Gwefan rwydweithio cymdeithasol yw Facebook, yn debyg i Bebo a MySpace.
Yn anffurfiol, defnyddir yr enw Gweplyfr arno yn y Gymraeg.
Enghraifft o'r canlynol | gwasanaeth rhwydweithio cymdeithasol, gwefan, social media, user-generated content platform, cymuned arlein |
---|---|
Crëwr | Mark Zuckerberg |
Awdur | Mark Zuckerberg, Eduardo Saverin, Dustin Moskovitz, Chris Hughes |
Iaith | ieithoedd lluosog |
Dechrau/Sefydlu | 4 Chwefror 2004 |
Perchennog | Meta Platforms |
Gweithredwr | Meta Platforms |
Sylfaenydd | Mark Zuckerberg |
Dosbarthydd | App Store, Google Play |
Gwefan | https://www.facebook.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Pan lansiwyd Facebook yn 2004 gan Mark Zuckerberg, roedd aelodaeth wedi ei gyfyngu i fyfyrwyr Prifysgol Harvard, ac yna fe ehangwyd i sawl prifysgol arall yn yr Unol Daleithiau. Yn raddol ehangwyd yr aelodaeth i unrhyw un oedd â chyfeiriad e-bost sefydliad addysgol (e.e. .edu, .ac.uk, ayyb) ar draws y byd, ac yn 2006 agorwyd y wefan i unrhyw berson. Mae'r defnyddwyr yn creu pwll o Ffrindiau ac yn danfon gwybodaeth a negeseuon at ei gilydd neu eu gosod ar eu tudalennau.
Ym Medi 2012, roedd gan Facebook dros biliwn o ddefnyddwyr, a chredir bod 8.7% o'r rheiny yn rhai ffug.
Yn 2007 aed a Mark Zuckerberg i'r llys gan gwmni ConnectU.com gan honni ei fod wedi dwyn eu syniad nhw am y wefan, ac wedi oedi datblygiad eu gwefan nhw'n fwriadol wrth weithio iddynt yn 2003.
Yn 2008 fel rhan o ddatblygiad Facebook ychwanegwyd rhyngwyneb amlieithog o ddewis y defnyddiwr. Ymhlith yr ieithoedd y gellir eu defnyddio mae'r canlynol:
Cafwyd sawl cwyn am ddiffyg preifatrwydd ar Facebook. Yn 2010, datgelwyd fod nifer o raglenni fel gemau ar Facebook yn hel gwybodaeth bersonol a bod rhai'n eu pasio ymlaen (neu eu gwerthu) i gwmnïau eraill. Roedd hyn yn digwydd hyd yn oed ar ôl i ddefnyddwyr Facebook ddewis lefel diogelwch gwybodaeth uchaf posib. Roedd y wybodaeth a "ffermiwyd" felly'n cynnwys enwau go iawn, cyfeiriadau a gwybodaeth bersonol arall. Ym mis Hydref 2010, ar ôl wynebu bygythiad o gael achos llys yn eu herbyn yn yr Unol Daleithiau, mynnodd Facebook eu bod wedi cymryd camau i atal hynny.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Facebook, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.