Uwchdeulu Hedyloidea Hedylidae Uwchdeulu Hesperioidea: Hesperiidae Uwchdeulu Papilionoidea: Papilionidae Pieridae Nymphalidae Lycaenidae Riodinidae
Gloÿnnod byw | |
---|---|
Llwydfelyn gwelw | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera (rhan) |
Teuluoedd | |
Pryf gydag adenydd lliwgar sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw glöyn byw (hefyd: pili-pala, iâr fach yr haf neu blyfyn bach yr haf). Wedi deor o'i ŵy mae glöyn byw yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac yn morffio'n chwiler cyn dod allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau gydag adenydd.
Mae'n perthyn i'r dosbarth Lepidoptera. Yn aml, mae ganddynt adenydd liiwgar, cymharol fawr. Yn y grŵp hwn ceir gwir loynnod byw (neu uwchdeulu / superfamily, sef Papilionoidea), y sgipwyr (uwchdeulu Hesperioidea) a'r gwyfyn-loynnod (uwchdeulu Hedyloidea). prin iawn y ceir ffosiliau, gan fod eu hadennydd mor denau a bregus, ond mae'r hyna'n mynd yn ôl i 40–50 miliwn o flynyddoedd CP.
Mae rhai gloÿnnod yn fudol h.y. yn teithio filoedd o filltiroedd dros yr haf; er enghraifft, Glöyn y llaethlys. Oherwydd eu gallu i forffio o un ffurf i ffurf arall, ac oherwydd harddwch eu lliw a'i ehediad, maent yn ddelwedd boblogaidd mewn llenyddiaeth. Ystyrir rhai ohonyn nhw'n bla gan eu bod yn bwyta llysiau ar gyfer y bwrdd bwyd, dro arall, mae'r lindys yn lladd rhywogaethau sy'n blâu.
Mewn ymchwiliad gan NERC (Natural Environment Research Council) yn 2004 datgelwyd fod gostyngiad o 71% wedi bod yn niferoedd y gloÿnnod byw yng ngwledydd Prydain rhwng 1983 a 2003.
Cofnodwyd y gair yn gyntaf yng Ngeiriadur Syr Thomas Wiliems 'Thesaurus Linguae Latinae Cambrobritannicae' (1604-7). Y gair cyn hynny oedd 'Glöyn Duw', fel a geir yng ngwaith Dafydd ap Gwilym yn y 14eg ganrif.
Un o brif diriogaethau'r glöyn byw yng Ngogledd Cymru ydy Craig Euarth: rhwng Craig-adwy-wynt a Phwllglas 4 a hanner cilometr i'r de o Ruthun (Rhif cyfeirnod map OS Map: SS 122 542) lle gwelir 32 allan o'r 34 mathau sydd yng ngogledd Cymru. Tiriogaeth pwysig arall yw 'Caeau Ffos Fach' ger Cross Hands, Sir Gaerfyrddin.
Mae rhywogaethau'r glöyn byw a'r gwyfyn a welir yng Nghymru yn cynnwys:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Glöyn byw, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.