Dinas a chymuned (comune) yng ngogledd-ddwyrain yr Eidal yw Bologna (Lladin Bononia), sy'n brifddinas rhanbarth Emilia-Romagna.
Saif rhwng Afon Po a mynyddoedd yr Appenninau.
Math | cymuned, dinas, tref goleg, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 387,971 |
Pennaeth llywodraeth | Matteo Lepore |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Leipzig, Zagreb, Bari, Valencia, Thessaloníci, St. Louis, Missouri, Kharkiv, La Plata, San Fele, Pollica, Tuzla, Coventry, Hamamatsu, Meknès |
Nawddsant | Caterina de' Vigri, Saint Petronius |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas Fetropolitan Bologna |
Gwlad | Yr Eidal |
Arwynebedd | 140.86 km² |
Uwch y môr | 54 ±1 metr |
Yn ffinio gyda | Calderara di Reno, Casalecchio di Reno, Castenaso, Pianoro, Sasso Marconi, Zola Predosa, Anzola dell'Emilia, Castel Maggiore, Granarolo dell'Emilia, San Lazzaro di Savena |
Cyfesurynnau | 44.4939°N 11.3428°E |
Cod post | 40121, 40122, 40123, 40124, 40125, 40126, 40127, 40128, 40129, 40131, 40132, 40133, 40134, 40135, 40136, 40137, 40138, 40139, 40141 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Bologna City Council |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Bologna |
Pennaeth y Llywodraeth | Matteo Lepore |
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y gymuned boblogaeth o 371,337.
Sefydlwyd y ddinas gan yr Etrwsciaid fel Felsina oddeutu'r flwyddyn 534 CC. Yn y 4g CC, concrwyd y ddinas gan lwyth Celtaidd y Boii, a chafodd yr enw Bononia. Daeth yn colonia Rhufeinig tua 189 CC, ac ychwanegwyd at bwysigrwydd y ddinas pan adeiladwyd y Via Aemilia yn 187 CC. Daeth yn municipium yn 88 CC, ac am gyfnod fe'i hystyrid yn ail ddinas yr Eidal.
Yn 728, cipiwyd y ddinas gan Liutprand, brenin y Lombardiaid. Yn 1088, sefydlwyd Prifysgol Bologna, Alma Mater Studiorum, y brifysgol hynaf yn y byd gorllewinol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Bologna, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.