidd. Cynhaliodd ei arddangosfa gyntaf ar ei ben ei hun ym 1904. Ym 1905 symudodd i dde Ffrainc.

Fauvisme

Roedd Matisse ac André Derain yn brif arweinwyr Fauvisme, mudiad celfyddydol a ddechreuodd tua 1900 ac a barhaodd hyd nes tua 1910. Ymhlith aelodau eraill y grŵp oedd Georges Braque, Raoul Dufy a Maurice de Vlaminck. Roedd eu lluniau'n cyfleu teimlad gyda defnydd gwyllt, amhersain o liwiau gan ddiystyru lliwiau go iawn y pwnc dan sylw. Roedd newydd-deb eu harddull yn syfrdanu rhai o'r beirniaid, gydag un yn disgrifio eu gwaith fel 'Pot paent wedi'i daflu yn wyneb y cyhoedd'.

Pan arddangoswyd eu gwaith yn yr un oriel â cherflun traddodiadol fe ddywedodd beirniad arall fod y cerflun parmi les fauves (ymhlith yr anifeiliaid gwylltion) ac fe gydiodd yr enw Fauve. Ar ddiwedd ar y mudaid Fauve, parhaodd Matisse i fod yn gynhyrchiol. Symudodd i Montparnasse ym Mharis a oedd yn boblogaidd gydag arlunwyr ifanc, er bod ei wisg geidwadol a'i arferion gwaith trefnus yn gwbl groes i fywyd Bohemaidd yr ardal. Yn awyddus i ddarganfod dylanwadau newydd, teithiodd i Algeria, Morocco a Sbaen yn ymddiddori mewn celf Affricanaidd ac Arabaidd.

Gertrude Stein ac Académie Matisse

Henri Matisse: Bywyd Cynnar, Fauvisme, Gertrude Stein ac Académie Matisse 
Llofnod Matisse

Ym 1906 daeth yn gyfeillgar â Pablo Picasso, a oedd ddeuddeg mlynedd yn iau. Yn ffrindiau oes, fe gymharwyd eu gwaith yn aml, er i Matisse gweithio'n bennaf o natur a Picasso o'r dychymyg. Cyfarfu'r ddau yn salon y casglwyr ariannog, teulu'r Stein. Daeth Gertrude Stein a'i chyfeillion, y chwiorydd Cone, yn noddwyr i Matiesse a Picasso gan brynu llawer o'u gweithiau. Sefydlodd ei gyfeillion Académie Matisse ym Mharis, a bu Matisse yn dysgu yno o 1911 hyd 1917.

Ail Ryfel Byd

Ym 1939 gwahanodd o'i wraig wedi 41 mlynedd. Ym 1941, yn dilyn llawdriniaeth, bu rhaid iddo ddefnyddio cadair olwyn. A'i symudiad wedi'i gyfyngu, fe ddechreuodd 'beintio gyda siswrn' gan greu collages o bapur yn dangos ei allu i ddod â'i ddawn gyda lliwiau i gyfrwng newydd. Yn y 1940au fe weithiodd fel dylunydd graffig yn cynhyrchu darluniau ar gyfer llyfrau a thros gant o lithograffau.

Er ei fod yn anwleidyddol, fe'i syfrdanwyd pan glywodd am ei ferch Marguerite, a oedd wedi bod yn aelod o'r Résistance yn erbyn y Natsïaidd, yn cael ei harteithio (bron hyd nes iddi farw) mewn carchar yn Rennes. Fe anfonwyd Marguerite i Wersyll-garchar Ravensbrück ond llwyddodd ddianc oddi ar y trên a oedd yn ei chludo yn ystod ymosodiad bomio. Wedi iddi guddio mewn coedwig fe'i hachubwyd gan ymladdwyr y Résistance.

Blynyddoedd olaf

Ym 1951 gorffennodd Matisse brosiect pedair blynedd yn cynllunio addurniadau a ffenestri ar gyfer y Chapelle du Rosaire de Vence, a adnabyddir yn 'Capel Matisse' Yn ôl y miliwnydd David Rockefeller, gwaith olaf Matisse oedd cynllunio ffenestri ar gyfer eglwys ym Pocantico Hills ger ystâd Rockefeller i'r gogledd o Efrog Newydd Bu farw Matisse yn 84 oed ym 1954. Fe'i gladdwyd ym Monastère Notre Dame de Cimiez ger Nice.

Cyfeiriadau

Tags:

Henri Matisse Bywyd CynnarHenri Matisse FauvismeHenri Matisse Gertrude Stein ac Académie MatisseHenri Matisse Ail Ryfel BydHenri Matisse Blynyddoedd olafHenri Matisse CyfeiriadauHenri Matisse1869195420g3 Tachwedd31 RhagfyrCerfluniaeth

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

East TuelmennaHarriet BackerXboxBlogY Forwyn FairHen Saesneg1960auY Cenhedloedd UnedigJustin TrudeauGallia CisalpinaDwight YoakamSam WorthingtonGwilym Bowen RhysFfilm arswyd1915IrbesartanBwa (pensaernïaeth)Evil LaughMordiroPortiwgalegSymbol1724CamriEgalitariaethAnimeMesonKappa MikeyHaikuHunaniaeth ddiwylliannolJohn SullivanMAPRE1I am Number FourSpring SilkwormsAderyn ysglyfaethusThe Witches of BreastwickOutlaw KingJohann Sebastian BachHuw EdwardsPidynDesertmartinBootmenEisteddfod Genedlaethol Cymru Llŷn ac Eifionydd 2023Y Deyrnas UnedigAdolygiad llenyddolStealFlora & UlyssesLawrence of Arabia (ffilm)Ibn Sahl o SevillaMehandi Ban Gai KhoonHTMLCelt (band)CreampieClive JamesFloridaSisiliThe SaturdaysMeddygaethMahatma GandhiAmp gitârCorwyntSeidrBill BaileyThe Salton SeaMiri MawrPorth YchainBlood FestGlasoedMy MistressRhyw llawGradd meistrRhestr o bobl a anwyd yng Ngogledd IwerddonEn attendant les hirondellesSnow White and the Seven Dwarfs (ffilm 1937)DaearyddiaethDe Cymru Newydd🡆 More