Planed yw corff sy'n cylchdroi o amgylch seren, er enghraifft mae'r Ddaear yn blaned gan ei bod yn cylchdroi o amgylch ein seren ni, sef yr haul.
Wyth planed sydd yn Nghysawd yr Haul, tair planed gorrach a sawl planed llai. Mae sawl planed enfawr wedi cael eu darganfod yn cylchdroi o amgylch sêr eraill, ac mae planedau llai eu maint yn cael eu darganfod trwy ficrolensio dwysterol; gelwir y planedau hyn yn blanedau allheulol.
Seryddiaeth | |
Lleuad Astroffiseg Nifwl |
Gellir rhannu'r planedau hyn yn ddau ddosbarth: y cewri mawr llawn nwyon ar y naill law a'r cyrff llai o greigiau ar y llaw arall. Ceir wyth planed yng Nghysawd yr Haul; mae Mercher, Gwenner, Y Ddaear a Mawrth yn blanedau daearol, Iau a Sadwrn yn gewri nwy, ac Wranws a Neifion yn gewri iâ.
Mae gennym faes magnetig o amgylch ein planed sy'n ein hamddiffyn rhag ffrwydradau ymbelydredd a gronynnau y mae'r Haul yn eu hanfon.
Mae planed yn gorff sydd:
Daeth y diffiniad uchod i fodolaeth yn 2006; diffiniad nad oedd yn caniatáu i Blwton fod yn blaned ac felly'n lleihau planedau cysawd yr haul o naw i wyth:
Iau yw'r fwyaf; 318 gwaith màs y Ddaear; a Mercher yw'r lleiaf; 0.055 gwaith màs y Ddaear.
Ystyrid Plwton bellach yn blaned gorrach.
Planedau yng Nghysawd yr Haul |
Planed allheulol yw planed sydd y tu allan i Gysawd yr Haul. Er gwaethaf yr enw Daear-ganolog, mae pob planed allheulol (extrasolar) yn cylchu ei haul (seren) ei hun. Y cyntaf i gael ei darganfod oedd planed a oedd yn cylchu'r seren 51 Pegasi, a welwyd gyntaf ar Hydref 6, 1995 gan Michel Mayor a Didier Queloz o Brifysgol Genefa.
Roedd rhyw 306 o blanedau allheulog wedi'u darganfod erbyn Awst 2008. Un o'r ddiweddaraf i gael ei darganfod yw Gliese 581 c sy'n 20 blwyddyn goleuni i ffwrdd ac fe allai gynnal bywyd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Planed, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.