Kanye West: Cyfarwyddwr ffilm ac actor a aned yn Atlanta yn 1977

Rapiwr, cyfansoddwr caneuon, cynhyrchydd recordiau, a dylunydd ffasiwn Americanaidd yw Ye (Kanye Omari West; ganed 8 Mehefin 1977).

Kanye West
Kanye West: Cyfarwyddwr ffilm ac actor a aned yn Atlanta yn 1977
Kanye West (Ye) yn 2019.
FfugenwYeezy, The Louis Vuitton Don, Saint Pablo Edit this on Wikidata
GanwydKanye Omari West Edit this on Wikidata
8 Mehefin 1977 Edit this on Wikidata
Atlanta Edit this on Wikidata
Man preswylChicago Edit this on Wikidata
Label recordioGOOD Music, Roc-A-Fella Records, Def Jam Recordings Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Addysggradd er anrhydedd Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Academi Gelf America
  • Polaris High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethrapiwr, canwr, cyfansoddwr caneuon, cynhyrchydd recordiau, person busnes, perchennog bwyty, actor, dylunydd ffasiwn, arlunydd, pensaer, gwleidydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Gap Inc. Edit this on Wikidata
Arddullalternative hip hop, progressive rap, cerddoriaeth boblogaidd, art pop, cerddoriaeth yr efengyl, pop rap, chipmunk soul, hip hop Edit this on Wikidata
Taldra173 centimetr Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolAnnibynnwr Edit this on Wikidata
TadRay West Edit this on Wikidata
MamDonda West Edit this on Wikidata
PriodKim Kardashian Edit this on Wikidata
PartnerAmber Rose, Kim Kardashian, Julia Fox, Irina Shayk, Selita Ebanks, Angela Martini, Bianca Censori Edit this on Wikidata
PlantNorth West, Saint West, Chicago West, Psalm West Edit this on Wikidata
Llinachfamily of Kanye West Edit this on Wikidata
Gwobr/auBET Award for Best New Artist, BET Award for Best Male Hip-Hop Artist, BET Award for Video of the Year, BET Award for Video of the Year, BET Award for Best Group, Billboard Music Award for Top Rap Artist, American Music Award for Favorite Rap/Hip-Hop Artist, American Music Award for Favorite Rap/Hip-Hop Album, Grammy Award for Best Rap Song, Gwobr Grammy am yr Albwm Rap Gorau, Grammy Award for Best R&B Song, Grammy Award for Best Rap Song, Grammy Award for Best Rap Solo Performance, Gwobr Grammy am yr Albwm Rap Gorau Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.kanyewest.com Edit this on Wikidata
llofnod
Kanye West: Cyfarwyddwr ffilm ac actor a aned yn Atlanta yn 1977

Ganed Kanye Omari West yn Atlanta, Georgia, Unol Daleithiau America, i deulu Affricanaidd-Americanaidd, a chafodd ei fagu yn Chicago, Illinois. Ffotograffydd a chyn-aelod o'r Pantherod Duon oedd ei dad, ac academydd oedd ei fam. Aeth Kanye i Brifysgol Daleithiol Chicago—lle'r oedd ei fam yn bennaeth y gyfadran Saesneg—am un flwyddyn cyn iddo adael i gychwyn ar ei yrfa yn y diwydiant recordiau. Dechreuodd fel cynhyrchydd i So So Def Recordings yn Atlanta, gan gyfrannu at albymau megis Life in 1472 (1998) gan Jermaine Dupri a The Movement (1999) gan Harlem World, cyn symud i Ddinas Efrog Newydd i weithio i Roc-A-Fella Records. Kanye oedd un o brif gynhyrchwyr The Blueprint (2001) gan Jay-Z, un o'r albymau mwyaf llwyddiannus yn hanes hip-hop, a derbyniodd glod am ei ddefnydd o samplu curiadau wedi eu cyflymu. Daeth yn gynhyrchydd poblogaidd yn y sîn hip-hop, ond yr oedd yn anodd iddo ar y cyntaf wneud record ei hun, yn rhannol oherwydd diffyg "credadwyedd" ohonno fel rapiwr o ganlyniad i ragfarn yn erbyn ei fagwraeth ddosbarth-canol.

O'r diwedd, cyhoeddodd Kanye West ei albwm stiwdio cyntaf, The College Dropout, yn 2004. Yr oedd yn hynod o lwyddiannus, a chafodd ei gymeradwyo gan y beirniaid am ei sain soffistigedig, chwarae ar eiriau, hiwmor, a sylwebaeth wleidyddol. Enillodd Kanye dair Gwobr Grammy yn 2005 am yr albwm rap gorau, y gân rap orau ("Jesus Walks"), a'r gân rhythm-a-blŵs orau (fel un o gyfansoddwyr "You Don't Know My Name" gan Alicia Keys). Yn sgil ei ail albwm, Late Registration (2005), enillodd dair Gwobr Grammy eto yn 2006 am yr albwm rap gorau, y perfformiad rap unigol gorau ("Gold Digger"), a'r gân rap orau ("Diamonds from Sierra Leone"). Yn ogystal â'i lwyddiannau proffesiynol, daeth Kanye yn enwog am ei bersonoliaeth liwgar a di-flewyn-ar-dafod. Yn ystod budd-gyngerdd ar gyfer pobl a effeithwyd gan Gorwynt Katrina, a ddarlledwyd yn fyw ar sianel NBC ym Medi 2005, datganodd Kanye "nid oes ots gan [yr Arlywydd] George Bush am bobl dduon".

Parhaodd i gynhyrchu recordiau ar gyfer artistiaid eraill, gan gynnwys caneuon i Nas, Mariah Carey, a Beyoncé, a sefydlodd y label recordio GOOD Music. Cafodd ragor o lwyddiant, yn fasnachol ac yn feirniadol, gyda'r albymau Graduation (2007), sydd yn defnyddio syntheseisyddion ac arddull "anthemaidd", ac 808s & Heartbreak (2008), sydd yn defnyddio technoleg Auto-Tune i addasu ei lais. Yn ystod seremoni wobrwyo MTV ar gyfer fideos cerdd ym Medi 2009, esgynnodd Kanye i'r llwyfan wrth i Taylor Swift dderbyn y wobr am y fideo gorau gan fenyw, a chymerodd y meicroffon oddi arni i ddatgan "Yo, Taylor, I'm really happy for you, I'mma let you finish, but Beyoncé had one of the best videos of all time! One of the best videos of all time!" Cafodd ei fwio gan y gynulleidfa, ei hel allan o'r sioe, a'i gondemnio gan nifer o ffigurau enwog ym myd adloniant a'r cyfryngau. Ymddiheuriodd Kanye sawl gwaith am ei ymddygiad. Er gwaetha'r helynt, ni achoswyd niwed i waith Kanye yn y stiwdio recordio, ac yn 2010 cyhoeddodd un o'i albymau mwyaf cymhleth ac uchelgeisiol, My Beautiful Dark Twisted Fantasy, sydd yn cynnwys cydweithrediadau gyda Jay-Z, Rihanna, Kid Cudi, ac eraill. Cyrhaeddodd frig siartiau Billboard gyda chydweithrediad arall â Jay-Z, yr albwm Watch the Throne (2011), sydd yn cynnwys tair sengl a enillodd Wobrau Grammy: "Otis", "Niggas in Paris", a "No Church in the Wild". Cyhoeddodd yr albwm dethol Cruel Summer yn 2012, a'i chweched albwm stwdio Yeezus, sydd yn ymdrin â phynciau hil ac enwogrwydd yn yr Unol Daleithiau, yn 2013.

Ers tro, mynegai Kanye ddiddordeb mewn dylunio dillad stryd, ac yn Chwefror 2015 lansiodd y casgliad cyntaf o'i ddyluniadau ffasiwn dan yr enw YEEZY, mewn cydweithrediad â chwmni Adidas, gan gynnwys brand steilus o esgidiau athletaidd a fyddai'n hynod o boblogaidd. Yn ystod y pum mlynedd nesaf, byddai'n rhyddhau casgliadau ffasiwn a recordiau newydd yn weddol gyson, er gwaethaf cyfnodau o ddirywiad yn ei iechyd meddwl. Bu'n rhaid iddo gwtogi ei daith ar gyfer ei seithfed albwm, The Life of Pablo (2016), yn Nhachwedd 2016 am iddo gael ei dderbyn i'r ysbyty yn dioddef o "argyfwng seiciatrig", a chymerodd seibiant o sylw'r cyhoedd trwy gydol 2017, gan barhau i recordio cerddoriaeth a chydweithio gydag artistiaid eraill. Cafodd ymateb cymysg i'w albwm nesaf, Ye (2018), sydd yn ymdrin â'i ddiagnosis o anhwylder deubegwn. Bu ei gydweithrediad â Kid Cudi, Kids See Ghosts (2018), hefyd yn ymwneud â phwnc iechyd meddwl. Enillodd y Wobr Grammy am yr albwm cerddoriaeth Gristnogol gyfoes am Jesus Is King (2019), sydd yn cyfuno hip-hop â cherddoriaeth yr efengyl.

Ar 4 Gorffennaf 2020, cyhoeddodd ei fod am ymgeisio yn etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, gan ddadlau dros ddiwygio'r heddlu a'r drefn gyfiawnder, ailgyflwyno gweddïo i ysgolion cyhoeddus, a "moeseg fywyd gyson"—hynny yw, yn groes i erthyliad a'r gosb eithaf. Fodd bynnag, ni wnaeth lawer o ymgyrchu, a methodd i gofnodi ei enw ar gyfer y falod yn y mwyafrif o daleithiau; enillodd 0.04 y cant o'r bleidlais genedlaethol. Cyhoeddodd ei ddegfed albwm, Donda, yn 2021, sydd yn cynnwys cydweithrediadau ag artistiaid megis Jay-Z a the Weeknd. Yn 2021 newidiodd ei enw yn swyddogol i Ye. Yn niwedd 2022, yn sgil sylwadau ganddo a ystyriwyd yn wrth-Semitaidd, cafodd Ye ei wahardd o wefannau Twitter a'i ddiarddel o'i berthynas ag Adidas.

Priododd Kanye West â'r bersonoliaeth deledu Kim Kardashian yn 2014, a chawsant bedwar plentyn cyn iddynt wahanu yn 2021 a chael ysgariad yn 2022.

Cyfeiriadau

Tags:

19778 MehefinAmericanwyrCynhyrchydd recordiauRapiwr

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Maffia Mr HuwsSacramentoCombrewCreampieRaajneetiCoffinswellJess DaviesDiodEnglyn milwrAnna MarekRwsegCaernarfonEagle EyeAaron RamseyCambodiaRhiwbryfdirHarry PartchBrasilDylan EbenezerY GododdinHanes diwylliannolHogia LlandegaiMelangellLlawfeddygaethLÁlombrigád1700auThe Commitments (ffilm)Menter gydweithredolYr AlmaenDiwydiant llechi CymruRhestr planhigion bwytadwyMET-ArtUndduwiaethSacsoneg IselDermatillomaniaLlyngesA HatározatMadeleine PauliacCascading Style SheetsHermitage, BerkshireAniela CukierBeilïaeth JerseyNovialOh, You Tony!James Francis Edward StuartJordan (Katie Price)Beti GeorgeJuan Antonio VillacañasCredydYsgol SulY Fari LwydAmwythigElinor JonesSisters of AnarchyTamilegBwncath (band)The Gypsy MothsHTMLDiwrnod Rhyngwladol y GweithwyrHTTPGwobr Nobel am CemegHunan leddfuAmerikai AnzixR.O.T.O.R.ErotigUrdd Sant FfransisGwalchmai ap GwyarDriggAlgeria🡆 More