Anifail

Organebau amlgellog, ewcaryotig yn y deyrnas fiolegol Animalia yw anifeiliaid (a elwir hefyd yn wyddonol yn Metazoa).

Gydag ychydig eithriadau, mae anifeiliaid yn bwyta deunydd organig, yn anadlu ocsigen, yn gallu symud, atgenhedlu'n rhywiol, a mynd trwy gyfnod ontogenetig lle mae eu corff yn cynnwys sffêr gwag o gelloedd, y blastula, yn ystod datblygiad embryonig. Mae dros 1.5 miliwn o rywogaethau o anifeiliaid byw wedi’u disgrifio'n wyddonol— ac mae tua miliwn ohonynt yn bryfed—, ond amcangyfrifir bod cyfanswm o dros 7 miliwn o rywogaethau o anifeiliaid. Mae hyd anifeiliaid yn amrywio o 8.5 micrometr (0.00033 mod) i 33.6 metr (110 tr). Yr astudiaeth o anifeiliaid yw sŵoleg.

Anifail
Anifail
Enghraifft o'r canlynoltacson, first-order class Edit this on Wikidata
Mathheterotroph Edit this on Wikidata
Safle tacsonteyrnas Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonFilozoa Edit this on Wikidata
DechreuwydMileniwm 666. CC Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Anifeiliaid
Dosbarthiad gwyddonol
Parth: Eukaryota
Teyrnas: Animalia
Linnaeus, 1758
Ffyla

Is-deyrnas Parazoa

Is-deyrnas Eumetazoa

  • Placozoa
  • Radiata
    • Cnidaria (slefrod môr, cwrelau, ayyb.)
    • Ctenophora (slefrod cribog)
  • Bilateria
    • Orthonectida
    • Rhombozoa
    • Acoelomorpha
    • Chaetognatha (saethlyngyr)
    • Uwchffylwm Deuterostomia
    • Uwchffylwm Ecdysozoa
    • Uwchffylwm Platyzoa
      • Platyhelminthes (llyngyr lledog)
      • Gastrotricha
      • Rotifera (rhodfilod)
      • Acanthocephala
      • Gnathostomulida
      • Micrognathozoa
      • Cycliophora
    • Uwchffylwm Lophotrochozoa
      • Sipuncula (sipwncwlidau)
      • Nemertea
      • Phoronida
      • Bryozoa (bryosoaid)
      • Entoprocta
      • Brachiopoda (braciopodau)
      • Mollusca (molysgiau)
      • Annelida (abwydod ayyb.)
      • Echiura

Pan yn siarad yn gyffredinol am anifeiliaid, nid yw'n cynnwys bodau dynol yn aml, ond mewn gwirionedd mae dyn yn anifail, hefyd.

Yn ystod y cyfnod Cambriaidd yr ymddangosodd y ffylwm anifail, a hynny oddeutu 542 miliwn o flynyddoedd yn ôl; gwelwn hyn yn y dystiolaeth o ffosiliau o'r cyfnod. Rhennir y grwp 'anifeiliaid' yn isgrwpiau, gan gynnwys: adar, mamaliaid, amffibiaid, ymlusgiaid, pysgod a pryfaid.

O ran dosbarthiad, mae'r rhan fwyaf o rywogaethau o anifeiliaid yn byw mewn Bilateria (hy anifeiliaid gyda chymesured dwyochr), ac yn cynnwys y protostomau, sy'n cynnwys infertebratau megis nematodau, arthropodau, a molysgiaid, a'r deuterostomau, sy'n cynnwys yr echinodermau a'r cordadau, gyda'r olaf yn ffylwm o anifeiliaid sy'n cynnwys y fertebratau. Roedd ffurfiau bywyd a ddehonglir fel anifeiliaid cynnar yn bresennol ym biota Ediacaraidd y Cyn-Gambriaidd diweddar. Daeth llawer o ffyla anifeiliaid modern yn amlwg yn y cofnod ffosil fel rhywogaethau morol yn ystod y ffrwydrad Cambriaidd, a ddechreuodd tua 542 miliwn o flynyddoedd yn ôl. mae 6,331 o grwpiau o enynnau sy'n gyffredin i bob anifail byw wedi'u cofnodi; gall y rhain fod wedi codi o un hynafiad cyffredin a oedd yn byw 650 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP).

Yn hanesyddol, dosbarthodd Aristotle anifeiliaid i'r rhai â gwaed a'r rhai heb waed. Creodd Carl Linnaeus y dosbarthiad biolegol hierarchaidd cyntaf ar gyfer anifeiliaid ym 1758 gyda'i Systema Naturae, ac ehangwyd gan Jean-Baptiste Lamarck i 14 ffylwm erbyn 1809. Ym 1874, rhannodd Ernst Haeckel y deyrnas anifeiliaid i'r Metasoa amlgellog (sy'n gyfystyr bellach ag Animalia) a'r Protozoa, organebau ungellog nad oeddent bellach yn cael eu hystyried yn anifeiliaid. Yn y cyfnod modern, mae dosbarthiad biolegol anifeiliaid yn dibynnu ar dechnegau uwch, megis ffylogeneteg moleciwlaidd, sy'n effeithiol wrth ddangos y berthynas esblygiadol rhwng y gwahanol tacsa.

Mae bodau dynol yn defnyddio llawer iawn o rywogaethau o anifeiliaid i'w ddibenion a'i bwrpas ei hun, megis ar gyfer bwyd (gan gynnwys cig, llaeth, ac wyau), ar gyfer deunyddiau (fel lledr, sidan a gwlân), fel anifeiliaid anwes, ac fel anifeiliaid gwaith gan gynnwys ar gyfer cludo. Defnyddiwyd cŵn i hela, yn ogystal ag adar ysglyfaethus, tra bod llawer o anifeiliaid daearol a dyfrol yn cael eu hela ar gyfer chwaraeon. Mae anifeiliaid wedi ymddangos mewn celf o'r amseroedd cynharaf ac yn cael sylw mewn mytholeg a chrefydd.

Mae'r hwiangerdd Gymraeg Pais Dinogad yn nodi llawer o anifeiliad oedd yn cael eu hela gan dad y plentyn:

    Peis dinogat e vreith vreith (Pais Dinogad sydd fraith, fraith,)
    o grwyn balaot ban wreith (O groen y bela y mae'i waith)

Geirdarddiad

Benthyciwyd y gair Cymraeg anifail o'r Lladin animalia, o bosib yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Daw animalia o'r Lladin animalis, sy'n golygu 'gydag anadl' neu 'gydag enaid' hy 'bod yn fyw'. Mae'r diffiniad biolegol yn cynnwys holl aelodau'r deyrnas Animalia. Ar lafar defnyddir y term anifail yn aml i gyfeirio at unrhyw anifail nad yw'n fod dynol.

Anifail 
Paentiad o Ogof Lascaux: gwartheg (Bos primigenius), ceffylau a cheirw

Nodweddion

Anifail 
Mae anifeiliaid yn unigryw oherwydd bod pelen celloedd yr embryo cynnar (1) yn datblygu'n bêl wag neu'n blastwla (2).

Mae gan anifeiliaid sawl nodwedd sy'n eu gosod ar wahân i bethau byw eraill. Mae anifeiliaid yn ewcaryotig ac yn organebau amlgellog. Yn wahanol i blanhigion ac algâu, sy'n cynhyrchu eu maetholion eu hunain, mae anifeiliaid yn heterotroffig, yn bwydo ar ddeunydd organig ac yn ei dreulio'n fewnol. Gydag ychydig iawn o eithriadau, (enghraifft; Henneguya zschokkei ) mae anifeiliaid yn resbiradu yn aerobig. Mae pob anifail yn symudol (yn gallu symud eu cyrff yn ddigymell) yn ystod rhan neu'r cyfan o'u cylch bywyd, ond mae rhai anifeiliaid, megis sbyngau, cwrelau, cregyn gleision a chregyn llong (neu gwyran), yn dod yn ddigoes tua diwedd eu bywydau. Mae'r blastula yn gyfnod yn y datblygiad embryonig sy'n unigryw i anifeiliaid, (er ei fod wedi'i golli mewn rhai) gan ganiatáu gwahaniaethu celloedd i feinweoedd ac organau arbenigol, cymhleth.

Strwythur

Mae pob anifail yn cynnwys celloedd, wedi'u hamgylchynu gan fatrics allgellog (extracellular matrix) sy'n cynnwys colagen a glycoproteinau elastig. Yn ystod datblygiad, mae matrics allgellog anifeiliaid yn ffurfio fframwaith cymharol hyblyg lle gall celloedd symud o gwmpas ac ad-drefnu eu hunain, gan ei gwneud yn bosibl ffurfio strwythurau cymhleth. Gall y ffurfiau hyn fod o galch ee strwythurau fel cregyn, esgyrn, a sbigylau sbwng. Mewn cyferbyniad, mae celloedd organebau amlgellog eraill (algae, planhigion a ffyngau'n bennaf) yn cael eu dal yn eu lle gan gellfuriau, ac felly'n dibynnu ar dyfiant cynyddol. Mae celloedd anifeiliaid yn unigryw ac yn meddu ar y cyffyrdd cell (cell junctions) elwir yn gyffyrdd tynn, cyffyrdd bwlch, a desmosomau.

Gydag ychydig iawn o eithriadau - yn arbennig, y sbyngau a'r placozoans - mae cyrff anifeiliaid yn gymysgedd o wahanol feinweoedd, gan gynnwys cyhyrau, sy'n galluogi symudiad, a meinweoedd nerfol, sy'n trosglwyddo signalau ac yn cydlynu'r corff. Yn nodweddiadol, mae yna hefyd siambr dreulio fewnol gyda naill ai un agoriad (yn Ctenophora, Cnidaria, a llyngyr lledog) neu ddau agoriad (yn y rhan fwyaf o bilateriaid), y ceg a'r anws.

Atgynhyrchu a datblygu

Anifail 
Mae atgenhedlu rhywiol bron yn gyffredinol mewn anifeiliaid, fel y gweision neidr hyn.

Mae bron pob anifail yn defnyddio rhyw fath o atgenhedlu rhywiol. Cynhyrchant gametau haploid trwy feiosis; mae'r gametau symudol llai yn sbermatosoa a'r gametau ansymudol mwyaf yw ofa. Mae'r rhain yn asio i ffurfio sygotau, sy'n datblygu trwy mitosis yn sffêr gwag, a elwir yn blastwla. Mewn sbyngau, mae larfa blastula yn nofio i leoliad newydd, yn glynu wrth wely'r môr, ac yn datblygu'n sbwng newydd. Yn y rhan fwyaf o grwpiau eraill, mae'r blastula yn cael ei aildrefnu'n fwy cymhleth. Mae'n ymweinio (o'r gair 'gwain') yn gyntaf, i ffurfio gastrwla gyda siambr dreulio a dwy haen germ ar wahân, ectoderm allanol ac endoderm mewnol. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae trydedd haen germ, y mesoderm, hefyd yn datblygu rhyngddynt. Yna mae'r haenau germ hyn yn gwahaniaethu i ffurfio meinweoedd ac organau.

Mae achosion mynych o baru gyda pherthynas agos (yn ystod atgenhedlu rhywiol) yn gyffredinol yn arwain at iselder mewnfridio o fewn poblogaeth ac yn niweidiol. Mae anifeiliaid wedi datblygu nifer o fecanweithiau ar gyfer osgoi mewnfridio agos (neu llosgach).

Mae rhai anifeiliaid yn gallu atgenhedlu anrhywiol, sy'n aml yn arwain at glôn genetig y rhiant. Gall hyn ddigwydd trwy tmddarnio; egino, megis yn Hydra a cnidariaid eraill; neu parthenogenesis, lle cynhyrchir wyau ffrwythlon heb baru, megis mewn pryfed gleision (affid).

Ecoleg

Anifail 
Mae ysglyfaethwyr, fel y gwybedog glas aelwyn hwn (Ficedula superciliaris), yn bwydo ar anifeiliaid eraill ee pryfaid

Mae anifeiliaid yn cael eu categoreiddio i grwpiau ecolegol yn dibynnu ar sut y maent yn cael bwyd neu'n bwyta deunydd organig megis cigysyddion, llysysyddion, hollysyddion, detritivatores, a pharasitiaid. Mae'r rhyngweithio rhwng anifeiliaid yn ffurfio gweoedd bwyd cymhleth. Mewn rhywogaethau cigysol neu hollysol, mae ysglyfaethwr yn bwydo ar organeb arall (a elwir yn ysglyfaeth). Mae'r pwysau parhaus rhwng yr ysglyfaethwr a'i ysglyfaeth yn arwain at gystadleuaeth esblygiadol gan arwain at wahanol addasiadau yng nghyrff yr anifeiliaid hyn. Mae bron pob ysglyfaethwr amlgellog yn anifail. Mae rhai defnyddwyr yn defnyddio nifer o ddulliau; er enghraifft, mewn gwenyn meirch parasitaidd, mae'r larfa'n bwydo ar feinwe byw y gwesteiwr, gan eu lladd yn y broses, ond mae'r oedolion yn bwyta neithdar o flodau, yn bennaf. Gall fod gan anifeiliaid eraill ymddygiad bwydo penodol iawn, fel crwban Môr Gwalchbig sy'n bwyta sbyngau'n bennaf.

Mae'r rhan fwyaf o anifeiliaid yn dibynnu ar y biomas a'r egni a gynhyrchir gan blanhigion trwy ffotosynthesis. Mae llysysyddion yn bwyta deunydd planhigion yn uniongyrchol, tra bod cigysyddion, ac anifeiliaid eraill ar lefelau troffig uwch fel arfer yn ei gaffael yn anuniongyrchol trwy fwyta anifeiliaid eraill. Mae anifeiliaid yn ocsideiddio carbohydradau, lipidau, proteinau, a biomoleciwlau eraill i ddatgloi egni cemegol ocsigen moleciwlaidd, sy'n caniatáu i'r anifail dyfu a chynnal prosesau biolegol megis ymsymudiad. Mae anifeiliaid sy'n byw yn agos at fentiau hydrothermol a diferion oer ar wely'r môr tywyll yn bwyta deunydd organig archaea a bacteria a gynhyrchir yn y lleoliadau hyn trwy chemosynthesis (trwy ocsideiddio cyfansoddion anorganig, fel hydrogen sylffid).

Esblygodd anifeiliaid yn y môr yn wreiddiol. Cytrefodd llinachau o arthropodau'r tir tua'r un adeg â phlanhigion tir, yn ôl pob tebyg rhwng 510 a 471 miliwn o flynyddoedd yn ôl (CP) yn ystod y Cyfnod Cambriaidd Diweddar neu'r Ordofigaidd Cynnar. Dechreuodd fertebratau fel y pysgodyn asgellog Tiktaalik symud i'r tir yn y Defonaidd hwyr, tua 375 miliwn CP. Mae anifeiliaid, bellach, wedi meddiannu bron pob un o gynefinoedd a microgynefinoedd y ddaear, gan gynnwys dŵr hallt, fentiau hydrothermol, dŵr croyw, ffynhonnau poeth, corsydd, coedwigoedd, porfeydd, anialwch, aer, a thu mewn i anifeiliaid, planhigion, ffyngau a chreigiau. Fodd bynnag, nid yw anifeiliaid yn gallu goddef gwres yn arbennig o dda; ychydig iawn ohonynt sy'n gallu goroesi ar dymheredd cyson uwchlaw 50 °C (122 °F). Ac ar ochr arall y geiniog, dim ond ychydig iawn o rywogaethau o anifeiliaid (nematodau'n bennaf) all fyw yn niffeithdiroedd oer mwyaf eithafol Antarctica cyfandirol.

Amrywiaeth

Anifail 
Y morfil glas yw'r anifail mwyaf sydd erioed wedi byw; yma gwelir mam a'i phlentyn.

Maint

Y morfil glas (Balaenoptera musculus) yw'r anifail mwyaf sydd erioed wedi byw, gan bwyso hyd at 190 tunnell ac yn mesur hyd at 33.6 metr (110 tr) o hyd. Yr anifail tir mwyaf sy'n bodoli yw'r eliffant llwyni, Affricanaidd (Loxodonta africana), sy'n pwyso hyd at 12.25 tunnell ac yn mesur hyd at 10.7 metr (35 tr) o hyd. Yr anifeiliaid daearol mwyaf a fu byw erioed oedd y deinosoriaid sauropod titanosaur fel yr Argentinosaurus, a allai fod wedi pwyso cymaint â 73 tunnell. Mae sawl anifail yn feicrosgopig; nid yw rhai Myxozoa (parasitiaid gorfodol o fewn y Cnidaria) byth yn tyfu'n fwy nag 20 µm, ac nid yw'r Myxobolus shekel yn fwy na 8.5 µm pan fydd wedi tyfu'n llawn.

Niferoedd a chynefinoedd

Mae’r tabl a ganlyn yn rhestru amcangyfrif o’r niferoedd o rywogaethau sy’n bodoli ar gyfer y grwpiau anifeiliaid sydd â’r niferoedd mwyaf o rywogaethau, ynghyd â’u prif gynefinoedd (daearol, dŵr croyw, a morol), a byw’n rhydd neu ffyrdd parasitig o fyw. Mae'r amcangyfrifon o rywogaethau a ddangosir yma yn seiliedig ar niferoedd a ddisgrifir yn wyddonol; mae amcangyfrifon llawer mwy wedi'u cyfrifo yn seiliedig ar wahanol ddulliau o ragfynegi, a gall y rhain amrywio'n fawr. Er enghraifft, disgrifiwyd tua 25,000–27,000 o rywogaethau o nematodau, tra bod amcangyfrifon cyhoeddedig o gyfanswm nifer y rhywogaethau nematodau yn cynnwys 10,000–20,000; 500,000; 10 miliwn; a 100 miliwn. Gan ddefnyddio patrymau o fewn yr hierarchaeth dacsonomig, cyfrifwyd bod cyfanswm y rhywogaethau anifeiliaid—gan gynnwys y rhai nad ydynt wedi’u disgrifio eto—tua 7.77 miliwn yn 2011.

Phylwm Enghraifft Nifer of

Rywogaethau
Ar y Ddaear Yn y Môr Dŵr
Croyw
Byw'n

Rhydd
Parasitig
Anelidau 17,000 Ie (pridd) Ie Ie Ie 400
Arthropodau 1,257,000 1,000,000

(pryfaid)
>40,000

(Malac-

ostraca)
94,000 Ie >45,000 (heb gynnwys parasitiaid)
Bryozoa 6,000 Ie 60–80 Ie
Cordogau >70,000

23,000


13,000
18,000

9,000
Ie 40

(cat-fôr)
Cnidaria 16,000 Ie Ie (few) Ie >1,350

(Myxozoa)
Echinodermau 7,500 7,500 Ie
Molysgau 85,000

107,000


35,000


60,000
5,000

12,000
Ie >5,600
Llyngyr crwn 25,000 Ie (pridd) 4,000 2,000 11,000 14,000
Llyngyr lledog 29,500 Ie Ie 1,300 Ie

3,000–6,500

>40,000

4,000–25,000

Rhodfilod 2,000 >400 2,000 Ie
Sbwng 10,800 Ie 200-300 Ie Ie
Cyfanswm y rhywogaethau (yn 2013): 1,525,728

Tarddiad esblygiadol

Anifail 
Dickinsonia costata o'r biota Ediacaran (c. 635–542 miliwn o flynyddoedd yn ôl) yw un o'r rhywogaethau anifeiliaid hysbys cynharaf.

Mae'r ffosilau cyntaf a allai gynrychioli anifeiliaid yn ymddangos yng nghreigiau 665-miliwn oed Ffurfiant Trezona yn Ne Awstralia. Mae'n debyg mai sbyngau cynnar yw'r ffosilau hyn.

Mae anifeiliaid i'w cael mor bell yn ôl â'r biota Ediacaran, tua diwedd y Cyn-Gambriaidd, ac efallai ychydig yn gynharach. Roedd amheuaeth ers tro a oedd y ffurfiau bywyd hyn yn cynnwys anifeiliaid, ond mae darganfod colesterol lipid anifeiliaid mewn ffosilau Dickinsonia yn cadarnhau hyn. Credir bod anifeiliaid wedi tarddu o dan amodau ocsigen isel, sy'n awgrymu eu bod yn gallu byw'n gyfan gwbl trwy resbiradaeth anaerobig, ond wrth iddynt arbenigo mewn metaboledd aerobig daethant yn gwbl ddibynnol ar ocsigen yn eu hamgylcheddau.

Anifail 
Mae Anomalocaris canadensis yn un o'r llu o rywogaethau o anifeiliaid a esblygodd yn y ffrwydrad Cambriaidd, gan ddechrau tua 542 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ac a ddarganfuwyd yng ngwâu ffosil y siâl Burgess.

Ymddangosodd llawer o ffyla o anifeiliaid am y tro cyntaf yn y cofnodion ffosil yn y ffrwydrad Cambriaidd, gan ddechrau tua 542 miliwn o flynyddoedd yn ôl, mewn gwelyau fel siâl Burgess. Ymhlith y ffyla sy'n bodoli yn y creigiau hyn mae molysgiaid, braciopodau, onychophorans, Arafsymudwr (y tardigrades), arthropodau, echinodermau a'r hemichordatiaid, ynghyd â nifer o ffurfiau a ddifodwyd megis yr Anomalocaris rheibus. Fodd bynnag, gall sydynrwydd y digwyddiad fod oherwydd fod y cofnod ffosil yn wallus, yn hytrach na bod yr holl anifeiliaid hyn wedi ymddangos ar yr un pryd.

Ffylogeni

Mae anifeiliaid yn fonoffyletig, sy'n golygu eu bod yn deillio o hynafiad cyffredin. Mae anifeiliaid yn chwaer i'r Choanoflagellata ac maent yn ffurfio'r Choanozoa. Mae gan yr anifeiliaid mwyaf sylfaenol, y Porifera, Ctenophora, Cnidaria, a Placozoa, gynlluniau corff sydd heb gymesuredd dwyochrog. Mae eu perthynas yn dal i fod yn destun dadl; gallai'r chwaer grŵp i bob anifail arall fod yn Porifera neu'r Ctenophora, sydd â diffyg genynnau hox, sy'n holl bwysig wrth ddatblygu cynllun y corff cyfan.

Mae'r goeden ffylogenetig (o'r prif linachau yn unig) yn dynodi tua sawl miliwn o flynyddoedd yn ôl ( mya ) y holltodd y llinachau.

Anifeiliaid nad ydynt yn ddwyochrog

Anifail 
Mae rhai nad ydynt yn ddwyochrog (o ran cymesuredd) yn cynnwys sbyngau (canol) a chwrelau (cefndir).

Mae gan nifer o anifeiliaid ddiffyg cymesuredd dwyochrog ac ymhlith y rhain, mae'n debyg bod y sbyngau (Porifera) wedi dargyfeirio gyntaf, gan gynrychioli'r ffylwm anifail hynaf. Nid ydynt yn organebau cymhleth, fel y rhan fwyaf o ffyla eraill; ceir amrywiaeth yn y math o gelloedd, ond yn y rhan fwyaf o achosion nid ydynt wedi'u trefnu'n feinweoedd gwahanol. Maent fel arfer yn bwydo trwy dynnu dŵr trwy fandyllau.

Dwyochredd (Bilateria)

Mae'r anifeiliaid sy'n weddill, y mwyafrif helaeth—yn cynnwys rhyw 29 ffyla a thros filiwn o rywogaethau—yn ffurfio cytras (clade), sef y Bilateria. Mae'r corff yn driploblastig, gyda thair haen o germ sydd wedi'u datblygu'n dda, ac mae eu meinweoedd yn ffurfio organau gwahanol. Mae gan y siambr dreulio ddau agoriad, ceg ac anws, a cheir ceudod corff mewnol, coelom neu ffug-goelom. Mae gan anifeiliaid sydd â'r cynllun dwyochrog cymesur hwn i'w corff y gallu i symud, pen blaen (anterior), a phen ôl (posterior) yn ogystal â chefn (dorsal) a bol (ventral); felly y mae ganddynt hefyd ochr dde ac ochr chwith.

Mae astudiaethau genetig wedi newid dealltwriaeth sŵolegwyr yn sylweddol o'r perthnasoedd o fewn y Bilateria. Ymddengys bod y rhan fwyaf yn perthyn i ddwy brif linach, y protostomau a'r deuterostomau.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Chwiliwch am anifail
yn Wiciadur.

Tags:

Anifail GeirdarddiadAnifail NodweddionAnifail EcolegAnifail AmrywiaethAnifail Tarddiad esblygiadolAnifail FfylogeniAnifail CyfeiriadauAnifail Dolenni allanolAnifailCell (bioleg)EwcaryotOrganeb amlgellogPryfResbiradaeth cellogRhywogaethSŵolegTeyrnas (bioleg)

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

1996CymbriegBattles of Chief PontiacJuan Antonio VillacañasYr HolocostConnecticutCambodiaAstreonamCaveat emptorBysD. H. LawrenceYr EidalThe AristocatsSant PadrigBusty CopsTywysog CymruMichelle ObamaEmmanuel MacronYr Ail Ryfel BydSisters of AnarchyTîm pêl-droed cenedlaethol CymruLlun FarageBarbie in 'A Christmas Carol'Gwynfor EvansR.O.T.O.R.Sir Gawain and the Green KnightUwch Gynghrair LloegrDiodIago fab SebedeusPafiliwn PontrhydfendigaidGlöyn byw37Ysgol SulMET-ArtSonu Ke Titu Ki SweetyDyledMichael D. JonesAlldafliadRhiwbryfdirMaffia Mr HuwsDerek UnderwoodYsgrifau BeirniadolYswiriantWicidataCyfieithiadau i'r GymraegDe CoreaNadoligCarl Friedrich GaussNorth of Hudson BayThomas Edwards (Yr Hwntw Mawr)SaesonAlice BradyThis Love of OursGŵyl Gerdd DantAmwythigBugail Geifr LorraineFacebookHeledd CynwalGeraint GriffithsDohaCyfieithiadau o'r Ffrangeg i'r GymraegOn The Little Big Horn Or Custer's Last StandOcsigen19eg ganrif🡆 More