Gwlad yng ngorllewin Asia sy'n cael ei chyfri'n rhan o'r Dwyrain Canol yw Gweriniaeth Islamaidd Iran (Persieg: جمهوری اسلامی ايران, sy'n cael ei lefaru fel ), neu Iran.
Hyd at 1935 fe'i galwyd yn Persia. Y gwledydd cyfagos yw Pacistan ac Affganistan i'r dwyrain, Tyrcmenistan i'r gogledd-ddwyrain, Aserbaijan ac Armenia i'r gogledd-orllewin, a Thwrci ac Irac i'r gorllewin. Mae gan y wlad arfordir ar Fôr Caspia yn y gogledd ac ar y Gwlff a Gwlff Oman yn y de. Tehran yw prifddinas y wlad, a'r ddinas fwyaf. Ers y Chwyldro Islamaidd yn 1979 mae Iran yn Weriniaeth Islamaidd.
Gweriniaeth Islamaidd Iran جمهوری اسلامی ايران (Persieg) Jomhuri-ye Eslāmi-ye Irān | |
Arwyddair | استقلال، آزادی، جمهوری اسلامی |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, Gweriniaeth Islamaidd, gwlad |
Enwyd ar ôl | Aryan |
Prifddinas | Tehran |
Poblogaeth | 86,758,304 |
Sefydlwyd | |
Anthem | National Anthem of the Islamic Republic of Iran |
Pennaeth llywodraeth | Ebrahim Raisi |
Cylchfa amser | UTC+03:30, Cylchfa Amser Iran, Asia/Tehran |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Perseg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Dwyrain Canol, De-orllewin Asia |
Gwlad | Iran |
Arwynebedd | 1,648,195 ±1 km² |
Gerllaw | Môr Caspia, Gwlff Persia, Gwlff Oman |
Yn ffinio gyda | Affganistan, Pacistan, Twrci, Irac, Aserbaijan, Armenia, Tyrcmenistan, Nakhchivan Autonomous Republic, Sawdi Arabia, Coweit, Bahrain, Oman, Catar, Yr Emiradau Arabaidd Unedig |
Cyfesurynnau | 32°N 53°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of Iran |
Corff deddfwriaethol | Islamic Consultative Assembly |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Prif Arweinydd Aran |
Pennaeth y wladwriaeth | Ali Khamenei |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd Gweriniaeth Islamaidd Iran |
Pennaeth y Llywodraeth | Ebrahim Raisi |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $359,097 million, $388,544 million |
Arian | rial Iranaidd |
Cyfartaledd plant | 1.707 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.774 |
Mae Iran yn gartref i un o wareiddiadau hyna'r byd,, gan ddechrau gyda ffurfiad teyrnasoedd yr Elamite yn y bedwaredd mileniwm CC. Cafodd ei uno gyntaf gan y Mediaid yn y 7g CC, a a thyfodd i'w hanterth (yn diriogaethol) yn y 6g CC, pan sefydlodd Cyrus Fawr yr Ymerodraeth Achaemenaidd, a ddaeth yn un o'r ymerodraethau mwyaf mewn hanes a'r ymerodraeth 'superpower' gyntaf yn y byd.
Syrthiodd yr ymerodraeth i Alecsander Fawr yn y 4g CC ac fe'i rhannwyd yn sawl gwladwriaeth Hellenistig. Sefydlodd gwrthryfel yn Iran Ymerodraeth Parthian yn y 3g CC, a olynwyd yn y drydedd ganrif OC gan yr Ymerodraeth Sassanaidd, pŵer mwya'r byd am y pedair canrif nesaf. Gorchfygodd Mwslimiaid Arabaidd yr ymerodraeth yn y 7g OC, a arweiniodd at Islameiddio Iran. Wedi hynny daeth yn brif ganolfan diwylliant a dysgu Islamaidd, gyda'i chelf, llenyddiaeth, athroniaeth, a phensaernïaeth yn ymledu ar draws y byd Mwslemaidd a thu hwnt yn ystod yr Oes Aur Islamaidd. Dros y ddwy ganrif nesaf, daeth cyfres o linachoedd Mwslimaidd brodorol i'r amlwg cyn i'r Twrciaid Seljuq a'r Mongols orchfygu'r rhanbarth.
Yn y 15g, ailsefydlodd y Safavids brodorol wladwriaeth unedig Iran a hunaniaeth genedlaethol a throsi'r wlad yn Islam Shia. O dan deyrnasiad Nader Shah yn y 18g, daeth Iran yn bwer mawr yn y byd unwaith eto, ond erbyn y 19g arweiniodd cyfres o wrthdaro â Rwsia at golledion tiriogaethol sylweddol. Yn gynnar yn yr 20g cafwyd Chwyldro Cyfansoddiadol Persia. Arweiniodd ymdrechion i wladoli ei gyflenwad tanwydd ffosil gan gwmnïau’r Gorllewin at coup Eingl-Americanaidd ym 1953, a arweiniodd at fwy o reolaeth unbenaethol o dan Mohammad Reza Pahlavi a dylanwad gwleidyddol cynyddol y Gorllewin. Aeth ati i lansio cyfres bellgyrhaeddol o ddiwygiadau ym 1963. Ar ôl Chwyldro Islamaidd Iran, sefydlwyd y Weriniaeth Islamaidd bresennol ym 1979 gan Ruhollah Khomeini, a ddaeth yn Arweinydd Goruchaf cynta'r wlad.
Ystyrir yn eang bod llywodraeth Iran yn awdurdodaidd, ac mae wedi denu beirniadaeth eang am ei chyfyngiadau a'i cham-driniaeth yn erbyn hawliau dynol a rhyddid sifil, gan gynnwys honiadau o sawl ymateb treisgar i brotestiadau torfol, etholiadau annheg., a hawliau cyfyngedig i fenywod a phlant.
Caiff Iran ei hystyried yn bwer rhanbarthol a chanolig, ac mae ei lleoliad yn cael ei gyfri'n strategol ac yn ddaear-wleidyddol (geopolitaidd) ar gyfandir Asia. Mae'n aelod sefydlol o'r Cenhedloedd Unedig, yr ECO, yr OIC, ac OPEC. Mae gan y wlad gronfeydd wrth gefn enfawr o danwydd ffosil - gan gynnwys cyflenwad nwy naturiol ail-fwya'r byd a'r bedwaredd gronfa olew fwyaf. Adlewyrchir etifeddiaeth ddiwylliannol gyfoethog y wlad yn rhannol gan ei 22 Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Mae Iran yn parhau i fod yn gymdeithas luosog sy'n cynnwys nifer o grwpiau ethnig, ieithyddol a chrefyddol, a'r mwyaf ohonyn nhw yw'r Persiaid, yr Azeris, y Cwrdiaid, y Mazandaranis a'r Lurs.
Mae'r term Iran yn tarddu'n uniongyrchol o Ērān mewn Persieg Canol, a gofnodwyd yn gyntaf mewn arysgrif o'r 3g yn Naqsh-e Rostam , gyda'r arysgrif Partheg a oedd gydag ef yn defnyddio'r term Aryān, yn cyfeirio at yr Iraniaid. Mae'r ērān ac aryān Iraneg Canol yn ffurfiau lluosog o enwau gentilig ēr- (Perseg Canol) ac ary- (Partheg), ill dau'n deillio o iaith Proto-Iranaidd * arya- (sy'n golygu " Aryan", hy "o'r Iraniaid"), a gydnabyddir fel deilliad o'r iaith Proto-Indo-Ewropeg *ar-yo-, sy'n golygu "un sy'n ymgynnull (yn fedrus)".
Yn yr ieithoedd Iranaidd, ardystir y gentilig fel hunan-ddynodwr, wedi'i gynnwys mewn arysgrifau hynafol a llenyddiaeth yr Avesta. Yn ôl mytholeg Iran, daw enw'r wlad o'r enw Iraj, tywysog chwedlonol a shah
Yn hanesyddol, cyfeiriwyd at Iran fel Persia gan awduron o'r Gorllewin, gan gynnwys ysgrifau haneswyr Gwlad Groeg a gyfeiriodd at Iran fel Persís (Groeg Hynafol: Περσίς; o'r Hen Berseg 𐎱𐎠𐎼𐎿 Pārsa), sy'n golygu "gwlad y Persiaid", tra bod Persis ei hun yn un o daleithiau Iran hynafol a elwir heddiw yn Fars. Oherwydd agosatrwydd yr hen Roegiaid a'r Persiaid, parhaodd y term, hyd yn oed ymhell ar ôl y Rhyfeloedd Greco-Persia (499-494 CC).
Mae'r arteffactau archeolegol cynharaf yn Iran, fel y rhai a gloddiwyd yn Kashafrud a Ganj Par yng ngogledd Iran, yn cadarnhau presenoldeb dynol yn Iran ers y Paleolithig Isaf. Mae arteffactau Neanderthalaidd Iran o'r Paleolithig Canol wedi'u darganfod yn bennaf yn rhanbarth Zagros, mewn safleoedd fel Warwasi ac Yafteh. O'r 10fed i'r seithfed mileniwm CC, dechreuodd cymunedau amaethyddol cynnar ffynnu yn rhanbarth Zagros ac o'i amgylch yng ngorllewin Iran, gan gynnwys Chogha Golan, Chogha Bonut, a Chogha Mish.
Mae olion dynol mewn pentrefi wedi'u grwpio yn ardal Susa, fel y'u pennir gan ddyddio radiocarbon, yn amrywio o 4395-3955 i 3680-3490 CC. Mae yna ddwsinau o safleoedd cynhanesyddol ar draws Llwyfandir Iran, sy'n tystio fod diwylliannau hynafol ac aneddiadau trefol yma yn y bedwaredd mileniwm CC.
Yn ystod yr Oes Efydd, roedd tiriogaeth Iran heddiw yn gartref i sawl gwareiddiad, gan gynnwys Elam, Jiroft, a Zayanderud. Datblygodd Elam, yr amlycaf o'r gwareiddiadau hyn, yn y de-orllewin ochr yn ochr â'r rhai ym Mesopotamia, a pharhaodd i fodoli hyd nes i ymerodraethau Iran ddod i'r amlwg. Roedd dyfodiad ysgrifennu yn Elam yn gyfochrog â Sumer, a datblygwyd sgript mewn Elameg (neu 'Elamiteg') yn y drydedd mileniwm CC.
O'r 34ydd i'r 20g CC, roedd gogledd-orllewin Iran yn rhan o ddiwylliant Kura-Araxe, a oedd yn ymestyn i'r Cawcasws ac Anatolia cyfagos. Ers yr ail mileniwm CC, ymgartrefodd yr Assyriaid yng ngorllewin Iran gan ymgorffori'r rhanbarth o fewn eu tiriogaethau.
Erbyn yr ail mileniwm CC, roedd pobloedd hynafol Iran (y Kura-Araxe) wedi cyrraedd yr hyn sydd bellach yn Iran o'r Steppe Ewrasiaidd, gan gystadlu ag ymsefydlwyr brodorol y rhanbarth. Wrth i'r Iraniaid wasgaru i ardal ehangach Iran Fwyaf a thu hwnt, roedd ardal Iran heddiw yn cynnwys y Mediaid, Persiaid a'r Parthiaid.
O ddiwedd y 10g CC i ddiwedd y 7g CC, roedd pobloedd Iran, ynghyd â'r teyrnasoedd "cyn-Iranaidd", yn dod o dan dra-arglwyddiaeth yr Ymerodraeth Assyriaidd, a leolwyd yng ngogledd Mesopotamia. O dan y brenin Cyaxares, aeth y Mediaid a'r Persiaid i gynghrair â'r rheolwr Babilonaidd Nabopolassar, yn ogystal â'r cyd- Scythiaid a Chimmeriaid o Iran, a gyda'i gilydd fe wnaethant ymosod ar Ymerodraeth Assyria. Drwy'r rhyfel cartref hwn, ysbeiliwyd Ymerodraeth Assyria (616 - 605 CC), a thrwy hynny ryddhawyd y bobl o dair canrif o reolaeth gan Asyria. Wedi uno'r llwythau Mediaid dan y Brenin Deioces yn 728 CC, sefydlwyd Ymerodraeth y Mediaid a oedd, erbyn 612 CC, yn rheoli bron holl diriogaeth Iran heddiw a dwyrain Anatolia. Roedd hyn yn nodi diwedd Teyrnas Urartu hefyd, a gafodd ei goncro a'i diddymu wedi hynny.
Mae bywyd gwyllt Iran yn cynnwys sawl rhywogaeth anifail, gan gynnwys eirth, y lyncs Ewrasiaidd, llwynogod, gasels, bleiddiaid llwyd, jacals, panthers, a moch gwyllt. Ceir anifeiliaid domestig eraill yn Iran gan gynnwys: byfflo dŵr Asiaidd, camelod, gwartheg, asynnod, geifr, ceffylau, a'r defaid . Mae eryrod, hebogau, petris, ffesantod a storciaid hefyd yn frodorol.
Un o aelodau enwocaf bywyd gwyllt Iran yw'r cheetah Asiatig sydd mewn perygl difrifol, a elwir hefyd yn cheetah Iran, y gostyngwyd ei niferoedd yn fawr ar ôl Chwyldro 1979. Mae llewpard Persia , sef isrywogaeth llewpard mwyaf y byd sy'n byw yn bennaf yng ngogledd Iran, hefyd wedi'i restru fel rhywogaeth sydd mewn perygl. Collodd Iran ei holl lewod Asiatig a'r teigrod Caspia sydd bellach wedi diflannu erbyn rhan gynharach yr 20fed ganrif.
Mae llwyfandir uchel yng nghanol Iran sy'n cynnwys sawl anialwch a chorsdir. Amgylchynnir hyn gan gyfres o gadwyni mynyddig; y pwysicaf yw mynyddoedd Zagros i'r gorllewin, mynyddoedd Alborz a Kopet i'r gogledd, a rhanbarth anial o fryniau uchel i'r dwyrain. Mynydd Damavand (18,406 troedfedd, 5,610 m), i'r gogledd o Tehran, yw mynydd uchaf y wlad.
Mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn byw yn y gogledd-orllewin ac ar lan Môr Caspia, sy'n cael y rhan fwyaf o'r glaw; mewn rhannau o'r de a'r dwyrain mae glaw yn brin iawn. Dyma'r 18ed gwlad mwyaf o ran arwynebedd (sef 1,648,195 km², 636,372 milltir sgwâr) a phoblogaeth o dros 70 miliwn.
Er bod y mwyafrif o bobl Iran yn Bersiaid (Iraniaid), ceir yn ogystal sawl grwp ethnig llai, yn arbennig ar ymylon y wlad, e.e. Tyrciaid, Cyrdiaid, Armeniaid ac Arabiaid, a llwythau brodorol lleiafrifol fel y Bakhtyari.
Ffarsi (Perseg diweddar) yw iaith y mwyafrif, ond siaredir ieithoedd llai hefyd, e.e. Cyrdeg yn y gogledd-orllewin. Mae'r Berseg yn iaith hynafol sydd wedi cynhyrchu un o lenyddiaethau mawr y byd, sef llenyddiaeth Berseg. Ymhlith meistri mawr y llenyddiaeth honno, gellid enwi Omar Khayyam a Hafiz (gweler hefyd Rhestr llenorion Perseg hyd 1900).
Yn yr hen Bersia Zoroastriaeth, crefydd y proffwyd Zarathustra, oedd y brif grefydd. Datblygodd y grefydd allan o'r grefydd amldduwaidd frodorol gyda Ahura Mazda yn brif dduw ac Anahita yn dduwies boblogaidd. Cymerodd Islam lle'r hen grefydd gyda dyfodiad yr Arabiaid ond parhaodd Zoroastriaeth serch hynny ac mae'r grefydd yn dal i oroesi mewn mannau. Heddiw mae mwyafrif helaeth y boblogaeth yn Fwslemiaid Shia. Ymhlith canolfannau crefyddol Iran y mae dinas sanctaidd Qom sy'n atynnu nifer o bererinion.
Mae'r system wleidyddol wedi ei sefydlu ar Gyfansoddiad 1979. Yr Uwch Arweinydd sy'n gyfrifol am oruchwylio polisiau'r Llywodraeth. Ef sy'n gyfrifol hefyd am y fyddin a diogelwch y wlad a'r unig un a gaiff benderfynu mynd i ryfel.
Llywydd presennol Iran ydy Hassan Rouhani, a gafodd ei ethol yn 2013; bydd ei dymor yn dod i ben yn 2017.
Enwog yn y gorffennol am ei grefftwaith cain a'i charpedi moethus, heddiw mae Iran yn wlad sy'n perchen ar rhai o'r cronfeydd olew pwysicaf yn y byd: ei chronfeydd nwy yw'r ail fwyaf drwy'r byd, yn dilyn rwsia, gyda 33.6 triliwn metr ciwb a'r drydedd wlad fwyaf o ran y cynhyrchu, yn dilyn Indonesia a Rwsia.
O ran ei holew crai, cronfeydd olew Iran yw'r pedwerydd mwyaf ar y Ddaear, gydag amcangyfrif o 153,600,000,000 barrels.
Yn 2014, roedd GDP Iran yn $404.1 biliwn ($1.334 triliwn yn ôl PPP), neu $17,100 yn ôl Purchasing power parity y pen.
Rhennir Iran yn 31 talaith (ostān), a reolir gan lywodraethwyr apwyntiedig (استاندار, ostāndār). Rhennir y taleithiau hyn yn siroedd (shahrestān), a rhennir yn ardaloedd (bakhsh) ac is-ardaloedd (dehestān) yn eu tro.
Nid yw'r map yn dangos ynysoedd deheuol talaith Hormozgan (#20 isod):
|
|
|
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Iran, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.