Gair Japaneg ydy Hentai (変態 or へんたい) (clywed yr ynganiad (help·info)) sy'n disgrifio math o gomics neu animediiadau pornograffig (neu sy'n cynnwys lluniau o ryw eithafol) sy'n dod o Japan fel arfer.
Gellwch ddweud fod anime, manga ac eroge yn fathau o hentai. Mae Bible Black yn esiampl o hentai.
Mae'r gair yn un cyfansawdd: mae 変 (hen; "newid", "od", neu "estron") yn cyfuno efo 態 (tai; "ymddygiad" neu "edrychiad"). Mae'n derm sydd wedi'i fyrhau o'r dywediad 変態性欲 (hentai seiyoku) sy'n golygu "sexual perversion". Mewn slang Japanaeg, mae "hentai"'n cael ei ddefnyddio fel gair i ddilorni rhywun ac mae'n golygu yn y cyd-destun yma "dyn bydr" neu "weirdo".
Mae'r defnydd o'r gair yn y Saesneg ychydig yn wahanol, ac yn debycach i ddefnydd slang y Japani o'r gair エッチ (H neu ecchi), sy'n golygu unrhyw gynnwys sy'n ymwneud efo rhyw. Anaml iawn mae pobl o Japan yn defnyddio "hentai" i olygu pornograffi neu anime. Maen nhw'n defnyddio dau derm arall:
Yn answyddogol hefyd mae pobl Japan yn defnyddio termau fel anime ero (エロアニメ), manga ero (エロ漫画), a'r acronym Seisnig AV (am "adult video" neu fideo i oedolion).
Y ffilm animeiddieig cyntaf, mae'n debyg, oedd One Thousand and One Nights ac roedd yn para 130 munud. Yna cyhoeddwyd cyfres o'r enw Lolita Anime, sef yr animeiddiad hentai cyntaf yn 1984 gan gwmni Wonder Kids. Roedd y ffilm hon yn cynnwys bondais, rhaib a rhyw dan oed. Daeth Cream Lemon ar ei ôl gan gwmni Fairy Dust, ffilm sy'n cynnwys llawer o'r themau sy'n dal i'w gweld mewn hentai cyfoes. Cyfres o dair ffilm oedd The Brothers Grime wedi'i gynhyrchu gan Excalibur Films yn 1986, 1987, and 1988 a dyma anime mwyaf poblogaidd Japan nes cyhoeddiwyd Urotsukidoji.
Mae yna lawer o ffetish gwahanol mewn hentai e.e.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Hentai, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.