Llawysgrif ar ffurf llyfr yw codecs (lluosog: codecsau; Lladin: codex).
Yn yr Henfyd, ffurf arferol dogfen o unrhyw hyd sylweddol oedd y sgrôl, sef darn di-dor, hir o bapyrws neu femrwn a fyddai'n cael ei rolio i'w gadw'n ddiogel. Mae'n ymddangos bod y syniad o ysgrifennu ar ddalenni o bapyrws neu femrwn o'r un maint a'u rhwymo rhwng cloriau i mewn i un gyfrol wedi datblygu yn y 1g OC. Mae'r disgrifiad cyntaf o'r peth newydd hwn i'w gael yn ysgrifau bardd Rhufeinig Martial (tua 38–104 OC), a ganmolodd y codecs am ei hwylustod. Mae ymlediad y codecs yn gysylltiedig â chynnydd Cristnogaeth, a fabwysiadodd y fformat ar gyfer y Beibl yn gynnar. Erbyn y 6g roedd y codecs wedi disodli'r sgrôl yn yr Ymerodraeth Rufeinig.
Math | llawysgrif, arteffact archaeolegol, arteffact |
---|---|
Yn cynnwys | finish |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Er y gallai llyfrau printiedig modern gael eu galw'n godecsau, mae'r enw wedi'i gadw ar gyfer llyfrau llawysgrifau yr Henfyd a'r Oesoedd Canol yn unig.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Codecs, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.