Astudiaeth o'r ddaear ffisegol yw Daeareg neu Geoleg (Groeg: γη- sef ge-, y ddaear a λογος, sef logos, gwyddoniaeth).
Mae'n cynnwys astudiaeth o greigiau solid a chramen y Ddaear. Gellir dyddio'r creigiau hyn, a rhennir hanes y ddaear yn gyfnodau daearegol. Gall y gair 'daeareg' hefyd gyfeirio at yr astudiaeth o greigiau a cherrig planedau a ffurfiau eraill yn y gofod e.e. daeareg y Lleuad.
Drwy'r maes hwn ceir cip cliriach o hanes y Ddaear; mae daeareg yn astudiaeth o dystiolaeth cynradd o blatiau tectonig, esblygiad bywyd ar y Ddaear a newid yn hinsawdd y Ddaear. Fe'i defnyddir hefyd yn yr astudiaeth o fwynau, eu cloddio a'u marchnata; felly hefyd gyda phetroliwm a hydrocarbonau eraill. Mae'r astudiaeth o ddŵr y môr a dŵr croyw hefyd yn seiliedig ar astudiaeth o'r maes hwn, yn ogystal â pheryglon naturiol daearyddol a phroblemau gyda'r amgylchedd.
Mae daeareg Ynysoedd Prydain yn enwog am ei amrywiaeth gyfoethog o greigiau a cheir enghreifftiau o bron yr holl oedoedd daearegol o'r Archaean ymlaen.
Mae ymchwil seismograffig yn dangos bod crwst y Ddaear rhwng 27 a 35 km (17 i 22 milltir) o drwch. Mae'r creigiau hynaf i'w cael yng ngogledd orllewin yr Alban ac maent yn fwy na hanner oed blaned. Credir bod y creigiau hyn i'w cael hefyd, yn isel o dan llawer o Brydain - dim ond y cilometrau cyntaf y mae tyllau turio wedi eu treiddio. Gwelir yr un creigiau yn Llydaw, ac felly, credir eu bod yn rhedeg yn isel dan yr wyneb o'r ardal i Lydaw. Mae'r creigiau ieuengaf i'w cael yn ne-ddwyrain Lloegr.
Mae'r Cyfoeth Naturiol Cymru yn dewis safleodd pwysig er mwyn eu gwarchod ac yn eu rhestru ar yr Arolwg Cadwraeth Daearegol (ACD). Mae dau fath o safle sef Safle Daearegol Rhanbarthol Pwysig (SDRhP) a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SDGA). Hefyd mae UNESCO wedi dynodi dau GeoParc yng Nghymru sef Fforest Fawr a GeoMôn.
Mae Geoparc Fforest Fawr y tu mewn i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ne Cymru. Mae GeoMôn yn cynnwys Ynys Môn i gyd ar sail y ffaith fod Môn yn ynys tectonig. Ceir Creigiau hynaf y byd a elwyr yn Cyn-Cambriaidd ar Ynys Môn sydd dros 500 miliwn o flynyddoedd oed hyd at y creigiau ieuengaf heblaw am greigiau yr oes Juraisg ac Oes y Calchfaen. Tiriogaeth sy’n cynnwys un neu fwy o leoliadau o bwysigrwydd gwyddonol, sydd o werth archeolegol ecolegol a diwylliannol yn ogystal â bod o ddiddordeb daearegol yw GeoParc. Mae yna dros 50 Geoparc yn Ewrop.
Mae'r tri rhaniad neu gyfnod wedi eu henwi ar ôl hynafiaethau Cymreig neu Geltaidd, sef y cyfnodau:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Daeareg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.