Mudiad dyngarol sy'n ceisio ehangu'r ddarpariaeth feddygol ydy Médecins Sans Frontières (MSF), neu Meddygon Heb Ffiniau.
Yn aml, mae'r meddygon yn gweithio yng ngwledydd y Trydydd Byd, ac epidemig, newyn ac afiechydon yn dew yno.
Cafodd ei sefydlu yn 1971 gan grwp bychan o feddygon o Ffrainc yn dilyn rhyfel cartref Biafra, meddygon a gredawsant fod gan pob person yr hawl i gael gofal meddygol waeth beth fo'i liw neu ei gredo ac nad oedd ffiniau gwleidyddol gwledydd yn bwysig. Mae Cyngor Rhyngwladol y mudiad yn cyfarfod yn Genefa, Swistir, ble sefydlwyd eu Prif Swyddfa - sy'n cydgordio gweithgareddau sy'n gyffredin drwy'r byd.
Yn 2007 darparwyd cymorth meddygol i dros 60 o wledydd a hynny gan dros 26,000 o feddygon, nyrsus a staff proffesiynnol eraill megis peiriannwyr dŵr a gweinyddwyr. Mae noddwyr preifat yn cyfrannu tuag 80% o holl wariant y mudiad gyda'r gyllideb blynyddol o tua (USD) $400 miliwn.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Médecins Sans Frontières, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.