Y Rhyngrwyd

System gysylltiedig o rwydweithiau cyfrifiadurol byd-eang, sydd ar gael i'r cyhoedd, yw'r rhyngrwyd ac sy'n gwasanaethu biliynau o ddefnyddwyr.

Mae'n trosglwyddo amrywiaeth o ddata gan gynnwys lluniau, sain, fideo a thestun, ac yn cludo amrywiaeth o wybodaeth a gwasanaethau. Trosglwyddir y data hyn gyda'r safon Protocol Rhyngrwyd (IP). Y gwasanaethau mwyaf amlwg yn strwythur y rhyngrwyd yw'r we fyd-eang (WWW) ac e-bost, a hefyd gwasanaethau sgwrsio a throsglwyddo ffeiliau. Mae'r defnyddrwyd ('usenet' neu 'newsnet') hefyd yn bodoli ar y rhyngrwyd, ond nid mor boblogaidd bellach. Hyd at ddiwedd y 2000au roedd angen cyfrifiadur i gysylltu â'r rhyngrwyd, ond yna gwelwyd y cyfryngau traddodiadol i gyd yn cael eu hailbobi i gario rhan o'r rhyngrwyd e.e. y ffôn, systemau cerdd, ffilm a'r teledu. Gwelwyd hefyd cyhoeddwyr yn addasu ar gyfer y dechnoleg newydd er mwyn dosbarthu eu cynnyrch; yng Nghymru er enghraifft bu Gwasg y Lolfa'n flaenllaw iawn yn gwerthu e-lyfrau a Golwg360 yn bapur newydd digidol.

Rhyngrwyd
Bioleg

Cyfrifiadur
Gwe fyd-eang
E-bost
Blog
Gwrth-firws


Rhwydweithio cymdeithasol ar-lein

CERN

Y Rhyngrwyd
Argraff arlunydd o sut mae'r rhyngrwyd yn edrych

Nid yw'r rhyngrwyd a'r we fyd-eang yn gyfystyr. Casgliad o ddogfennau hyperdestun yw'r we, a defnyddir y rhyngrwyd (sy'n llawer mwy na'r we) i gael mynediad i'r dogfennau hyn.

Hanes y rhyngrwyd

Crewyd y rhyngrwyd yn yr Unol daliaethau America ar ffurf rhwydwaith o gyfrifiaduron yn 1969 gan adran amddifynnol y llywodraeth. Pwmpiwyd arian i'r cynllun gan y National Science Foundation (ac arian preifat) yn y 1980au a chysylltwyd y cyfan gan linell ffôn. Erbyn 2012 roedd 2.4 biliwn o bobl ledled y byd - dros draean poblogaeth y byd - wedi defnyddio gwasanaethau'r rhyngrwyd.

Y Rhyngrwyd 
Cyfrifiadur NeXT a ddefnyddiwyd gan Tim Berners-Lee yn CERN ac a ddaeth yn weinydd gwe cyntaf drwy'r byd.

Cafodd y We fyd-eang ei chreu yn CERN yn y Swistir yn yr 1990'au gan Sais o'r enw Tim Berners-Lee i gysylltu gwyddonwyr gyda'i gilydd. Mae'r enw "net" yn dod o'r term Saesneg llawn "the internet" a'r gair "internet" yn ei dro'n dalfyriad o "inter-" a "networking" i creu "internetworking" (rhyngrwydweithio). Defnyddir priflythyren yn yr enw ("y Rhyngrwyd") a llythyren fach pan fo'r gair yn ansoddair "marchnata rhyngrwyd" yn Saesneg ac yn y Gymraeg.

Cyfeiriadau

Gweler hefyd

Dolenni allanol

Chwiliwch am y rhyngrwyd
yn Wiciadur.

Tags:

Y Rhyngrwyd Hanes y rhyngrwydY Rhyngrwyd CyfeiriadauY Rhyngrwyd Gweler hefydY Rhyngrwyd Dolenni allanolY RhyngrwydCyfrifiadurE-bostE-lyfrauFfilmFfônFideoGolwg360Gwasg y LolfaGwe fyd-eangLlunPapur newyddSainTeledu

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Antonín DvořákWiciFfilm yng NghanadaDewi Llwyd1955Ffŵl EbrillCernywegY Lôn WenY Rhyfel OerAlbert II, brenin Gwlad BelgGwlad GroegTîm Pêl-droed Cenedlaethol SwedenThe Salton SeaThe Next Three DaysEva StrautmannDadfeilio ymbelydrolTabernacl tunGareth RichardsAnkstmusikAngkor WatBaner CymruGweddi'r ArglwyddCynnwys rhyddEidalegGeronima Cruz MontoyaBukkakeContactGareth MilesDove Vai Tutta Nuda?Poslední Propadne PekluCyflwr cyfarcholTîm Pêl-droed Cenedlaethol SbaenY Fari LwydWilliam John Gruffydd (Elerydd)AlergeddParth cyhoeddusCyfarwyddwr ffilmSiot dwad wynebTisanidinRhamantiaethMain PageMis Hanes Pobl DduonHentai1 IonawrAsthmaBeti GeorgeTsiadDydd Iau CablydY rhyngrwydY FfindirMasarnenSlofaciaViv ThomasTyler, TexasAnna SewardJón GnarrMorgan County, Gorllewin Virginia20gY Gymdeithas Ddaearyddol FrenhinolCanabis🡆 More