Cyfnod chwyldroadol yn hanes Ewrop oedd y Dadeni Dysg, neu yn syml y Dadeni, sydd yn nodi'r trawsnewid o'r Oesoedd Canol i'r cyfnod modern.
Prif nodwedd yr oes hon oedd yr ailddeffroad yn nysgeidiaeth clasurol a'r ymdrech i adfywio ac adeiladu ar syniadau a gwerthoedd yr Henfyd, yn enwedig drwy ddyneiddiaeth. Dechreuodd ar droad y 13g a'r 14g yn yr Eidal, ac oddi yno ymledodd yn gyntaf yn y 15g i Sbaen a Phortiwgal ac yn yr 16g i'r Almaen, Ffrainc, y Gwledydd Isel, Lloegr, a Gwlad Pwyl. Datblygodd yng nghyd-destun argyfyngau'r Oesoedd Canol Diweddar a newidiadau cymdeithasol mawr y 14g a'r Diwygiad Protestannaidd yn y 15g. Yn ogystal â'r adfywiad clasurol a dyneiddiaeth, a fynegir drwy gyfryngau llenyddiaeth, celf, pensaernïaeth, a cherddoriaeth, nodir y Dadeni gan ddyfeisiau a darganfyddiadau newydd, gan gynnwys y cwmpawd, powdwr gwn, a'r wasg argraffu.
Trem ar Fflorens, un o brif ddinasoedd y Dadeni Dysg. | |
Enghraifft o'r canlynol | symudiad celf, mudiad diwylliannol |
---|---|
Dechreuwyd | 14 g |
Daeth i ben | 17 g |
Rhagflaenwyd gan | celf Gothig, yr Oesoedd Canol, Oesoedd Canol Diweddar |
Olynwyd gan | Baróc, Cyfnod Modern Cynnar |
Lleoliad | Ewrop |
Yn cynnwys | y Dadeni Cynnar, yr Uchel Ddadeni, Proto-Renaissance, celf y Dadeni, y Dadeni Eidalaidd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Weithiau, caiff dechrau'r Dadeni Dysg ei ddyddio i farwolaeth yr Ymerawdwr Ffredrig II—yr arweinydd olaf i feddu ar reolaeth dros ogledd a chanolbarth yr Eidal—ym 1250. Dyma ddyddiad digon mympwyol, ond mae'n nodi un o'r elfennau pwysicaf a arweiniai at gychwyniadau'r Dadeni yn yr Eidal, sef annibyniaeth de facto y rhanbarthau hynny a fyddai'n ganolfannau diwylliannol y dyneiddwyr.
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Y Dadeni Dysg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.