Iaith Hen Roeg: Iaith

Ffurf hynafol ar yr iaith Roeg yw Hen Roeg a siaredid yng Ngroeg yr henfyd o'r 9g CC i'r 6g OC.

Rhennir yn fras yn gyfnodau Hynafol (9g i'r 6g CC), Clasurol (5g a'r 4g CC), ac Helenistaidd (3g CC i'r 6g OC). Rhagflaenir gan Roeg Fyseneaidd yn yr ail fileniwm CC.

Iaith Hen Roeg: Iaith
Dechreuad yr Odyseia gan Homeros.

Gelwir iaith yr oes Helenistaidd yn Roeg Coine ("cyffredin"), sef iaith y Testament Newydd. Ar ei ffurf gynharaf, mae Coine yn debyg iawn i Roeg Atica, ac ar ei ffurf ddiweddaraf yn dynesu at Roeg yr Oesoedd Canol. Cyn y cyfnod Coine, rhennir yr iaith glasurol yn sawl tafodiaith.

Yr Hen Roeg oedd iaith Homeros ac hanesyddion, dramodwyr, ac athronwyr Athenaidd y 5g CC. Benthycir nifer o eiriau mewn ieithoedd Ewropeaidd o'r Hen Roeg, ac astudiasai'r iaith, yn aml ynghyd â Lladin, mewn ysgolion a phrifysgolion Ewrop ers y Dadeni Dysg.

Tags:

Groeg (iaith)Groeg yr henfyd

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Sweet Sweetback's Baadasssss SongManon Steffan RosMy MistressWashingtonMalavita – The FamilyEgni gwyntDarlithyddCorwyntIstanbulFfibrosis systigLost and DeliriousSymbolShivaManchester United F.C.GwefanCascading Style SheetsGolffMagic!Ed SheeranThe New SeekersLloegrEidalegRhestr o wledydd sydd â masnachfreintiau KFCPorth YchainD. W. GriffithKappa MikeyJapanFuerteventuraMean MachineDwight YoakamLlên RwsiaCrogaddurnMinskHenoBill BaileyPOW/MIA Americanaidd yn FietnamKal-onlinePussy RiotSands of Iwo JimaThe Black CatMuhammadPapy Fait De La RésistanceHafanKatell KeinegSF3A3Cynnwys rhyddEfyddWoyzeckBeti GeorgeEvil LaughEtholiadau lleol Cymru 2022Ffrwydrad Ysbyty al-AhliRhif Llyfr Safonol RhyngwladolBody HeatLlywodraeth leol yng NghymruEisteddfod Genedlaethol Cymru Llŷn ac Eifionydd 2023NegarFlora & UlyssesPeredur ap GwyneddLumberton Township, New JerseyRoy AcuffBarry JohnAnimeFfrainc20071696System of a DownStealWoody GuthrieThomas Henry (apothecari)1977🡆 More