Genws: Safle tacson

Rheng tacson yw genws (lluosog: genera, genysau) neu dylwyth a ddefnyddir i ddosbarthu'n wyddonol organebau byw (anifeiliaid, planhigion ayb).

Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ffosiliau ac organebau a ddifodwyd o fewn bywydeg.

Lefelau dosbarthiad biolegolRhywogaethGenwsTeuluUrddDosbarthFfylwmTeyrnasParthBywyd
Lefelau dosbarthiad biolegol

Genws: Safle tacson
Y prif rengoedd mewn dosbarthiad biolegol.

Yn hierarchaeth y dosbarthu, mae genws yn uwch na rhywogaeth ac yn is na theulu. O ran enwau deuol, mae genws yn ffurfio rhan gyntaf enw'r rhywogaeth e.e. mae Felis catus a Felis silvestris yn ddwy rywogaeth wahanol o fewn y genws Felis. Mae Felis, felly'n genws o fewn y teulu Felidae.

Mae'r union ddosbarthiad yn cael ei benderfynu gan dacsonomegwyr. Nid yw'r dosbarthiadau hyn wedi'u naddu mewn gwenithfaen, ac mae awdurdodau gwahanol yn aml yn nodi dosbarthiad gwahanol ar gyfer y genera. Ceir canllawiau ymarferol, fodd bynnag, er mwyn cysoni'r gwaith, gan gynnwys y cysyniad y dylai unrhyw genws newydd fod yn driw i'r tri maen prawf canlynol:

  1. monoffyletedd – rhoddir holl ddisgynyddion tacson mewn un grŵp
  2. cywasgu rhesymol - ni ddylid ehangu'r genws yn ddiangen
  3. eglureder - fel arfer, yng nghyd-destun meini prawf sy'n ymwneud ag esblygiad, e.e. ecoleg, morffoleg neu bioddaearyddiaeth, ystyrir 'dilyniant y DNA' yn "ganlyniad" yn hytrach nag yn "gyflwr" llinellau newydd sy'n esblygu.

Geirdarddiad

O'r Lladin y daw'r gair genus ‘ffynhonnell; math; grŵp, cenedl’, enw sy'n gytras â gignere ‘beichiogi; geni’. Linnaeus a wnaeth y gair yn boblogaidd, a hynny yn 1753 pan gyhoeddodd Species Plantarum, ond ystyrir y botanegydd Joseph Pitton de Tournefort (1656–1708) fel sylfaenydd y cysyniad modern o genera.

Cyfeiriadau

Tags:

AnifailBywydegDifodiantDosbarthiad gwyddonolOrganebau bywPlanhigynTacson

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

1942Christopher ColumbusContactMain PageWicipediaTŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)Pedwar mesur ar hugainLlundainFaytonçuYr EidalBoris JohnsonParamount PicturesBloc PartyStygianBelarwsKate Roberts988MyrddinBarbara BushWilliam John Gruffydd (Elerydd)Washington, D.C.Sex TapeOfrenda a La TormentaY Tebot PiwsAntonín DvořákRhyfel Annibyniaeth AmericaRhamantiaethTeyrnas GwyneddSgerbwd dynolDemolition ManRaymond WilliamsEos (asiantaeth hawliau darlledu)DeinosorBrenhinllin TangDic JonesJohn J. PershingY Deyrnas Unedig2022BrysteBanc LloegrGwledydd y byd26 MawrthEx gratiaTîm Pêl-droed Cenedlaethol Gwlad PwylEugène IonescoGwrthglerigiaethVurğun OcağıGoogle ChromeFfilmAlun Wyn JonesY PhilipinauEginegCalendr GregoriDavid CameronAberjaberO Princezně, Která RáčkovalaTabernacl tunPaffioSian PhillipsGwladwriaeth IslamaiddPlaid wleidyddolCasachstanThe Next Three DaysRhestr o bobl a anwyd yng Ngogledd IwerddonAligatorWiciadur🡆 More