Economegydd Prydeinig oedd John Maynard Keynes, Barwn 1af Keynes (5 Mehefin 1883 – 21 Ebrill 1946).
Cafodd ei syniadau, Economeg Keyenes, ddylanwad mawr ar theori economeg ac ar bolisïau economaidd llawer o lywodraethau. Credai y dylai'r llywodraeth ymyrryd yn yr economi i wrthweithio effeithiau mwyaf eithafol y cylch economaidd. Ystyrir ef fel un o sylfaenwyr macroeconomeg.
John Maynard Keynes | |
---|---|
Ganwyd | 5 Mehefin 1883 Caergrawnt |
Bu farw | 21 Ebrill 1946 Firle |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | economegydd, mathemategydd, gwleidydd, athronydd, athro cadeiriol, diplomydd, awdur ffeithiol, person busnes, awdur |
Swydd | aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | The General Theory of Employment, Interest and Money, Indian Currency and Finance, The Economic Consequences of the Peace, A Treatise on Probability, A Treatise on Money |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Mudiad | Grŵp Bloomsbury |
Tad | John Neville Keynes |
Mam | Florence Ada Keynes |
Priod | Lydia Lopokova |
Partner | Duncan Grant, Alfred Dillwyn Knox, Daniel Macmillan, Lytton Strachey, James Strachey, Arthur Hobhouse, David Garnett |
Gwobr/au | Cydymaith Urdd y Baddon, Gwobr Adam Smith, Fellow of the Econometric Society, Cymrawd yr Academi Brydeinig |
llofnod | |
Ganed Keynes yng Nghaergrawnt. Roedd ei dad, John Neville Keynes, yn ddarlithydd mewn economeg ym Mhrifysgol Caergrawnt. Aeth i ysgol Eton ac yna i Goleg y Brenin, Caergrawnt yn 1902. Yn ddiweddarach daeth yn ddarlithydd yng Nghaergrawnt. Apwyntiwyd ef yn ymgynghorydd i'r Trysorlys yng Nghynhadledd Heddwch Paris yn 1919 a arweiniodd at Gytundeb Versailles Cyhoeddodd ddau lyfr ar y mater, The Economic Consequences of the Peace yn 1919, a A Revision of the Treaty yn 1922, gan ddadlau fod y taliadau a orfodid ar yr Almaen yn ormod, ac y byddai'n difetha economi'r Almaen ac yn arwain at ryfel pellach.
Cyhoeddodd ei lyfr pwysicaf, General Theory of Employment, Interest and Money, yn 1936, gan herio economeg glasurol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article John Maynard Keynes, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.