Cofiwch! |
Byw yng ngwledydd Prydain? Gallwch ffonio'r Samariaid am ddim ar: 116 123 unrhyw dro, os ydych yn teimlo'n isel. |
Y weithred o unigolyn yn terfynu bywyd ei hun yn fwriadol yw hunanladdiad. Yn aml, cyflawnir hunanladdiad am fod person yn teimlo heb obaith, neu oherwydd anhwylder meddyliol a allai gynnwys iselder, anhwylder deubegwn, sgitsoffrenia, alcoholiaeth neu gam-ddefnydd o gyffuriau. Mae anhawsterau ariannol, problemau gyda pherthynas rhyngbersonol a sefyllfaoedd annymunol eraill yn medru chwarae rhan hefyd.
Mae dros filiwn o bobl yn farw drwy hunanladdiad yn flynyddol. Dyma yw'r prif achos o farwolaeth ymysg pobl yn eu harddegau ac oedolion o dan 35 oed. Mae cyfraddau hunanladdiad yn uwch ymysg dynion na menywod. Amcangyfrifir fod rhwng 10 ac 20 miliwn o bobl yn ceisio cyflawni hunanladdiad yn flynyddol yn aflwyddiannus.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Hunanladdiad, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.