Hondwras

Gweriniaeth ddemocrataidd yng Nghanolbarth America yw Gweriniaeth Hondwras ( ynganiad brodorol ; Sbaeneg: República de Honduras).

Mae'n ffinio â Gwatemala i'r gorllewin, El Salfador i'r de-orllewin, i'r de gan y Cefnfor Tawel, ac i'r gogledd gan Fôr y Caribî. Arferid cyfeirio ati fel "Hondwras Sbaenig" er mwyn ei gwahaniaethu oddi wrth "Hondwras Prydeinig" (ers hynny: Belîs). Sefydlwyd sawl diwylliant Mesoamericanaidd yma, ganrifoedd cyn i'r dyn gwyn oresgyn y wlad yn y 16g. Mae'r Sbaeneg yn dal i gael ei siarad, ochr yn ochr a'r ieithoedd brodorol. Sicrhawyd annibyniaeth y wlad oddi wrth Sbaen yn 1821. Mae ganddi boblogaeth o 10,062,994 (2021).

Hondwras
República de Honduras
Gweriniaeth Hondwras
Hondwras
ArwyddairLibre, Soberana e Independiente Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad Edit this on Wikidata
PrifddinasTegucigalpa Edit this on Wikidata
Poblogaeth10,062,994 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd1810 (Annibyniaeth oddi wrth Sbaen)
1836 (eu cydnabod gan eraill)
AnthemAnthem Genedlaethol Honduras Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethXiomara Castro Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−06:00, America/Tegucigalpa Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Sbaeneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolAmerica Ladin, Canolbarth America, America Sbaenig Edit this on Wikidata
Arwynebedd112,492 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGwatemala, El Salfador, Nicaragwa Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau14.63333°N 86.81667°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Hondwras Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCynghrair Cenedlaethol Hondwras Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Hondwras Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethXiomara Castro Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Arlywydd Hondwras Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethXiomara Castro Edit this on Wikidata
Hondwras
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$28,489 million, $31,718 million Edit this on Wikidata
ArianLempira Hondwraidd Edit this on Wikidata
Canran y diwaith4 ±1 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant2.382 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.621 Edit this on Wikidata

Mae Hondwras yn un o'r gwledydd tlotaf yn Hemisffer y Gogledd, ac mae awdurdod y wlad yn ganolog ac oddi fewn i'r gymdeithas yn fregys iawn. Yn 1960, trosglwyddwyd yr hyn a elwid yn "Arfordir y Mostgito" o Nicaragua i Hondwras gan y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol. Yn wleidyddol, roedd y wlad yn eitha sefydlog hyd at coup d'état 2009 a'r etholiad arlywyddol yn 2017. Yn niwedd y 2010au, roedd y gymhareb llofruddiaethau i bob mil person, yn Hondwras - a'r trais yn erbyn merched yn waeth nag unrhyw wlad arall ar y blaned.

Amaethyddiaeth yw sail economi'r wlad, a cheir trychinebau natur yn aml, megis Corwynt Mitch yn 1998 a ysgydwodd y wlad i'w seiliau. Yn y trefi a'r dinasoedd mae cyfoeth y wlad, fodd bynnag. Mae Mynegai Datblygiad Dynol ar hyn o bryd yn 0.621.

Cyfeiriadau

Hondwras  Eginyn erthygl sydd uchod am Hondwras. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Tags:

16gBelîsCanolbarth AmericaDelwedd:En-us-Honduras.oggDemocratiaethEl SalfadorEn-us-Honduras.oggGwatemalaGweriniaethMôr y CaribîSbaenSbaenegWicipedia:TiwtorialY Cefnfor Tawel

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Ffiseg gronynnauParc Coffa YnysangharadBermudaNobuyuki KatoEstoniaCynnwys rhyddFabiola de Mora y AragónPedwar mesur ar hugainAnna MarekY Fari LwydRwsiaAberjaberHelen o Waldeck a PyrmontAnna SewardO Princezně, Která RáčkovalaTîm Pêl-droed Cenedlaethol PortiwgalHuey LongWaltham, MassachusettsAshland, OregonChicagoKabsaSendaiHer & HimDewi LlwydCristiano RonaldoThe ApologyRhydychenFfilm yng Nghanada2 TachweddCasachstanAlbert o Sachsen-Coburg a GothaWordPressEginegEv Dirəyi-El DirəyiCernywegGweriniaethUndeb llafurCyfathrach Rywiol FronnolBernie NolanWicipediaLloegrMamalCyfathrach rywiol35 DiwrnodPandemig COVID-19PaffioSimon BowerTeyrnas GwyneddFozil MusaevBrenhinllin TangEwropY Llynges FrenhinolCreampieEos (asiantaeth hawliau darlledu)Mathilde BonaparteFaytonçuY we fyd-eang2 Ionawr🡆 More