Gwlad yn nwyrain Asia yw Gweriniaeth Pobl Ddemocrataidd Corea (Chosŏn'gŭl: 조선민주주의인민공화국; Chosŏn Minjujuŭi Inmin Konghwaguk) neu Gogledd Corea (gwrando).
Mae wedi'i lleoli yn hanner gogleddol Penrhyn Corea. Mae'n ffinio â De Corea i'r de, Tsieina i'r gogledd a Rwsia i'r gogledd-ddwyrain. Ei phrifddinas yw Pyongyang sef dinas fwyaf y wlad o ran poblogaeth ac arwynebedd. Ceir dwy afon ar y ffin gyda Tsieina: Afon Amnok ac Afon Tumen. Mae gan y wlad arfau niwclear ac wedi dod a'u trafodaethau heddwch, gyda De Corea a'r UDA i ben. Mae'r Unol Daleithiau a Tsieina wedi cytuno ar sancsiynau newydd i gosbi Gogledd Corea am ddatblygu taflegrau pellgyrhaeddol, ac am eu profion niwclear diweddar (2013).
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad, gweriniaeth y bobl, hermit kingdom |
---|---|
Prifddinas | P'yŏngyang |
Poblogaeth | 25,490,965 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Aegukka |
Pennaeth llywodraeth | Kim Jae-ryong |
Cylchfa amser | UTC+09:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | North Korean standard language, Coreeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dwyrain Asia |
Gwlad | Gogledd Corea |
Arwynebedd | 120,540 ±1 km² |
Gerllaw | Y Môr Melyn, Môr Japan |
Yn ffinio gyda | De Corea, Rwsia, Gweriniaeth Pobl Tsieina |
Cyfesurynnau | 40°N 127°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of North Korea |
Corff deddfwriaethol | Supreme People's Assembly |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Supreme Leader of North Korea |
Pennaeth y wladwriaeth | Kim Jong-un |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Premier of North Korea |
Pennaeth y Llywodraeth | Kim Jae-ryong |
Arian | North Korean won |
Cyfartaledd plant | 1.979 |
Conglfaen eu hathrawiaeth ydy disgyblaeth wleidyddol y Chuch'e (neu Juche), sef athrawiaeth Kim Il-sung sy'n mynnu fod datblygiad y wlad yn nwylo'r werin datws. Defnyddir yr athrawiaeth hon gan Lywodraeth y wlad i gyfiawnhau ei gweithredoedd.
Collodd Gogledd Corea ffrind mynwesol a phwerus pan ddatgymalwyd yr Undeb Sofietaidd ym 1991, er bod ganddi gysylltiad cryf gyda Tsieina. Ar ben hyn dioddefodd y wlad oherwydd sawl trychineb naturiol a phrofodd newyn enbyd rhwng 1994 a 1998; credir i rhwng 240,000 i 1,000,000 o bobl farw.
Llywodraethwyd y penrhyn gan Ymerodraeth Corea o ddiwedd y 19g i ddechrau'r 20g, pan gafod ei reoli gan Japan yn 1910. Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd peidiodd y cysylltiad hwn gyda Japan a rhannwyd y penrhyn yn ddau gyda Rwsia'n rheoli'r gogledd ac Unol Daleithiau America'n rheoli'r de. Ym 1948, dan oruchwyliaeth y Cenhedloedd Unedig, cynhaliwyd etholiadau yn y ddwy wlad a chyhoeddwyd dwy lywodraeth ar wahân yn y ddau ranbarth: Gwladwriaeth Ddemocrataidd Pobl Corea yn y gogledd a Gwladwriaeth Corea yn y de.
Cyhoeddodd y gogledd a'r de, yn eu tro, eu hawl sofran i reoli'r penrhyn cyfan a ffrwydrodd y dadlau'n rhyfel erbyn 1950: Rhyfel Corea.
Ymosododd Gogledd Corea ar y De, dan eu harweinydd comiwnyddol Kim Il-sung rhwng 1950 a 1953, ond cawsant eu hatal gan fyddin yr UDA. Ers hynny dysgir plant ysgolion y Gogledd fod milwyr America wedi cyflawni erchyllterau rhyfel yn erbyn pobl y wlad. Cânt eu cyflyru i gredu y daw dydd pan fydd America'n ailadrodd hyn ac mai'r unig ymwared rhag y fath ymosodiad yw cadernid y teulu Kim, a'u harbedodd y tro diwethaf yn 1953. Cafwyd cadoediad yn 1953, ond yn swyddogol mae'r ddwy wlad yn parhau i fod mewn stâd o ryfel, gan nad arwyddwyd y cytundeb. Derbyniwyd y ddwy wlad fel aelodau o'r Cenhedloedd Unedig yn 1991.
Wedi marwolaeth Kim Il-sung, mabwysiadwyd ei athrawiaeth Chuch'e yn lle sosialaeth Marx-Lennin drwy'r wlad pan gyhoeddwyd Cyfansoddiad Gogledd Corea yn 1973. Yn 2009, dilëwyd pob cyfeiriad at gomiwnyddiaeth (Chosŏn'gŭl: 공산주의) o'r Cyfansoddiad.
Dyrchafwyd Kim yn "Llywydd Tragwyddol" y wlad, gan roi elfen ddwyfol iddo.
Yn ôl y chwedl, gwelwyd enfys ddwbl ar ddiwrnod genedigaeth Kim, yn arwydd o'i enedigaeth fraint a'i ddwyfoldeb. Fe'i dyrchafwyd yn dduw mabolgampau a cheir nifer o storïau swyddogol sy'n ei godi'n uwch na'r cyffredin e.e. yn ei gêm gyntaf o golff, llwyddodd i daro 11 twll-mewn-un. Stori arall a grëwyd gan y wlad yw iddo arwain tim pêl-droed Gogledd Corea yng Nghwpan y Byd gyda thechnoleg "ffôn-llaw anweledig" roedd Kim ei hun wedi'i ddyfeisio.
O ganlyniad i ddatgymalu'r Undeb Sofietaidd a chreu Gogledd Corea'n wlad ynysig, unig, galwyd hi'n "Deyrnas Feudwyaidd" neu "Meudwy o Wlad" sy'n ailwampiad o enw a dadogwyd i Ymerodraeth Corea yntau flynyddoedd yn ôl. Ceir etholiadau, mewn enw'n unig, a gelwir y Weriniaeth gan y cyfryngau'n "Unbennaeth Stalinistaidd a Thotalitaraidd."
Etifeddodd Kim yr arweinyddiaeth yn 2011, a gwelwyd ar unwaith ei fod yn arweinydd "a'i draed ar y ddaear", gan ymweld yn aml â'r bobl gyffredin a gwenu llawer. Trydydd mab Kim Jong-il oedd ef.
Mae addysg i bawb, o bob oed, am ddim. Mae'n un o wledydd mwyaf llythrennog y byd gyda chyfartaledd o 99% o bobl yn medru darllen ac ysgrifennu. Ceir gwasanaeth iechyd cenedlaethol sy'n gyfan gwbl am ddim i bawb. Mae'r wlad hefyd yn cyfrannu'n helaeth i ddod a phrisiau bwyd i lawr.
Gorwedd y Wladwriaeth rhwng lledred 37° a 43°Gog a hydred 124° a 131°Dwy. Mae ganddo arwynebedd o 120,540 km2. I'r gorllewin saif y Môr Melyn a Bae Corea a thros Fôr Japan mae Japan ei hun. Y copa uchaf yn y wlad ydy Mynydd Baekdu sy'n 2,744 m a'r afon hiraf ydy Afon Amnok sy'n llifo am 790 m. Y brifddinas (a'r ddinas fwyaf) ydy Pyongyang; ac ymhlith dinasoedd pwysicaf y wlad mae Kaesong yn y de, Sinuiju yn y gogledd-orllewin, Wonsan a Hamhung yn y dwyrain a Chongjin yn y gogledd-ddwyrain.
Map | Enwa | Chosŏn'gŭl | Rhanbarth weinyddol | ||
---|---|---|---|---|---|
Prifddinas (chikhalsi)a | |||||
1 | Pyongyang | 평양직할시 | (Chung-guyok) | ||
Dinas arbennig (teukbyeolsi)a | |||||
2 | Rason * | 라선특별시 | (Rajin-guyok) * | ||
Rhanbarth (do)a | |||||
3 | De Pyongan | 평안남도 | Pyongsong | ||
4 | Gogledd Pyongan | 평안북도 | Sinuiju | ||
5 | Rhanbarth Chagang | 자강도 | Kanggye | ||
6 | Rhanbarth De Hwanghae | 황해남도 | Haeju | ||
7 | Rhanbarth Gogledd Hwanghae | 황해북도 | Sariwon | ||
8 | Rhanbarth Kangwon | 강원도 | Wonsan | ||
9 | Rhanbarth De Hamgyong | 함경남도 | Hamhung | ||
10 | Rhanbarth Gogledd Hamgyong | 함경북도 | Chongjin | ||
11 | Rhanbarth Ryanggang * | 량강도 | Hyesan | ||
* – Cofnodir mewn tafodiaith y De fel "Yanggang" (양강), "Nason" (나선), neu "Najin" (나진). |
Yn ôl Amnest Rhyngwladol a'r Human Rights Watch ceir cyfyngiadau ar hawliau sylfaenol dinasyddion y wlad, er bid y Llywodraeth yn wfftio hyn.
Yn y 1990au cosbwyd pobl y wlad a oedd yn gwrando ar Radio De Corea yn ddifrifol; danfonwyd nifer i garchardai am ganu caneuon o Dde Corea.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gogledd Corea, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.