Yr wyddor Ladin, neu'r Wyddor Rufeinig yw'r wyddor fwyaf cyffredin yn y byd heddiw.
A | B | C | D | E | F | Z |
H | I | K | L | M | N | O |
P | Q | R | S | T | V | X |
Datblygodd o fersiwn orllewinol o'r wyddor Roeg, a elwid yr wyddor Gumeaidd, a datblygwyd hi i ffurfio'r wyddor Etrwscaidd. Mabwysiadodd y Rhufeiniaid 21 o'r 26 llythyren Etrwscaidd i ysgrifennu Lladin.
Yn ystod yr Oesoedd Canol, addaswyd hi i'w defnyddio ar gyfer y rhan fwyaf o ieithoedd gorllewin Ewrop, a rhai ieithoedd yn nwyrain Ewrop, er enghraifft rhai ieithoedd Slafig.
Mae rhai ieithoedd wedi newid o wyddorau eraill i'r wyddor Ladin. Newidiodd Romaneg o'r wyddor Gyrilig i'r wyddor Ladin yn y 18g. Fe newidiodd Twrceg o'r wyddor Arabeg i'r wyddor Ladin yn 1928 ac mae Hausa wedi newid hefyd.
Amrywia'r defnydd o'r llythrennau yn yr wyddor Ladin o un iaith i'r llall. Ceir 28 o lythrennau yn yr wyddor Gymraeg (29 os cynnwys J), rhai ohonynt fel Ch neu Ll lle defnyddir dau symbol i gynrychioli un sain.
Gwyddor Ladin wreiddiol Teyrnas Rhufain | ||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
A | B | C | D | E | F | Z | H | I | K | L | M | N | O | P | Q | R | S | T | V | X |
Gwyddor Ladin Yr Ymerodraeth Rufeinig | ||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
A | B | C | D | E | F | G | H | I | K | L | M | N | O | P | Q | R | S | T | V | X | Y | Z |
Yr wyddor Ladin elfennol gyfoes | |||||||||||||||||||||||||
Aa | Bb | Cc | Dd | Ee | Ff | Gg | Hh | Ii | Jj | Kk | Ll | Mm | Nn | Oo | Pp | Rr | Ss | Tt | Uu | Vv | Ww | Xx | Yy | Zz |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Yr wyddor Ladin, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.