Cyfrifiadur

Dyfais raglenadwy electronig yw cyfrifiadur sy'n cynnwys uned brosesu ganolog (CPU) a chof, y gellir ei ddefnyddio fel prosesydd geiriau neu i gadw cronfa ddata a myrdd o ddibenion eraill.

Y ffordd fwyaf cyffredin o gysylltu â'r rhyngrwyd yw trwy gyfrifiadur. Gellir chwarae gemau ar gyfrifiadur neu ei raglennu i wneud pethau'n otomatig.

Cyfrifiadur
Cyfrifiadur NeXTstation (1990)
Cyfrifiadur
Cyfrifiadur Zuse Z3 yn y Deutsches Museum ym München

Ceir cyfrifiadur llai, cludadwy ers tua 2000 (sef y gliniadur) a ffurf cludadwy llai byth, sef y cledrydd.

Rhannau

Ceir y canlynol mewn rhai cyfrifiaduron:

Y Cyswllt Cymreig

Yn 1965 cyhoeddodd Donald Davies ei waith pwysicaf a oedd yn egluro sut y datblygodd system a oedd yn galluogi i gyfrifiaduron ddanfon pecynnau o wybodaeth ei gilydd drwy rwydwaith. Defnyddiwyd ei gynllun gan yr Asiantaeth Cynlluniau Ymchwil Blaengar (The Advanced Research Project Agency) yn yr Unol Daleithiau a'i ymgorffori yn ARPANET. Mae "Packet Switching" (fel y gwyddwn amdano bellach), yn dal yn un o gonglfeini'r Rhyngrwyd a'r we fydeang.

Cyfeirir at yr hyn rydym ni heddiw'n ei adnabod fel cyfrifiadur (ac nid 'cyfrifydd' / 'accountant') gyntaf yn y Gymraeg yn Y Cymro ar y 23 Gorffennaf 1969 gan Owain Owain pan ysgrifennodd, Yn syml, mae'r cyfrifiadur yn ei gwneud hi'n bosib i gofnodi y cyfan o wybodaeth yr hil ddynol drwy'r oesau mewn un lle, mewn modd sy'n galluogi unrhyw unigolyn - o'i gartref ei hun er enghraifft - archebu a derbyn unrhyw ran o'r wybodaeth honno. Rydych am weld cerflun mwyaf o geffyl sydd mewn bod? Yna, o'ch cadair freichiau, a chyn i'r bys olaf adael y botwm olaf, fe fydd llun y ceffyl ar y llen deledu yn eich ystafell.' Neu gynllun pensaernïol Eglwys St Pedr yn Rhufain? Pwyswch fotymau eraill a dyna'r cynllun pensaernïol yn dilyn y ceffyl mewn llai na chwinciad!

Meddalwedd

Gweler hefyd

Dolenni allanol

Chwiliwch am cyfrifiadur
yn Wiciadur.

Tags:

Cyfrifiadur RhannauCyfrifiadur Y Cyswllt CymreigCyfrifiadur MeddalweddCyfrifiadur Gweler hefydCyfrifiadur Dolenni allanolCyfrifiadurCronfa ddataRhyngrwydUned brosesu ganolog

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

1927Rhestr dyddiau'r flwyddynRhif Llyfr Safonol RhyngwladolY MedelwrMary SwanzyMathemategHelen KellerDerbynnydd ar y topLaboratory ConditionsRyan DaviesY Rhyfel Byd CyntafBenjamin Netanyahu18 HydrefMycenaeY we fyd-eangIndiaEisteddfod Genedlaethol Cymru Ceredigion 2022Aled a RegAnna MarekEagle EyeBeibl 1588Showdown in Little TokyoKrak des ChevaliersCerddoriaeth CymruManon Steffan RosLewis MorrisDonatella VersaceFfisegManon RhysCalifforniaCascading Style SheetsChwyldroAbermenaiEwropSex TapeAderyn ysglyfaethusCyfeiriad IPI am Number FourChicagoThe Disappointments RoomLlydawE. Wyn JamesTrais rhywiolGirolamo SavonarolaAnilingusFfwlbartHanes TsieinaWalking TallGwledydd y bydMorocoToronto19eg ganrifIn My Skin (cyfres deledu)Llyfr Mawr y PlantWicipediaCudyll coch Molwcaidd6 Awst19611839 yng NghymruRhodri MeilirThe NailbomberBoddi TrywerynHenry KissingerMalavita – The Family🡆 More