Gwefan rwydweithio cymdeithasol a meicro-flogio yw X, a adnabuwyd yn flaenorol fel Twitter (weithiau Trydar mewn Cymraeg answyddogol).
Mae'n caniatau defnyddwyr anfon a darllen negeseuon defnyddwyr eraill (a elwir yn tweets yn y Saesneg), a phostio lluniau/fideos. Arddangosir y negeseuon ar dudalen broffil yr awdur a chânt eu dosbarthu i danysgrifwyr yr awdur a elwir yn ddilynwyr.
Enghraifft o'r canlynol | gwasanaeth rhwydweithio cymdeithasol, meicroflogio, user-generated content platform, cymuned arlein |
---|---|
Crëwr | Jack Dorsey |
Cyhoeddwr | X Corp. |
Iaith | ieithoedd lluosog |
Dechrau/Sefydlu | 21 Mawrth 2006 |
Perchennog | X Corp. |
Prif weithredwr | Linda Yaccarino |
Gweithredwr | X Corp. |
Sylfaenydd | Jack Dorsey, Noah Glass, Biz Stone, Evan Williams |
Pencadlys | San Francisco |
Enw brodorol | |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Dosbarthydd | Microsoft Store |
Gwefan | https://twitter.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ers i'r gwasanaeth gael ei greu yn 2006 gan Jack Dorsey, daeth Twitter yn wasanaeth poblogaidd a dylanwadol, er fod nifer y defnyddwyr yn llai na gwasanaethau cyfatebol fel Facebook a Instagram. Weithiau caiff ei ddisgrifio fel "negeseuon testun y rhyngrwyd".
Ar y cychwyn roedd cyfyngiad o 140 nod neu lai i bob neges, er mwyn cymhathu gyda negeseuon SMS - fe ehangwyd hyn i 280 nod yn 2017. Mae'r gwasanaeth sylfaenol am ddim ac yn cynnwys hysbysebion o fewn y ffrwd negeseuon. Ers 2021 gall defnyddwyr dalu tanysgrifiad i cael nodweddion uwch yn cynnwys postio negeseuon hyd at 4000 nod. Gall yr awdur gyfyngu ar bwy sy'n gweld ei negeseuon, neu gall ganiatáu i bawb eu gweld. Ers diwedd 2009, gall defnyddwyr ddilyn rhestrau o awduron yn hytrach na dilyn awduron unigol. Gall defnyddiwr bostio drwy wefan Twitter, yr ap swyddogol ar ddyfeisiau symudol a Tweetdeck. Diddymwyd y dull negeseuon testun yn 2020.
Prynwyd y cwmni gan Elon Musk yn Hydref 2022 am $44 biliwn. Ers hynny gwnaed nifer o benderfyniadau dadleuol gan Musk yn cynnwys diswyddo canran sylweddol o'r staff er mwyn arbed arian. Yn ogystal, tynnwyd mynediad am ddim i API Twitter, gan orfodi pob ap allanol i gau lawr. Yng Ngorffennaf 2023 cychwynodd y gwaith o ail-frandio y gwasanaeth fel X.
Fe wnaeth Twitter boblogeiddio'r arfer o roi hashnod cyn gair neu dalfyriad er mwyn creu cymuned o ddiddordeb o gylch pwnc neu ddigwyddiad benodol. Mae'r defnydd o'r hashnod hefyd wedi ei ddefnyddio i boblogeiddio ymgyrchoedd gwleidyddol yn ogysal â hybu busnes. Nid oes modd defnyddio marciau atalnodi fel symbolau yr ebychnod fel rhan o'r gair yn yr hashnod.
Mae gan Wici Cymru gyfri trydar (@WiciCymru) sy'n ymgyrchu dros ryddhau gwybodaeth ar drwydded agored ac yn cefnogi prosiect Wicimedia, gan gynnwys y Wicipedia. Ceir hefyd @Wicipedia - sy'n drydariad awtomatig, sy'n hysbysu ei ddilynwyr o erthyglau newydd.
Yn y Gymraeg, yr hashnod gyson mwyaf poblogaidd ei ddefnydd yw hashnod #yagym ('Yr Awr Gymraeg') a weinyddir gan gyfrif @YrAwrGymraeg gan Huw Marshall.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Twitter, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.