System o argraffion ellir eu defnyddio fel blociau adeiladu i gynrychioli iaith ar ffurf ysgrifenedig yw gwyddor.
Mae'r argraffion yma yn cynrychioli sain yn hytrach na phethau (fel yn achos cymeriadau Tseineeg neu'r kanji Japaneg, er enghraifft). Mae rhai gwyddorau yn ffonetig, fel yr wyddor Gymraeg.
Credir i'r wyddor gyntaf gael ei datblygu yn ardal Ffenicia yn y Lefant tua tair mil o flynyddoedd yn ôl. Dros y canrifoedd ymledodd a chafodd ei haddasu a chafwyd gwyddorau eraill fel yr wyddor Roeg a'r wyddor Ladin.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gwyddor (iaith), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.