Gwlad yng ngorllewin Ewrop yw Teyrnas Gwlad Belg neu Gwlad Belg (Iseldireg: België; Ffrangeg: Belgique; Almaeneg: Belgien).
Mae hi'n ffinio â'r Iseldiroedd, yr Almaen, Lwcsembwrg, Ffrainc a Môr y Gogledd.
Koninkrijk België (Iseldireg) Royaume de Belgique (Ffrangeg) Königreich Belgien (Almaeneg) | |
Arwyddair | Eendracht maakt macht |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, talaith ffederal, gwlad, aelod-wladwriaethau yr Undeb Ewropeaidd, gwlad OECD |
Enwyd ar ôl | Belgae, Gallia Belgica |
Prifddinas | Dinas Brwsel |
Poblogaeth | 11,584,008 |
Sefydlwyd | |
Anthem | la Brabançonne |
Pennaeth llywodraeth | Alexander De Croo |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Nawddsant | Joseff |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Iseldireg, Ffrangeg, Almaeneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Cynghreiriaid, yr Undeb Ewropeaidd, Ewrop, Benelux, y Gwledydd Isel, Ardal Economeg Ewropeaidd |
Arwynebedd | 30,688 km² |
Gerllaw | Môr y Gogledd |
Yn ffinio gyda | yr Almaen, Lwcsembwrg, Ffrainc, Yr Iseldiroedd, Brenhiniaeth yr Iseldiroedd |
Cyfesurynnau | 50.6411°N 4.6681°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Ffederal Gwlad Belg |
Corff deddfwriaethol | Senedd Ffederal Gwlad Belg |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Brenin y Belgiaid |
Pennaeth y wladwriaeth | Philippe, brenin Gwlad Belg |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Gwlad Belg |
Pennaeth y Llywodraeth | Alexander De Croo |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $599,880 million |
Arian | Ewro |
Canran y diwaith | 5.55 canran |
Cyfartaledd plant | 1.75 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.937 |
Mae'r wlad yn fan cyfarfod rhwng y diwylliant Tiwtonaidd a'r diwylliant Ffrengig. Siaredir Iseldireg yng ngogledd y wlad, Ffrangeg yn y de, ac Almaeneg mewn rhannau o'r de-ddwyrain. Ar adegau, mae cryn dyndra wedi datblygu rhwng y ddwy brif garfan ieithyddol. Ceisiwyd delio a'r sefyllfa yma trwy sefydlu rhanbarthau ac ardaloedd ieithyddol o fewn gwladwriaeth ffederal Gwlad Belg.
Rhoddir yr enw "Talwrn Ewrop" ar Wlad Belg am fod nifer o frwydrau pwysig yn hanes Ewrop wedi eu hymladd yno.
Rhennir y wlad yn dair rhanbarth, Rhanbarth Fflandrys, Walonia a Rhanbarth Brwsel-Prifddinas. Mae Fflandrys a Walonia yn cynnwys pum talaith yr un, tra nad yw Rhanbarth y Brifddinas yn rhan o'r system daleithiol.
Sefydlwyd yr ardaloedd ieithyddol (Iseldireg: taalgebieden, Ffrangeg: régions linguistiques) yn 1963, a daethant yn rhan o'r Cyfansoddiad yn 1970. Ceir pedair o'r rhain:
Dynodir hefyd dair cymuned o fewn Gwlad Belg; mae'r rhain yn cyfeirio at y bobl ac nid ydynt yn raniadau daearyddol:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gwlad Belg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.