Mae canabis, a elwir hefyd yn mariwana, ganja (Hindi: गांजा gānjā), gêr, reu, neu mwg drwg yn gynnyrch seicoweithredol sy'n deillio o'r planhigyn Canabis.
Mae ffurf berlysiol y cyffur yn cynnwys blodau aeddfed y planhigyn wedi'u sychu ynghyd â dail o'r planhigyn. Mae'r ffurf resin, sy'n cael ei alw'n hashish yn bennaf, yn cynnwys blew chwarennol wedi'u casglu'r o'r un defnydd planhigyn. Y prif gyfansoddyn cemegol biolegol byw mewn canabis yw Δ9-tetrahydrocannabinol (delta-9-tetrahydrocannabinol), a gyfeirir ato'n gyffredinol fel THC. Mae'r ddynol ryw wedi bod yn defnyddio canabis ers cyn hanes, ond ers yr 20g mae cynnydd wedi bod yn y defnydd ohono at ddibenion hamdden, crefyddol, ysbrydol a meddygol. Amcangyfrifir bod tua phedwar y cant o boblogaeth oedolion y byd yn defnyddio canabis yn flynyddol, a 0.6 y cant yn ddyddiol. Daeth bod ym meddiant, defnyddio neu werthu cynnyrch seicoweithredol canabis yn anghyfreithiol yn y rhan fwyaf o wledydd y byd yn ystod yr 20g. Ers hynny, mae rhai gwledydd wedi ceisio gwahardd y defnydd o ganabis yn llwyr, tra bo gwledydd eraill wedi dewis ei gyfreithloni neu leihau lefel difrifoldeb bod â chanabis yn eich meddiant.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Canabis (cyffur), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.