Gwlad dirgaeedig yng Nghanolbarth Affrica yw Gweriniaeth Canolbarth Affrica (yn Ffrangeg: République Centrafricaine, yn Sango: Ködörösêse tî Bêafrîka).
Y gwledydd cyfagos yw Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo (Cinsiasa) a Gweriniaeth y Congo (Brazzaville) i'r de, Swdan a De Swdan i'r dwyrain, Tsiad i'r gogledd, a Chamerŵr i'r gorllewin. Mae Gweriniaeth Canolbarth Affrica yn gorchuddio ardal o 620,000 cilometr sgwâr (240,000 milltir sgwâr), ac mae ganddo boblogaeth o tua 4.7 miliwn.
Arwyddair | Undon, Urddas a Gwaith |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad dirgaeedig, gwlad, gweriniaeth |
Prifddinas | Bangui |
Poblogaeth | 4,659,080 |
Sefydlwyd | |
Anthem | La Renaissance |
Pennaeth llywodraeth | Firmin Ngrébada |
Cylchfa amser | UTC+01:00, Africa/Bangui |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ffrangeg, Sango |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Canol Affrica |
Gwlad | Gweriniaeth Canolbarth Affrica |
Arwynebedd | 622,984 km² |
Yn ffinio gyda | Tsiad, Swdan, Camerŵn, Gweriniaeth y Congo, De Swdan, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Y Cynghrair Arabaidd |
Cyfesurynnau | 6.7°N 20.9°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | National Assembly |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | President of the Central African Republic |
Pennaeth y wladwriaeth | Faustin-Archange Touadéra |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prime Minister of the Central African Republic |
Pennaeth y Llywodraeth | Firmin Ngrébada |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $2,516 million, $2,383 million |
Arian | Ffranc Canol Affrica (CFA) |
Canran y diwaith | 7 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 4.286 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.404 |
Prifddinas a dinas fwyaf Gweriniaeth Canolbarth Affrica yw Bangui.
Mae hi'n annibynnol ers y 13eg o Awst, 1960, pan cafodd y wlad ryddid wrth Ffrainc.
Arlywydd y wlad yw Faustin Touadera.
Ers cael annibynniaeth wrth Ffrainc, mae poblogaeth y wlad wedi cynyddu pedwar gwaith. Cododd y boblogaeth o 1,232,000 yn 1960 i tua 4,666,368 erbyn heddiw.
Mae dros 80 o grŵpiau ethnig gwahanol yng Ngweriniaeth Canolbarth Affrica. Y grŵpiau ethnig mwyaf yw :
Yn 2010, roedd 80.3% o'r boblogaeth yn Gristnogion (60.7% Protestanaidd, 28.5% Catholig), ac 8.9% yn Fwslemiaid.
Mae gan Gweriniaeth Canolbarth Affrica ddau iaith swyddogol - Ffrangeg a Sango. Iaith greole yw Sango sydd wedi'i ddatblygu i weithredu fel lingua franca i gysylltu'r holl grŵpiau ethnig yn y wlad. Mae e wedi'i selio ar iaith y Ngbandi. Gweriniaeth Canolbarth Affrica yw un o'r unig wledydd yn Affrica gyda iaith Affricanaidd fel iaith swyddogol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gweriniaeth Canolbarth Affrica, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.