Gwlad yn Ne Asia yw Gweriniaeth yr India neu India (Bhārat Gaṇarājya mewn trawsgrifiad o'r Hindi).
Mae hi'n ffinio â Phacistan i'r gorllewin (gan gynnwys rhanbarth Kashmir), Tibet (Tsieina), Nepal a Bhwtan i'r gogledd, a Bangladesh a Myanmar i'r dwyrain. Mae ynys Sri Lanca yn gorwedd dros y dŵr o Damil Nadu, penrhyn deheuol India. Er bod poblogaeth Tsieina'n fwy, yr India yw gwlad ddemocrataidd fwya'r byd. Mae mwy na biliwn o bobl yn byw yn y wlad a mae'n nhw'n siarad mwy nag 800 o ieithoedd. Delhi Newydd yw prifddinas y wlad.
Gweriniaeth India Bhārat Gaṇarājya | |
Arwyddair | सत्यमेव जयते |
---|---|
Math | gwlad, gwladwriaeth sofran, gweriniaeth, gwladwriaeth gyfansoddiadol, gweriniaeth ddemocrataidd, gwladwriaeth ffederal |
Enwyd ar ôl | Afon Indus |
Prifddinas | Delhi Newydd |
Poblogaeth | 1,326,093,247 |
Sefydlwyd | Fel dominiwn: 15 Awst 1947 Fel gweriniaeth: 26 Ionawr 1950 |
Anthem | Jana Gana Mana |
Pennaeth llywodraeth | Narendra Modi |
Cylchfa amser | Indian Standard Time, Asia/Kolkata |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Hindi, Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | De Asia, y Gymanwlad, South Asian Association for Regional Cooperation, Y Mudiad Amhleidiol |
Gwlad | India |
Arwynebedd | 3,287,263 km² |
Gerllaw | Môr Arabia, Bae Bengal, Cefnfor India |
Yn ffinio gyda | Nepal, Bangladesh, Bhwtan, Myanmar, Pacistan, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Indonesia, Sri Lanca |
Cyfesurynnau | 22.8°N 83°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | executive branch of the government of India |
Corff deddfwriaethol | Senedd India |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd India |
Pennaeth y wladwriaeth | Droupadi Murmu |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog India |
Pennaeth y Llywodraeth | Narendra Modi |
Crefydd/Enwad | Hindŵaeth, Islam, Cristnogaeth, Siciaeth, Bwdhaeth, Jainiaeth |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $3,150,307 million, $3,385,090 million |
Arian | rupee Indiaidd |
Canran y diwaith | 4 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 2.28 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.633 |
Mae India yn wlad anferth sy'n ymestyn o'r Himalaya yn y gogledd i draethau trofannol Cefnfor India yn y de. Yn y gorllewin mae taleithiau Rajasthan a Gujarat yn anial iawn tra bod y taleithiau dwyreiniol a'r de eithaf yn nhiriogaethau is-drofannol. Mae gan y wlad arfordir hir iawn ar Fôr Arabia yn y gorllewin, Cefnfor India yn y de a Bae Bengal yn y dwyrain.
Cyrhaeddodd bodau dynol modern (Homo sapiens) isgyfandir India o Affrica ddim hwyrach na 55,000 o flynyddoedd yn ôl. O ran amrywiaeth o geneteg dynol, gellir rhoi'r rhanbarth yn ail. Daeth bywyd sefydlog i'r amlwg ar yr isgyfandir ar gyrion gorllewinol basn Afon Indus tua 9,000 o flynyddoedd yn ôl, gan esblygu'n raddol i Wareiddiad Dyffryn Indus yn y drydedd mileniwm CC. Erbyn 1200 CC roedd ffurf hynafol o Sansgrit, iaith Indo-Ewropeaidd, wedi tryledu i India o'r gogledd-orllewin, gan ddatblygu fel iaith y Rigveda a gyfansoddwyd yn ardal y Sapta Sindhu (gwlad "y Saith Afon"), sy'n cyfateb i ardal y Punjab ym Mhacistan a gogledd-orllewin India, rhwng 1500–1000 CC. Dyma gofnodi gwawr Hindŵaeth yn India. Mewnosodwyd ieithoedd Dravidian India yn y rhanbarthau gogleddol a gorllewinol.
Erbyn 400 CC roedd haenu cymdeithasol a gwahardd cymdeithasol (neu y drefn gastiau) wedi dod i'r amlwg o fewn Hindŵaeth, ac roedd Bwdhaeth a Jainiaeth wedi codi, gan gyhoeddi gorchmynion cymdeithasol nad oeddent yn gysylltiedig ag etifeddiaeth. Arweiniodd cydgrynhoadau gwleidyddol cynnar at Ymerodraethau rhydd Maurya a Gupta ym Masn y Ganga. Nodweddir y cyfnod hwn o gydweithio â chreadigrwydd eang a hefyd gydag ymgorffori anghyffyrddadwyedd (untouchability) i fewn i'w system gredo. Yn Ne India, a'r teyrnasoedd Canol, allforiwyd ieithoewdd a sgriptiau Dravidian a'r diwylliannau crefyddol i deyrnasoedd De-ddwyrain Asia.
Yn y cyfnod canoloesol cynnar, gwreiddiodd Cristnogaeth, Islam, Iddewiaeth a Zoroastriaeth ar arfordiroedd de a gorllewinol India. Cyrhaeddodd byddinoedd Mwslimaidd o Ganol Asia gan ysbeilio a rheoli gwastadeddau gogleddol India, gan sefydlu Sultanate Delhi yn y diwedd, a throi gogledd India'n Islam ganoloesol. Yn y 15g, creodd Ymerodraeth Vijayanagara ddiwylliant cyfansawdd Hindŵaidd hirhoedlog yn ne India. Yn y Punjab, daeth Siciaeth i'r amlwg. Arweiniodd Ymerodraeth y Mughal, ym 1526, at ddwy ganrif o heddwch cymharol, gan adael gwaddol o bensaernïaeth oleuol iawn.
Ehangodd Cwmni Prydeinig India'r Dwyrain drwy'r wlad gan droi India yn economi drefedigaethol, ond hefyd ei moldio'n un wlad sofran. Dechreuodd rheolaeth Coron Lloegr (y Raj Prydeinig) ym 1858. Ond wedi peth amser rhoddwyd yr hawliau i Indiaid brodorol, ond cyflwynwyd newidiadau technolegol, a gwreiddiodd syniadau addysg, moderniaeth a bywyd cyhoeddus. Daeth mudiad cenedlaetholgar arloesol a dylanwadol i'r amlwg, a nodwyd am wrthwynebiad di-drais a daeth yn brif ffactor wrth ddod â rheolaeth Prydain i ben. 'Tad y Wlad' ac un o brif arweinwyr dros India annibynnol oedd Mahatma Gandhi. Ym 1947 rhannwyd Ymerodraeth Indiaidd Prydain yn ddau ddominiwn annibynnol, Dominiwn mwyafrif Hindŵaidd India ac Arglwyddiaeth fwyafrif Mwslimaidd Pacistan. Collwyd miliynau o fywydau a gwelwyd mudo nas gwelwyd ei fath cyn hynny.
Mae India wedi bod yn weriniaeth ffederal ers 1950, wedi'i llywodraethu drwy system seneddol ddemocrataidd. Yn wleidyddol, mae'n gymdeithas luosog, amlieithog ac aml-ethnig. Tyfodd poblogaeth India o 361 miliwn ym 1951 i 1.211 biliwn yn 2011. Yn ystod yr un amser, cynyddodd ei hincwm enwol y pen o US $64 yn flynyddol i UD$ 1,498, a chynyddodd ei chyfradd llythrennedd o 16.6% i 74%. O fod yn wlad gymharol amddifad ym 1951, mae India wedi tyfu'n economi fawr sy'n tyfu'n gyflym ac yn ganolbwynt ar wasanaethau technoleg gwybodaeth, gyda dosbarth canol sy'n ehangu'n sydyn. Mae ganddi raglen ofod (ISRO) sydd wedi cwblhau sawl taith lwyddiannus i'r gofod.
Mae ffilmiau, cerddoriaeth a dysgeidiaeth ysbrydol Indiaidd (gw. ioga) yn chwarae rhan gynyddol mewn diwylliant byd-eang. Lleihaodd ei chyfradd tlodi yn sylweddol yn 21g, ond ar gost o gynyddu anghydraddoldeb economaidd. Mae gan India arfau niwclear, ac mae'n uchel mewn gwariant milwrol. Ceir anghydfod ynghylch Kashmir gyda'i chymdogion, Pacistan a Tsieina, anghydfod sydd heb ei ddatrys ers canol yr 20g. Ymhlith yr heriau economaidd-gymdeithasol y mae India yn eu hwynebu mae anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, diffyg maeth plant, a lefelau cynyddol o lygredd aer. Mae tir India yn fioamrywiol, gyda phedwar ardal o fioamrywiaeth. Gorchuddir 21.7% o'r wlad gan goed. Mae bywyd gwyllt India, yn draddodiadol yn cael ei pharchu, a'i gweld yn rhan o ddiwylliant India, a cheir llawer o gynefinoedd gwarchodedig.
Afon Indus a roddodd ei henw i India. Yn ôl Geiriadur Saesneg Rhydychen (trydydd argraffiad 2009), mae'r enw "India" yn deillio o'r Lladin Clasurol, India, sy'n cyfeiriad at De Asia a rhanbarth ansicr i'r dwyrain; ac yn ei dro yn deillio: Groeg Helenistaidd India (Ἰνδία ); Indos Groegaidd hynafol (Ἰνδός); Hen Bersieg Hindush, talaith ddwyreiniol ymerodraeth Achaemenid ; ac yn y pen draw ei gytras, y Sansgrit Sindhu, neu'r "afon," yn benodol Afon Indus a, thrwy oblygiad, ei basn deheuol sefydlog. Cyfeiriodd yr hen Roegiaid at yr Indiaid fel Indoi (Ἰνδοί), sy'n cyfieithu fel "Pobl yr Indus".
Mae'r term Bharat (Bhārat; ynganiad [Bʱaːɾət] wedi'i grybwyll droeon o fewnbarddoniaeth epig India ac o fewn Cyfansoddiad India, a chaiff ei ddefnyddio mewn amrywiad o ieithoedd India am y wlad. Daw'r gair modern hwn o'r enw hanesyddol Bharatavarsha, a oedd yn berthnasol yn wreiddiol i ogledd India, \ond daeth y term Bharat yn fwyfwy poblogaidd o ganol y 19g fel enw brodorol ar India.
Mae'r enw Hindustan ([ɦɪndʊˈstaːn] yn enw Persiaidd Canol ar India, a gyflwynwyd yn ystod Ymerodraeth y Mughal ac a ddefnyddir yn helaeth ers hynny. Mae ei ystyr wedi amrywio, gan gyfeirio at ranbarth sy'n cwmpasu gogledd India a Phacistan heddiw neu India yn ei chyfanrwydd bron.
Mae hanes India yn dechrau gyda dechreuad sefydliadau parhaol tua 9,000 o flynyddoedd yn ôl. Yn yr ardal o amgylch Afon Indus, datblygodd rhain i greu Gwareiddiad Dyffryn Indus tua 3300 CC.; un o'r gwareiddiadau cynharaf yn hanes dynoliaeth. Dilynwyd y cyfnod yma gan y Cyfnod Fedig, pan osodwyd seiliau crefydd Hindwaeth. O tua 550 CC. sefydlwyd nifer o deyrnasoedd a elwid y Mahajanapadas ar draws y wlad.
Yn y 3 CC, roedd India a rhannau eraill o dde Asia yn rhan o Ymerodraeth Maurya dan Ashoka Fawr. O tua 180 CC bu nifer o ymosodiadau ac ymfudiadau o'r gogledd. O'r 3g OC sefydlwyd Ymerodraeth y Gupta.
O'r 12g ymlaen, daeth gogledd India gan ddylanwad rheolwyr Islamaidd, yn wreiddiol o Ganolbarth Asia; yn gyntaf Swltaniaeth Delhi, ac yn ddiweddarach Ymerodraeth y Mughal. Yn ne India, roedd nifer o deyrnasoedd brodorol, megis Ymerodraeth Vijayanagara. Ganychodd pwer y Mughal yn y 17ed a'r 18g, a daeth Ymerodraeth Maratha yn bwerus. Yn ystod y 18g, dechreuodd nifer o wledydd Ewropeaidd sefydlu tiriogaethau, ac erbyn 1856, roedd y rhan fwyaf o India yng ngafael y British East India Company.
Y flwyddyn wedyn bu gwrthryfel ar raddfa fawr, Gwrthryfel India 1857. Cafodd y gwrthryfelwyr gryn lwyddiant at y cychwyn, ond yn y diwedd gorchfygwyd hwy gan y fyddin Brydeinig. Daeth India'n rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig.
Dechreuodd mudiad cenedlaethol ym mlynyddoedd cynnar yr 20g, ac yn y 1920au a'r 1930au bu cyfres o brotestiadau di-drais dan arweniad Mahatma Gandhi. Ar 15 Awst 1947, daeth India yn wlad annibynnol, ond daeth rhan o'i thiriogaeth yn wlad Pacistan. Dair blynedd yn ddiweddarach, ar 26 Ionawr 1950, daeth India yn weriniaeth.
Ers hynny, bu rhyfel a Gweriniaeth Pobl Tsieina yn 1962 ynghylch y ffîn yn y gogledd-ddwyrain, a bu tri rhyfel yn erbyn Pacistan, yn 1947, 1965 a 1971. Yn 1974, arbrofodd India gyda bom atomig, a gydag arbrofion pellach yn 1998. Ers newidiadau economaidd yn 1991, mae economi India wedi tyfu'n gyflym, ac o ganlyniad mae dylanwad rhyngwladol y wlad wedi cynyddu.
Mae mwy nag 800 o ieithoedd yn cael eu siarad yn India (gweler Rhestr o ieithoedd India), rhai ohonynt gyda rhai cannoedd o filynau o siaradwyr ac eraill gyda llai na 100. Mae'r ieithoedd mwyaf yn cynnwys Hindi (337 miliwn / 40.0%), Bengaleg (69 miliwn / 8.30%), Telugu (69 miliwn / 7.87%), Marathi (68 miliwn / 7.45%), Tamileg (66 miliwn / 6.32%), Wrdw (60 miliwn / 5.18%), Gujarati (46 miliwn / 4.85%), Kannada (35 miliwn / 3.91%), Malayalam (35 miliwn / 3.62%), Oriya (32 miliwn / 3.35%) a Punjabi (23 miliwn / 2.79%). Mae gan India sawl llenyddiaeth felly. Mae'n gartref yn ogystal i lenyddiaeth Sanscrit, un o'r hynaf yn y byd.
Hindŵaeth yw prif grefydd y wlad, ond ceir yn ogystal lleiafrifoedd sylweddol o ddilynwyr Siciaeth, Jainiaeth ac Islam. Mewn rhai taleithiau, yn arbennig yn Goa a'r Gogledd-ddwyrain (e.e. Khasia), ceir canran sylweddol o Gristnogion. India yw mamwlad Bwdhiaeth ond ni cheir llawer o Fwdyddion yno heddiw, ac eithrio yn Ladakh a Zanskar, a'r ffoaduriaid o Dibet mewn rhannau eraill o'r Himalaya Indiaid.
Mae India'n wlad ddemocrataidd a reolir gan Senedd India. Rhennir y senedd yn ddau siambr, sef y Lok Sabha etholedig sy'n cynrychioli'r bobl yn uniongyrchol (fel Tŷ'r Cyffredin) a'r Rajya Sabha sy'n cynrychioli'r taleithiau. Mae'r blaid gyda'r mwyafrif o seddau yn y Lok Sabha yn ffurfio'r llywodraeth ac yn dewis prif weinidog. Mae gan India arlywydd yn ogystal. (Am lywodraeth y taleithiau a'r rhanbarthau, gweler isod).
Rhennir India yn 29 talaith a saith tiriogaeth undebol a reolir gan y llywodraeth ffederal. Mae gan bob talaith, ynghyd â thiriogaethau undebol Delhi a Pondicherry, eu llywodraethau etholedig eu hunain. Mae'r pum tiriogaeth undebol eraill yn cael eu rheoli gan weinyddwyr a apwyntir gan y llywodraeth ganolog. Yn ogystal, rhennir pob talaith a thiriogaeth undebol yn rhanbarthau (District). Weithiau, yn achos taleithiau mawr, unir rhai rhanbarthau i ffurfio division. Rhennir pob rhanbarth yn ei thro yn sawl Tehsil.
India yw'r rhan fwyaf o isgyfandir India, sy'n gorwedd ar ben plât tectonig India, sy'n rhan o Blât Indo-Awstraliaidd. Dechreuodd prosesau daearegol ddiffinio India tua 75 miliwn o flynyddoedd yn ôl (CP) pan gychwynnodd Plât India, a oedd ar y pryd yn rhan o uwch- gyfandir deheuol Gondwana, ddrifftio o'r gogledd i'r dwyrain. Ar yr un pryd, dechreuodd cramen gefnforol helaeth Tethya, i'r gogledd-ddwyrain, dynnu o dan y Plât Ewrasiaidd. Creodd y prosesau hyn, a ysgogwyd gan darfudiad ym mantell y Ddaear, Gefnfor India gan beri i gramen gyfandirol India danseilio Ewrasia yn y pen draw, a chodi'r Himalaya. Yn union i'r de o'r Himalaya sy'n dod i'r amlwg, creodd symudiad plât gafn anferth a lanwodd yn gyflym â gwaddod a gludir gan afon ac sydd bellach yn ffurfio'r Gwastadedd Indo-Gangetig. Wedi ei dorri i ffwrdd o'r gwastadedd ger Bryniau Aravalli hynafol mae Anialwch Thar.
Mae'r Plât Indiaidd gwreiddiol wedi goroesi fel penrhyn India, y rhan hynaf a mwyaf sefydlog yn ddaearegol o India. Mae'n ymestyn i ystodau Satpura yn y gogledd a Vindhya yng nghanol India. Mae'r cadwyni cyfochrog hyn yn rhedeg o arfordir Môr Arabia (yn Gujarat) yn y gorllewin i Lwyfandir Chota Nagpur (yn Jharkhand) yn y dwyrain. I'r de, ar naill ochr a'r llall i'r penrhyn sy'n weddill, sef Llwyfandir Deccan,saif y mynyddoedd arfordirol a elwir y Ghats; mae llwyfandir Daccan yn cynnwys ffurfiannau creigiau hynaf y wlad, rhai dros biliwn o flynyddoedd oed. Gorwedd India i'r gogledd o'r cyhydedd rhwng lledred 6° 44′ a 35° 30′ i'r gogledd a hydred 68° 7′ a 97° 25′ i'r dwyrain.
Mae morlin India'n mesur 7,517 km (4,700 milltir) o hyd. Yn ôl siartiau hydrograffig llynges India, mae arfordir y tir mawr yn cynnwys y canlynol: 43% o draethau tywodlyd; glannau creigiog a chlogwyni, 11%; a 46% o wastadeddau llaid neu lannau corsiog. Ymhlith yr afonydd mawr sy'n tarddu yn yr Himalaya, ac sy'n llifo trwy India mae'r Afon Ganga ac Afon Brahmaputra, ac y mae'r ddwy ohonynt yn draenio i Fae Bengal. Mae llednentydd pwysig y Ganga'n cynnwys Afon Yamuna a'r Kosi; mae graddiant hynod isel yr olaf, a achosir gan ddyddodiad silt dros dymor hir, yn arwain at lifogydd difrifol a newidiadau cwrs yr afon. Ymhlith yr afonydd penrhyn mawr mae'r Godavari, y Mahanadi, y Kaveri, a'r Krishna, sydd hefyd yn draenio i Fae Bengal; a'r Narmada a'r Tapti, sy'n draenio i Fôr Arabia. Ymhlith nodweddion yr arfordir mae Rann corsiog Kutch yng ngorllewin India a delta llifwaddodol Sundarbans dwyrain India; rhennir yr olaf â Bangladesh. Mae gan India ddau ynysfor : y Lakshadweep, atolllau cwrel oddi ar arfordir de-orllewinol India; ac Ynysoedd Andaman a Nicobar, sef cadwyn folcanig ym Môr Andaman.
Mae hinsawdd India'n cael ei dylanwadu'n gryf gan yr Himalaya ac Anialwch Thar, ac mae'r ddau hyn yn gyrru monsŵns haf a gaeaf. Mae'r Himalaya'n atal gwyntoedd katabatig oer Canol Asia rhag chwythu i mewn, gan gadw mwyafrif isgyfandir India yn gynhesach na'r mwyafrif o leoliadau mewn lledredau tebyg. Mae Anialwch Thar yn chwarae rhan hanfodol wrth ddenu'r gwyntoedd monsŵn haf de-orllewin llawn lleithder sydd, rhwng Mehefin a Hydref, yn darparu'r mwyafrif o lawiad India. Pedwar prif grŵp hinsoddol sy'n dominyddu yn India: gwlyb trofannol, sych trofannol , llaith isdrofannol, a mynyddig .
Mae tymeredd India wedi codi 0.7 °C (1.3 °F) rhwng 1901 a 2018. Credir yn aml mai newid hinsawdd yn India yw'r achos. Mae enciliad rhewlifoedd Himalaya wedi effeithio'n andwyol ar gyfradd llif prif afonydd yr Himalaya, gan gynnwys y Ganga a'r Brahmaputra. Yn ôl rhai rhagamcanion diweddar (2021), bydd nifer (a difrifoldeb) sychderoedd yn India wedi cynyddu’n sylweddol erbyn diwedd y ganrif bresennol.
Mae India yn wlad mega-amrywiol, term a ddefnyddir am 17 gwlad sy'n arddangos bioamrywiaeth uchel ac sy'n cynnwys llawer o rywogaethau sy'n frodorol neu'n endemig yn unig. Mae India'n gynefin i 8.6% o'r holl rywogaethau o famaliaid, 13.7% o rywogaethau o adar, 7.9% o rywogaethau o ymlusgiaid, 6% o rywogaethau o amffibiaid, 12.2% o rywogaethau o bysgod, a 6.0% o'r holl rywogaethau o blanhigion blodeuol. Mae traean o rywogaethau o blanhigion India'n endemig. Mae India hefyd yn cynnwys pedwar o'r 34 lle problemus o ran bioamrwyiaeth y byd, neu llefydd sy'n colli eu cynefin yn sylweddol.
Ymhlith coed cynhenid nodedig isgyfandir India mae'r Azadirachta indica, neu neem, a ddefnyddir yn helaeth mewn meddygaeth lysieuol Indiaidd wledig, a'r Ficus religiosa moethus, neu peepul.
Mae llawer o rywogaethau India wedi tarddu o Gondwana, yr uwchgyfandir deheuol y gwahanodd India oddi wrtho fwy na 100 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Yn dilyn gwrthdrawiad dilynol India ag Ewrasia gwelwyd cyfnewid rhywogaethau ar raddfa enfawr. Fodd bynnag, achosodd llosgfynyddoedd a newid hinsawdd, yn ddiweddarach, ddifodiant llawer o rywogaethau endemig. Peth amser wedyn, aeth mamaliaid i mewn i India o Asia trwy ddyffrynoedd yr Himalaya. Effaith hyn oedd gostwng endemiaeth ymhlith mamaliaid India, sef 12.6%, mewn cyferbyniad â 45.8% ymhlith ymlusgiaid a 55.8% ymhlith amffibiaid.
Mae gan India 172 o rywogaethau anifeiliaid sydd dan fygythiad wedi'u dynodi gan IUCN, neu 2.9% o ffurfiau sydd mewn perygl. Mae'r rhain yn cynnwys teigr Bengal sydd mewn perygl a dolffin afon Ganges . Ymhlith y rhywogaethau sydd mewn perygl difrifol mae: y gharial, crocodeiliad; ceiliog gwaun mawr India; a fwltur cefnwyn India. Mae tresmasu dynol treiddiol wedi bod yn ecolegol ddinistriol dros y degawdau diwethaf , ac wedi peryglu bywyd gwyllt India. Mewn ymateb, ehangwyd y system parciau cenedlaethol ac ardaloedd gwarchodedig, a sefydlwyd gyntaf ym 1935, yn sylweddol. Ym 1972, pasiodd llywodraeth India y Ddeddf Diogelu Bywyd Gwyllt a Project Tiger i ddiogelu'r anialwch hanfodol; pasiwyd Deddf Cadwraeth Coedwigoedd ym 1980 ac ychwanegwyd gwelliannau ym 1988. Mae India'n gartref i fwy na phum cant o warchodfeydd bywyd gwyllt ac 13 biosffer, gyda phedwar ohonynt yn rhan o Rwydwaith Gwarchodfeydd Biosffer y Byd; mae 25 o wlyptiroedd wedi'u cofrestru o dan Gonfensiwn Ramsar.
Rhif | Dinas | Talaith | Poblogaeth | Rhif | Dinas | Talaith | Poblogaeth | |||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
1 | Mumbai | Maharashtra | 13,662,885 | 11 | Jaipur | Rajasthan | 2,997,114 | |||
2 | Delhi | Delhi | 11,954,217 | 12 | Lucknow | Uttar Pradesh | 2,621,063 | |||
3 | Bangalore | Karnataka | 5,180,533 | 13 | Nagpur | Maharashtra | 2,359,331 | |||
4 | Kolkata | Gorllewin Bengal | 5,021,458 | 14 | Indore | Madhya Pradesh | 1,768,303 | |||
5 | Chennai | Tamil Nadu | 4,562,843 | 15 | Patna | Bihar | 1,753,543 | |||
6 | Hyderabad | Andhra Pradesh | 3,980,938 | 16 | Bhopal | Madhya Pradesh | 1,712,355 | |||
7 | Ahmedabad | Gujarat | 3,867,336 | 17 | Thane | Maharashtra | 1,673,465 | |||
8 | Pune | Maharashtra | 3,230,322 | 18 | Ludhiana | Punjab | 1,662,325 | |||
9 | Surat | Gujarat | 3,124,249 | 19 | Agra | Uttar Pradesh | 1,590,073 | |||
10 | Kanpur | Uttar Pradesh | 3,067,663 | 20 | Vadodara | Gujarat | 1,487,956 | |||
amcangyfrif 2008 |
Yn ôl y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF), roedd economi India yn 2020 yn werth $2.7 triliwn; hi yw'r chweched economi fwyaf yn ôl cyfraddau cyfnewid y farchnad, ac mae tua $ 8.9 triliwn, sef y trydydd-fwyaf trwy brynu cydraddoldeb pŵer (PPP). Gyda'i chyfradd twf GDP blynyddol ar gyfartaledd yn 5.8% dros y ddau ddegawd diwethaf, gan gyrraedd 6.1% yn ystod 2011-2012, India yw un o'r economïau sy'n tyfu gyflymaf yn y byd. Fodd bynnag, mae'r wlad yn safle 139 yn y byd mewn CMC enwol y pen gan fod yno gymaint o bobl tlawd, a hi yw'r 118fed mewn GDP y pen yn PPP. Yn yr un cyfnod roedd Cymru tua'r 32fed safle yn y byd.
Hyd at 1991, roedd holl lywodraethau India wedi dilyn polisïau amddiffynnol a a ddylanwadwyd arnynt gan economeg sosialaidd. Roedd ymyrraeth a rheoleiddio eang y wladwriaeth i raddau helaeth yn cau'r economi o'r byd y tu allan. Gorfododd argyfwng cydbwysedd taliadau difrifol ym 1991 y genedl i ryddfrydoli ei heconomi; ers hynny mae wedi symud yn araf tuag at system marchnad rydd trwy bwysleisio masnach dramor a mewnlifiadau buddsoddi uniongyrchol. Bu India'n aelod o WTO ers 1 Ionawr 1995.
Yn 2017, roedd gan weithlu India 522 miliwn o weithwyr, sef yr ail-fwyaf y byd. Mae'r sector gwasanaeth yn cyfrif am 55.6% o GDP (CMC), y sector diwydiannol 26.3% a'r sector amaethyddol 18.1%. Ymhlith y prif gynhyrchion amaethyddol mae: reis, gwenith, had olew, cotwm, jiwt, te, siwgrcan a thatws. Ymhlith y prif ddiwydiannau mae: tecstilau, telathrebu, cemegau, moddion fferyllol, biotechnoleg, prosesu bwyd, dur, offer cludo, sment, mwyngloddio, petroliwm, peiriannau a meddalwedd. Yn 2006, roedd cyfran y fasnach allanol yn CMC India yn 24%, i fyny o 6% ym 1985. Yn 2008, cyfran India o fasnach y byd oedd 1.68%; Yn 2011, India oedd degfed mewnforiwr mwyaf y byd a'r 25ed allforiwr Mae allforion mawr yn cynnwys: cynhyrchion petroliwm, nwyddau tecstilau, gemwaith, meddalwedd, nwyddau peirianneg, cemegolion, a nwyddau lledr wedi'u cynhyrchu, ac mae'r prif fewnforion yn cynnwys: olew crai, peiriannau, gemau, gwrtaith a chemegau. Rhwng 2001 a 2011, tyfodd cyfraniad nwyddau petrocemegol a pheirianneg y wlad i gyfanswm allforion o 14% i 42%. India oedd allforiwr tecstilau ail fwyaf y byd ar ôl Tsieina yn 2013. Yn ôl adroddiad gan PricewaterhouseCoopers (PwC) yn 2011, fe all CMC India ar gydraddoldeb pŵer prynu oddiweddyd yr Unol Daleithiau erbyn 2045 Yn ystod y pedwar degawd nesaf, mae disgwyl i GDP India dyfu ar gyfartaledd blynyddol o 8%, gan ei gwneud hi, o bosib, yr economi gyda'r twf cyflymaf yn y byd, tan 2050. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at ffactorau twf allweddol: poblogaeth ifanc o oedran gweithio sy'n tyfu'n gyflym; twf yn y sector gweithgynhyrchu oherwydd lefelau sgiliau addysg a pheirianneg yn codi; a thwf parhaus yn y farchnad defnyddwyr wedi'i yrru gan ddosbarth canol sy'n tyfu'n gyflym. Mae Banc y Byd yn rhybuddio, er mwyn i India gyflawni ei photensial economaidd, bod yn rhaid iddi barhau i ganolbwyntio ar ddiwygio'r sector cyhoeddus, seilwaith trafnidiaeth, datblygu amaethyddol a gwledig, cael gwared ar reoliadau llafur, addysg, diogelwch ynni, ac iechyd a maeth y cyhoedd.
Diwydiant telathrebu India yw'r ail-fwyaf yn y byd gyda dros 1.2 biliwn o danysgrifwyr. Mae'n cyfrannu 6.5% at CMC India. Ar ôl trydydd chwarter 2017, rhagorodd India ar yr Unol Daleithiau i ddod yr ail farchnad ffôn clyfar fwyaf yn y byd ar ôl Tsieina.
Cynyddodd diwydiant modurol India, yr ail dyfiant cyflymaf yn y byd, gyda gwerthiannau domestig o 26% yn ystod 2009-2010, ac allforion o 36% yn ystod 2008-2009. Ar ddiwedd 2011, cyflogodd diwydiant TG India 2.8 miliwn o weithwyr proffesiynol, a chynhyrchwyd refeniw o tua UD $100 biliwn yn cyfateb i 7.5% o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth India, a chyfrannodd 26% o allforion nwyddau India.
Cynhyrcha'r wlad 300 gigawat o bŵer trydanol, gyda 42 gigawat yn adnewyddadwy. Yn yr un cyfnod roedd Cymru'n cynhyrchu dros 50% o'i hynni drwy ddulliau adnewyddadwy. Mae defnydd y wlad o lo yn un o brif achosion allyriadau nwyon tŷ gwydr gan India ond mae ei hynni adnewyddadwy yn datblygu'n sydyn Mae India'n allyrru tua 7% o allyriadau nwyon tŷ gwydr y byd, ac mae hyn yn cyfateb i oddeutu 2.5 tunnell o garbon deuocsid y pen y flwyddyn, sef hanner cyfartaledd y byd. Mae cynyddu mynediad at drydan a choginio glân gyda nwy petroliwm hylifedig wedi bod yn flaenoriaethau ar gyfer ynni yn India.
Trosolwg
Geirdarddiad
Hanes
Daearyddiaeth
Bioamrywiaeth
Gwleidyddiaeth
Perthynas tramor
Economi
Demograffeg
Celf
Diwylliant
Taleithiau a thiriogaethau India | |
---|---|
Taleithiau | Andhra Pradesh • Arunachal Pradesh • Assam • Bihar • Chhattisgarh • Goa • Gorllewin Bengal • Gujarat • Haryana • Himachal Pradesh • Jharkhand • Karnataka • Kerala • Madhya Pradesh • Maharashtra • Manipur • Meghalaya • Mizoram • Nagaland • Orissa • Punjab • Rajasthan • Sikkim • Tamil Nadu • Telangana • Tripura • Uttarakhand • Uttar Pradesh |
Tiriogaethau | Ynysoedd Andaman a Nicobar • Chandigarh • Dadra a Nagar Haveli • Daman a Diu • Delhi • Jammu a Kashmir • Lakshadweep • Puducherry |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article India, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.