Ffôn Symudol

Radio-teleffon di-wifr bychan cludadwy a ddefnyddir i drawsyrru llais neu ddata i ffôn arall yw ffôn symudol, ffôn llaw neu, weithiau, ffôn lôn (Saesneg mobile phone neu ar lafar mobile).

Ffôn Symudol
Datblygiad y ffôn symudol, o 1994 (Motorola 8900X-2) i 2004 (HTC Typhoon).

Teclun electronig ydyw sy'n trawsyrru'r wybodaeth yn ddigidol o orsaf (neu fast) i orsaf, ar ffurf rhwydwaith. Gall drosglwyddo sawl math o wasanaeth megis GSM, a SMS i ddanfon neges destun, ebost, neu gysylltiad gyda'r rhyngrwyd, gemau, bluetooth, cyfathrebu isgoch (infrared), fideo ac MMS a ddefnyddir i ddanfon a derbyn delweddau a fideo. Erbyn 2013 roedd system band llydan 4G wedi cyrraedd gwledydd Prydain a olygai fod gwylio ffilmiau byw neu tele-gynadledda'n bosib ar y ffôn llaw.

Datblygiad

Yn 1914 roedd byddin Lloegr wedi datblygu math o ffôn cludadwy ar gyfer gogledd Iwerddon, ffôn a oedd mewn dwy ran: y rhan siarad a gwrando gyda gwifr yn ei gysylltu i flwch gyda batri a generadur llaw i greu trydan. Yn ôl dogfennau mewnol y cwmni AT&T (American Telephone & Telegraph), bu trafodaethau yngŷn â datblygu ffôn diwifrau yn 1915, ond roedd y cwmni'n ofni y byddai rhyddhau ffonau o'r fath yn tanseilio ei fonopoli ar y ffôn wifren yn yr Unol Daleithiau.

Lansiwyd y ffôn llaw cyntaf ar y farchnad yn Siapan a hynny yn 1978; roedd y batri'n para tuag 20 munud. Yn 1971 datblygwyd y "Radiotelephone Chopper" ar gyfer yr "Ideal Home Exhibition" yn Olympia a oedd yn gyfuniad o feic a ffôn. Yn 1973 roedd ffôn un darn wedi'i greu gan Bell Labvs, a gwnaed yr alwad cyntaf arno gan Martin Cooper pan ffoniodd ei gydweithiwr Joel Engel. Erbyn Tachwedd 2007 roedd 3.3 biliwn ohonynt wedi cael eu gwerthu led-led y byd h.y. roedd 'na 1 ffôn i bob dau berson ar y blaned! Mae hyn yn gwneud y ddyfais defnyddiol hwn y teclun electronig mwyaf poblogaidd yn y byd. Y ffôn cyntaf i ddarparu cysylltiad i'r rhyngrwyd ac ebost oedd y Nokia Communicator a lansiwyd yn 1996, lansiad a sefydlodd math newydd a drudfawr o ffonau symudol a alwyd yn ffonau clyfar (neu smartphones). Yn 1999 cynigiodd gwasanaeth i-mode a WAP gan NTT DoCoMo yn Siapan, gwasanaeth rhyngrwyd i weithio law-yn-llaw gyda'r cyfrifiadur.

Defnyddiwyd sglodyn ffôn (heb y cyfarpar sgwrsio) i fonitro larymau tŷ a swyddfeydd o tua 2005 ymlaen; yn 2002 dechreuodd Cyngor Swydd Gaergrawnt eu gosod ar finiau lludw er mwyn hysbysu eu hadran gwagio biniau pa bryd roedd y bin yn llawn. Cânt hefyd eu gosod ar lampau stryd er mwyn eu diffodd ar adegau tawel er mwyn arbed trydan.

System o gelloedd

Ffôn Symudol 
Mast ffonau symudol

Signal radio sy'n cael ei ddanfon a'i dderbyn gan y ffôn llaw a hynny mewn ardal gellog (cell site) gyda mast neu dŵr, polyn neu adeilad yn gwneud y gwaith odrwy gyfrwng microdonnau radio wedi'u cysylltu â rhwydwaith cebl cyfathrebu a system switsio (switching system). Mae gan y ffôn symudol trawsyrrydd bychan i drosglwydo llais a data i'r ardal gellog agosaf (sydd fel arfer o fewn 8 i 13 km i ffwrdd).

Roedd rhai ffonau ar y cychwyn yn defnyddio trawsyrrydd allanol (y carphone, h.y. wedi'i osod mewn cerbyd modur) a chyfyngwyd pŵer y trawsyrrydd i lai na 3 watt ERP neu Bŵer Ymbelydrol Effeithiol (Effective Radiated Power). Erbyn hyn, wrth gwrs, mae'r trawsyrrydd yn y ffôn llaw - a hwnnw wedi'i leoli o fewn milimetrau i'r pen. Gosodwyd uchafwsm o 0.6 watt o bŵer ar y ffonau hyn. Er bod y ffonau modern yn saffach, maen nhw gryn dipyn yn wanach ac felly mae' rhaid cael mwy o fastiau - a'r rheiny'n nes at ei gilydd. Yng nghefn gwlad Cymru, mae hyn yn amlwg; er bod rhai mastiau wedi eu cuddliwio'n grefftus i edrych fel coed!

Y Ffonau

Nokia sy'n cynhyrchu fwyaf o ffonau symudol gan gipio 40% o'r farchnad yn 2008. Yn eu dilyn y mae: Samsung (14%), Motorola (14%), Sony Ericson (9%) ac LG gyda 7%. Dyna i chi 80% o'r farchnad wedi'i gymryd gan lond dwrn o gwmniau.

Anelwyd gwahanol fathau o ffonau at wahanol haenau o gymdeithas e.e. anelwyd y RIM Blackberry ar gwsmeriaid corfforaethol a'u defydd helaeth o ebost; ac anelwyd y SonyEricsson Walkman (musicphones) at y cerddor, y gyfres Cybershot (cameraphones) ar gyfer y ffotograffydd a chyfres Nokia N fel camera aml-gyfrwng. Mae hyn i gyd yn bosib gan fod y co-bach (neu'r memory stick yn Saesneg) wedi cynyddu yn ei faint mor aruthrol.

Ffôn Symudol Cymraeg

Ym mis Awst 2009, cyhoeddodd y cwmni ffôn Samsung ei fod am wneud hanes yn y diwydiant ffonau symudol trwy gynhyrchu meddalwedd rhyngwyneb ffôn symudol yn yr iaith Gymraeg - y ffôn Cymraeg cyntaf yn y byd. Mae'r cwmni'n gweithio mewn partneriaeth efo Orange ac fe fydd y model S5600 yn arddangos yn y siopau o'r 1 Medi 2009. Fe fydd gan y ffôn eiriadur efo 44,000 gair Cymraeg ar gyfer negeseuon tecstio darogan (predictive text) a dewislenni hollol Gymraeg.

Ffôn Symudol 
Y Samsung S5600

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Chwiliwch am ffôn symudol
yn Wiciadur.

Tags:

Ffôn Symudol DatblygiadFfôn Symudol System o gelloeddFfôn Symudol Y FfonauFfôn Symudol CymraegFfôn Symudol CyfeiriadauFfôn Symudol Dolenni allanolFfôn SymudolFfônRadioSaesneg

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Tywysogaeth CymruYn y GwaedLlyfr Glas NeboBand presAmicus curiaeCwymp Wall StreetTeyrnas BrycheiniogRhodri LlywelynMunudCyfrifiadur640DurlifChwarren laethPortable Document FormatGwasanaeth cyhoeddus (cwmni)Deallusrwydd artiffisialWilliam Thomas (Islwyn)ArabiaidYr Emiradau Arabaidd UnedigS4C1954Rossmore, Sir TipperaryGweriniaeth IwerddonDillagiRhestr ysgolion cynradd CaerdyddMererid HopwoodYnysoedd ErchMy MistressRhestr ffilmiau CymraegKatie CassidyBwlchtocynRaajneetiManon EamesCarcharor rhyfelIn My Skin (cyfres deledu)SentencedDemograffeg CymruCneifio defaidArwynebeddIselder ysbrydIndira Devi ChaudhuraniHebraegKatwoman XxxFfraincT. James JonesGŵyl Gerdd DantLlifogyddMaffia Mr HuwsDie Bitteren Tränen Der Petra Von KantNot South Park XXXHentai17 EbrillCynnwys rhyddJames Kitchener DaviesMAlexandria RileyGwynfor EvansFünf FreundeManon RhysGwyddelegContactJohn Albert JonesHanner CantHydrolegGroeg (iaith)SenegalCudyll coch🡆 More