Nadolig

Gŵyl Gristnogol flynyddol yw'r Nadolig, sy'n dathlu genedigaeth Iesu Grist.

Mae nifer o arferion yn gysylltiedig â'r Nadolig, sydd wedi cael eu dylanwadu gan wyliau cynharach y gaeaf megis y gwyliau Celtaidd. Mae'r dyddiad yn ben-blwydd traddodiadol Crist, er nad yw'n cael ei ystyried i fod yn wir ddyddiad ei ben-blwydd. Yn draddodiadol, mae'r gelynnen yn chwarae rhan amlwg dros yr ŵyl, a hefyd wasanaeth y plygain ac ymweliad Siôn Corn. Hefyd mae plant yn cymryd rhan mewn sioeau Nadolig.

Nadolig
Siôn Corn modern
Nadolig
Paentiad o enedigaeth Crist, gan Bronzino

Hanes y Nadolig

Yn y rhan fwyaf o wledydd y byd, dethlir y Nadolig ar y 25 Rhagfyr. Yr enw a roddir i'r diwrnod o'i flaen yw Noswyl y Nadolig (24 Rhagfyr). Yng Ngwledydd Prydain a nifer o wledydd y Gymanwlad dethlir Gŵyl San Steffan ar y diwrnod canlynol, 26 Rhagfyr: Gŵyl San Steffan yw'r enw ar y diwrnod yng Nghymru ac mewn nifer o wledydd Catholig, a Boxing Day yw'r enw yn Saesneg. Mae hon yn ŵyl y banc yn y Deyrnas Unedig (sy'n cynnwys Gogledd Iwerddon). Mae Eglwys Apostolaidd Armenia yn dathlu'r Nadolig ar 6 Ionawr tra bod rhai Eglwysi Uniongred Dwyreiniol hynafol yn ei ddathlu ar 7 Ionawr, y dyddiad yn ôl Calendr Gregori sy'n cyfateb i'r 25 Rhagfyr yng Nghalendr Iŵl.

Daw geirdarddiad y gair Nadolig o'r gair Lladin Natalicia (Natalis) sy'n golygu digwyddiad sy'n ymwneud â geni. Mae'r ieithoedd Celtaidd yn defnyddio enwau tebyg fel Nedeleg (Llydaweg) a Nollaig (Gwyddeleg).

Yn dilyn tröedigaeth yr Eingl-Sacsoniaid yn Lloegr o'u hamldduwiaeth frodorol (ffurf ar grefydd y Germaniaid paganaidd) yn gynnar yn y 7g, gelwyd y Nadolig yn geol yn Lloegr, sy'n dod o'r gair Germaneg am ŵyl yr heuldro cyn-Gristnogol a oedd yn disgyn ar yr un diwrnod. O'r gair geol daw'r gair Saesneg presennol, Yule. Mae nifer o arferion a gysylltir â'r Nadolig cyfoes yn tarddu o arferion y paganiaid Almaenaidd.

Cynyddodd amlygrwydd Diwrnod y Nadolig yn raddol ar ôl i'r Ymerawdwr Siarlymaen gael ei goroni ar Ddiwrnod y Nadolig yn 800. Tua'r 12g, trosglwyddwyd olion hen draddodiadau'r duw Rhufeinig Sadwrn, sef y Saturnalia Rhufeinig, i Ddeuddeg Diwrnod y Nadolig (26 Rhagfyr – 6 Ionawr). Roedd y Nadolig yn ystod yr Oesoedd Canol yn ŵyl gyhoeddus, gan gyfuno defnydd symbolaidd o eiddew, celyn a phlanhigion bytholwyrdd eraill yn ogystal â rhoi anrhegion.

Traddodiadau modern

Gwelwyd y craceri Nadolig am y tro cyntaf ym 1847 pan gawsant eu dyfeisio gan Tom Smith, prentis cyfreithiwr. Ychwanegodd y stribed o solpitar ym 1860. Dydy'r goeden Nadolig ("draddodiadol") ddim yn hen iawn, Albert, gŵr y Frenhines Victoria, ddaeth â hi i wledydd Prydain. J. Glyn Davies sy'n gyfrifol am fathu'r enw Cymraeg Siôn Corn, sef Santa Clôs a oedd yn ddatblygiad ei hun ar draddodiad Seisnig, Father Christmas.

Mae traddodiadau cyfoes wedi datblygu i gynnwys presebau, tinsel a choed Nadolig plastig, cyfnewid cardiau ac anrhegion, ac ymweliad Siôn Corn ar Noswyl neu fore'r Nadolig.

Daeth yr hosan i Wledydd Prydain am y tro cyntaf yn y 19g gan addasu'r arfer Americanaidd o roi esgidiau allan i Sant Nicolas.

Y Nadolig yng Nghymru

Mae cryn dipyn o draddodiadau Nadoligaidd a Chalan sy'n unigryw i Gymru. Fe eglurant isod.

Canu plygain

Ceir llawer iawn o garolau a chanu plygain wedi'u cadw; arferid eu canu yn ystod cyfnod y Nadolig. Gwasanaeth cwbl Gymreig ydyw, a gynhelir mewn capel neu eglwys yn gynnar ar fore'r Nadolig neu ar noswyl Nadolig fel arfer. Bydd dynion a merched yn canu carolau ac emynau hynafol, digyfeiliant fel arfer ac mewn tri neu bedwar llais. Er mai dathlu geni a hanes Crist mae'r geiriau, mae gwreiddiau cerddorol carolau'r Plygain yn ddwfn yn nhraddodiad gwerin Cymru, ond fel y cyfryw mae llawer ohonynt yn cynnwys llinellau am y croeshoelio.

Symbolau

Nadolig 
Dail a ffrwyth y gelynnen (Ilex aquifolium, celynnen Ewropeaidd).

Tan yn ddiweddar, celyn yn unig a ddefnyddiwyd i harddu'r tŷ: cangen braff wedi'i gosod ger y lle tân. Ni roddid fawr o anrhegion oddigerth i oren neu afal, efallai. Ond mae gwreiddiau'r uchelwydd yn ddwfn yng nghredoau'r derwyddon; arferid ei dorri gyda chryman aur a'i ddefnyddio mewn diod a defodau.

Y Fari Lwyd

Nadolig 
Pobl ymgynnull yn Rhuthun, tua adeg y Nadolig er mwyn tywys Y Fari Lwyd o gwmpas rhai o dai'r ardal.

Traddodiad unigryw a hynafol iawn yng Nghymru ydy'r Fari Lwyd, traddodiad sy'n parhau hyd heddiw rhwng y Nadolig a Nos Ystwyll, ond sy'n tarddu efallai o draddodiadau am y dduwies Geltaidd Epona (Rhiannon yn y traddodiad Cymreig). Penglog ceffyl o dan gynfas, wedi'i addurno â chlychau yw'r Fari Lwyd. Roedd gwaseila yn rhan o'r hwyl – sef mynd â ffiol yn llawn cwrw a sbeis o dŷ i dŷ.

Bwyd a diodydd

Mae gwneud cyflaith ("cyfleth" neu "taffi"; taffi meddal) yn arferiad sy'n gysylltiedig â dydd Calan a'r Nadolig; roedd ei wneud yn gywir yn dipyn o grefft a byddai'n arferiad arllwys y taffi cynnes, gwlyb ar garreg neu lechen wedi ei olchi a'i iro'n dda. Yna, byddai aelodau'r teulu'n ei dynnu, ei gordeddu o gwmpas handlen drws ayyb. Yn draddodiadol, roedd yn digwydd ar noswyl Nadolig cyn y gwasanaeth Plygain. Arferid perfformio rhyw fath o ddarogan gwerin gyda'r cyflaith hefyd; i ddewina pwy fyddai rhywun yn ei briodi, gollyngwyd darnau o'r taffi i mewn i ddŵr oer a gweld pa lythyren a ffurfiai – dyma lythyren(nau) cyntaf o'r cariad.

Hela'r dryw

Nadolig 
Y dryw (Troglodytes troglodytes).

Hyd at ryw ganrif yn ôl, ar Nos Ystwyll (y 6ed o Ionawr - deuddeg diwrnod wedi dydd Nadolig a diwedd yr ŵyl) arferid hela'r dryw, sy'n aderyn bach, cyflym â chân uchel, brysur ganddo. Byddai'r dryw yn cael ei ladd, ei addurno, a'i roi mewn 'tŷ' neu flwch bychan. Byddai grŵp o ddynion wedyn yn cludo'r tŷ o gwmpas y pentref, a byddai trigolion y pentref yn rhoi arian iddynt am y fraint o gael cipolwg ar yr aderyn bach.

Wrth gwrs mae'r arferiad hwn wedi dod i ben ers tro, ac nid oes llawer o arwyddocâd i Nos Ystwyll yng Nghymru bellach.

Gwneud cyflaith

Roedd nosweithiau gwneud cyflaith yn ddigwyddiadau cymdeithasol a arferai ddigwydd ar noswyl Nadolig cyn y gwasanaeth Plygain. Defnyddiwyd y cyfleth i ragweld pwy fyddai rhywun yn ei briodi drwy ollwng darnau o'r taffi poeth i mewn i ddŵr oer a gweld pa lythyren a ffurfiai. Nodai hyn llythyren cyntaf enw'r person.

Pobl o'r enw "Nadolig" ayb

Llyfrau a llyfryddiaeth

Ffynhonnell

Gweler hefyd

Dolennau allanol

Chwiliwch am Nadolig
yn Wiciadur.

Tags:

Nadolig Hanes y Nadolig Traddodiadau modernNadolig Y yng NghymruNadolig Pobl or enw aybNadolig Llyfrau a llyfryddiaethNadolig FfynhonnellNadolig Gweler hefydNadolig Dolennau allanolNadoligCeltCelynCristnogaethGeni'r IesuIesu GristPen-blwyddSiôn CornY plygain

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Fozil MusaevEugène IonescoBitməyən ömürPencampwriaeth Pêl-droed EwropMwynDaeargryn a tsunami Sendai 201130 MehefinGwladIaithGwamHexEwropYr EidalComin WicimediaGeronima Cruz MontoyaRhestr bandiauLeopold III, brenin Gwlad BelgSisters of AnarchyCymruYr ArianninConnecticutPedwar mesur ar hugainSex TapeJuan Antonio VillacañasCreampieDic JonesRhyfel Gaza (2023‒24)1833CaerdyddJess Davies2 TachweddY CremlinOwsleburyBig BoobsBrasilSeland NewyddWilliam ShatnerRhestr o Lywodraethau CymruWashington County, OregonPelagiusY rhyngrwydBaudouin, brenin Gwlad BelgDiciâuGeorge Steiner6 GorffennafEginegTitan (lloeren)Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop 2008Beaulieu, HampshireKemi Badenoch2023Gweriniaeth Ddemocrataidd CongoBukkakeDuwDiddymiad yr Undeb SofietaiddYr AlbanAnnibynnwr (gwleidydd)BelcampoWiciadurAlbert II, brenin Gwlad BelgWicipediaMartha Gellhorn🡆 More