Colomen: Teulu o adar

Gweler y rhestr

Colomennod
Colomen: Tarddiad ac esblygiad, Tacsonomeg a systemateg, Disgrifiad
Ysguthan (Columba palumbus)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Columbiformes
Latham, 1790
Teulu: Columbidae
Illiger, 1811
Genera

Teulu o golomennod yw'r Columbidae, sy'n cynnwys y sguthan, y golomen wyllt a'r durtur. Dyma'r unig deulu yn urdd y Columbiformes. Mae'r rhain yn adar cryf eu corff gyda gwddf byr a phigau main, byr. Fel y twrci, y dylluan a'r parot mae gan rhai o aelodau'r teulu yma gwyrbilen ar waelod eu pigau. Gan fwyaf, mae'r golomen yn bwydo ar hadau, ffrwythau a phlanhigion. Mae'r teulu i'w gael ledled y byd, ond mae'r amrywiaeth fwyaf yn y byd yn Indomalayan (ar draws y rhan fwyaf o Dde a De-ddwyrain Asia ac i rannau deheuol Dwyrain Asia) ac Awstralasia. Mae'r teulu'n cynnwys tua 335 o rywogaethau. Maen nhw'n codi nyth syml o ffyn, lle maen nhw'n dodwy un neu ddau ŵy gwyn. Mae'r rhieni'n cynhyrchu math o "laeth" ar gyfer eu cywion nhw.

Hadau a ffrwyth yw bwyd y rhan fwyaf o golomenod a gellir rhannu'r teulu'n ddau. Gall un math o golomenod sy'n perthyn i'r Colomennod Ffrwyth Atol fwyta pryfaid a phryfaid genwair a gwybed.

Mae'n symbol rhyngwladol a Christnogol o heddwch ac o ran geirdarddiad, mae'n fenthyciad o'r Lladin columba gair a ddaeth i ynysoedd Prydain gan y Rhufeiniaid, fwy na thebyg.

Mae'r teulu wedi'u rhannu'n 50 genera gyda 13 rhywogaeth wedi difodi.

Yn Saesneg, mae'r rhywogaethau llai yn dueddol o gael eu galw'n "doves" a'r rhai mwy yn "pidgeons". Fodd bynnag, nid yw'r gwahaniaeth yn gyson, ac nid yw'n bodoli mewn unrhyw iaith arall, gan gynnwys y Gymraeg. Yr aderyn y cyfeirir ato amlaf fel "colomen" yw'r golomen ddof (Columba livia domestica), istrywogaeth, a'r aderyn cyntaf i gael ei dofi a'i chadw er mwyn ei chig a'i hwyau, ac sy'n cael ei hadnabod mewn llawer o ddinasoedd fel y golomen wyllt (hefyd Columba livia domestica). Ond mae colomen wyllt hefyd yn enw ar rywogaeth o golomennod, sef y (Columba oenas).

Nyth digon tila mae'r golomen yn ei hadeiladu fel arfer, yn aml gan ddefnyddio ffyn a malurion eraill, y gellir eu gosod ar ganghennau coed, ar silff o ryw fath, neu ar y ddaear, yn dibynnu ar y rhywogaeth. Maent yn dodwy un neu (fel arfer) ddau wy gwyn ar y tro, ac mae'r ddau riant yn gofalu am y cywion, sy'n gadael y nyth ar ôl 25-32 diwrnod. Gall colomennod hedfan erbyn y maent yn 5 wythnos oed. Mae an y cywion hyn, leisiau gwichlyd anaeddfed ond yn wahanol i'r rhan fwyaf o adar, gall colomennod o'r ddau ryw gynhyrchu "llaeth cropa" i'w fwydo i'w cywion, wedi'i secretu gan lif o gelloedd llawn hylif o leinin y cropa (neu crombil).

Tarddiad ac esblygiad




Columbiformes



Cuculiformes





Pterocliformes



Mesitornithiformes




Phylogentic relationship of Columbiformes in the Neoaves clade

Columbiformes yw un o'r cladau mwyaf amrywiol o neoafiaid, ac mae ei wreiddiau yn y cyfnod Cretasaidd ac yn ganlyniad arallgyfeirio cyflym ar ddiwedd ffin K-Pg. Dadansoddwyd y genom cyfan yn y 2010au, a darganfyddwyd bod gan y columbiformes gysylltiad agos â'r gog (Cuculiformes), gan ffurfio grŵp sy'n chwaer gytras i grŵp y grugieir (Pterocliformes) a'r mesitiaid (Mesitornithiformes).

Tacsonomeg a systemateg

Cyflwynwyd yr enw 'Columbidae' i'r teulu gan y sŵolegydd o Loegr William Elford Leach mewn canllaw i gynnwys yr Amgueddfa Brydeinig a gyhoeddwyd yn 1820. Columbidae yw'r unig deulu byw yn y drefn Columbiformes. Roedd y grugieir tywod (Pteroclidae) yn cael eu gosod yma gynt, ond fe'u symudwyd i urdd ar wahân, sef Pterocliformes, oherwydd gwahaniaethau anatomegol sylfaenol (fel yr anallu i yfed trwy "sugno" neu "bwmpio").

Rhennir y Columbidae fel arfer yn bum is-deulu, yn anghywir yn ôl pob tebyg. Er enghraifft, mae'r colomennod daear a sofliar Americanaidd (Geotrygon), sydd fel arfer yn cael eu gosod yn y Columbinae, yn ymddangos mewn dau is-deulu ar wahân. Mae'r drefn a gyflwynir yma yn dilyn Baptista et al. (1997), gydag ambell ddiweddariad.

Mae trefniant genera ac enwi is-deuluoedd mewn rhai achosion yn amodol oherwydd bod dadansoddiadau o ddilyniannau DNA gwahanol yn rhoi canlyniadau sy'n wahanol, yn aml yn radical, wrth leoli rhai genera (Indo-Awstralia yn bennaf).  Mae'n ymddangos bod yr amwysedd hwn, a achosir yn ôl pob tebyg gan 'atyniad cangen hir', yn cadarnhau bod y colomennod cyntaf wedi datblygu yn Awstralasia, a bod y "Treronidae" a'r ffurfiau perthynol (colomennod coronog a'r golomen ffesant, er enghraifft) yn cynrychioli tarddiad cynharaf y grwp. 

Cyn hynny roedd y teulu Columbidae hefyd yn cynnwys y teulu Raphidae, a oedd yn cynnwys y Rodrigues solitaire diflanedig a'r dodo. Mae'r rhywogaethau hyn yn ôl pob tebyg yn rhan o gangen Indo-Awstralia a gynhyrchodd y tri is-deulu bach a grybwyllir uchod, gyda'r colomennod ffrwythau ee colomen Nicobar. Felly, cânt eu cynnwys yma fel is-deulu Raphinae, tra'n aros am dystiolaeth berthnasol, well o'u hunion berthynas.

Gan waethygu'r materion hyn, nid yw'r columbiaid yn cael eu cynrychioli'n dda yn y cofnod ffosil. Ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw ffurfiau gwirioneddol gyntefig hyd yn hyn. Mae'r genws Gerandia wedi'i ddisgrifio o ddyddodion Mïosen Cynnar yn Ffrainc, ond er y credid ers tro ei fod yn golomen, fe'i hystyrir bellach yn grugiar dywod (y Pteroclidae). Darganfuwyd rhanau o golomennod "ptilinopine" y cyfnod Mïosen Cynnar mae'n debyg yn Ffurfiant Bannockburn yn Seland Newydd ac fe'i disgrifiwyd fel Rupephaps.

Colomen: Tarddiad ac esblygiad, Tacsonomeg a systemateg, Disgrifiad 
Colomen y graig (Columba livia ) yn hedfan
Colomen: Tarddiad ac esblygiad, Tacsonomeg a systemateg, Disgrifiad 
Dwy golomen y graig yn paru

Disgrifiad

Maint ac ymddangosiad

Mae colomennod yn amrywio'n sylweddol o ran maint, yn amrywio o ran hyd, sef rhwng15 a 75 cm (5.9 i 29.5 mod), ac mewn pwysau o 30 gm i dros 2,000 gm. Y rhywogaeth fwyaf yw'r golomen goronog o Gini Newydd, sydd bron yr un maint a thwrci, ac yn pwyso 2-4 km (4.4-8.8 pwys). Y lleiaf o'r colomennod yw colomen ddaear y Byd Newydd o'r genws Columbina, sydd yr un maint ag aderyn y to, ac yn pwyso cyn lleied â 22 gram (0.049 pwys). Y turtur ffrwythau fechan, a all fesur cyn lleied â 13 cm yw'r lleiaf o'r teulu hwn.

Anatomeg a ffisioleg

Yn gyffredinol, nodweddir anatomeg aelodau o'r teulu Columbidae gan goesau byr, pigau byr gyda chwyrbilen (cere), a phennau bach ar gyrff gymharol fawr. Fel rhai adar eraill, nid oes gan y Columbidae goden fustl. Daeth rhai naturiaethwyr canoloesol i’r casgliadfod hyn yn egluro natur felys cig y golomen. Mewn gwirionedd, fodd bynnag, mae ganddynt fustl (fel y sylweddolodd Aristotle yn gynharach), sy'n cael ei secretu'n uniongyrchol i'r perfedd.

Colomen: Tarddiad ac esblygiad, Tacsonomeg a systemateg, Disgrifiad 
Mae turtur dorchog (Streptopelia decaocto) yn glanio ac yn arddangos plu hedfan ei hadenydd agored

Mae'r adenydd yn fawr, a cheir 11 prif bluen; mae gan golomennod gyhyrau cryf yn eu hadenydd (cyhyrau adenydd yw 31–44% o bwysau eu cyrff ) ac maen nhw ymhlith yr hedfanwyr cryfaf o'r holl adar.

Mewn cyfres o arbrofion yn 1975 gan Dr. Mark B. Friedman, gan ddefnyddio colomennod, dangoswyd bod eu pen yn pendilio lan a lawr oherwydd eu hawydd naturiol i gadw eu golwg ar rywbeth yn gyson. Fe'i dangoswyd eto mewn arbrawf yn 1978 gan Dr. Barrie J. Frost, ar felin redeg, lle sylwyd nad oeddent yn pendilio eu pennau, gan fod eu hamgylchoedd yn gyson.

Plu

Mae gan aelodau o deulu'r Columbidae blu unigryw ar eu cyrff, gyda'r coesyn yn gyffredinol eang, cryf, a gwastad, yn lleihau'n raddol i bwynt main. Yn gyffredinol, mae'r adbluen (aftershaft) yn absennol; fodd bynnag, efallai y ceir rhai bach ar rai plu cynffon ac adain. Mae gan blu'r corff waelodion trwchus iawn, sy'n cysylltu'n rhydd â'r croen ac yn disgyn yn hawdd, o bosibl er mwyn osgoi ysglyfaethwyr, mae niferoedd mawr o blu yn cwympo allan yng ngheg yr ymosodwr os caiff yr aderyn ei gipio, gan ei gwneud yn haws i'r aderyn ddianc.

Ceir cryn amrywiaeth o fewn plu'r teulu. Mae gan rai rhywogaethau blu llachar. Y Ptilinopus (y colomennod ffrwythau ee y Turtur ffrwythau benlas) yw rhai o'r colomennod mwyaf lliwgar, gyda'r tair rhywogaeth endemig o Fiji ac Alectroenas Cefnfor India y disgleiriaf. Yn ogystal mae gan rhai colomennod gribau neu addurniadau eraill.

Hedfan

Dyma deulu o hedfanwyr rhagorol oherwydd y lifft (neu'r codiad) a ddarperir gan eu hadenydd mawr; ac mae ganddynt gymhareb agwedd (aspect ratio) isel oherwydd lled eu hadenydd, gan ganiatáu iddynt fedru lansio i'w hedfaniad yn gyflym, gan ddianc rhag ysglyfaethwyr, ond am gost ynni uchel.

Dosbarthiad a chynefin

Colomen: Tarddiad ac esblygiad, Tacsonomeg a systemateg, Disgrifiad 
Mae'r turtur resog (y Geopelia striata) wedi'i chyflwyno'n eang ledled y byd.

Mae colomennod yn cael eu dosbarthu dros y Ddaear, ac eithrio ardaloedd sychaf Anialwch y Sahara, Antarctica a'r ynysoedd cyfagos, a'r Arctig uchel. Maent wedi gwladychu'r rhan fwyaf o ynysoedd cefnforol y byd, gan gyrraedd dwyrain Polynesia ac Ynysoedd Chatham yn y Cefnfor Tawel, Mauritius, y Seychelles a Réunion yng Nghefnfor India, a'r Azores yng Nghefnfor yr Iwerydd.

Mae'r teulu wedi addasu i'r rhan fwyaf o'r cynefinoedd sydd ar gael ar y blaned. Ceir rhywogaethau amrywiol hefyd mewn: safanas, glaswelltiroedd, anialwch, coetir tymherus a choedwigoedd, coedwigoedd mangrof, a hyd yn oed tywod a graean diffrwyth yr atolau.

Mae gan rai rhywogaethau diriogaethau enfawr, gyda'r durtur glustiog yn ymestyn ar draws De America i gyd o Colombia i Tierra del Fuego, mae gan y durtur dorchog enfawr o ynysoedd Prydain ar draws Ewrop, y Dwyrain Canol, India, Pacistan a Tsieina, a'r durtur chwerthinog ar draws y rhan fwyaf o Affrica Is-Sahara, yn ogystal ag India, Pacistan, a'r Dwyrain Canol. Mae gan rywogaethau eraill ddosbarthiad bychan, cyfyngedig; mae hyn yn fwyaf cyffredin mewn ynysoedd endemig . Mae'r durtur benfelen yn endemig i Ynys fechan Kadavu yn Fiji, cyfyngir Turtur ddaear Ynysoedd Truk i ddwy ynys, Truk a Pohnpei yn Ynysoedd Caroline, a chyfyngir turtur Grenada i Grenada ei hun, yn y Caribî. Mae gan ambell rywogaethau cyfandirol hefyd ddosbarthiad bychain; er enghraifft, cyfyngir y golomen wregysog i ardal fechan o Dir Arnhem yn Awstralia, cyfyngir y golomen Somalia i ardal fechan iawn yng ngogledd Somalia, a chyfyngir turtur ddaear lygatfoel i'r ardal o gwmpas Salta a Tucuman yng ngogledd Ariannin.

Y rhywogaeth gyda'r ardal fwyaf (o unrhyw rywogaeth) yw'r golomen graig. Mae ei chynefin yn eang iawn: o ynysoedd Prydain ac Iwerddon i ogledd Affrica, ar draws Ewrop, Arabia, Canolbarth Asia, India, yr Himalaya, i Tsieina a Mongolia. Daeth y cynnydd hwn drwy ddofi colomennod, a llawer o'r rheiny'n dianc i'r gwyllt, yn enwedig mewn dinasoedd. Ond nid yw'r unig golomen sydd wedi cynyddu ei hardal oherwydd gweithredoedd dyn; mae nifer o rywogaethau eraill wedi ymsefydlu y tu allan i'w cynefin naturiol ar ôl dianc o gaethiwed. Canfu astudiaeth yn 2020 fod Arfordir Dwyreiniol yr Unol Daleithiau yn cynnwys dwy fegaddinas genetig y golomen: Efrog Newydd a Boston, lle nad yw'r adar yn cymysgu â'i gilydd.

Fel bwyd

Colomen: Tarddiad ac esblygiad, Tacsonomeg a systemateg, Disgrifiad 
Pryd o fwyd Sundanaidd, o Indonesia: colomen wedi'i ffrio gyda timbel nasi (reis wedi'i lapio â dail banana), tempeh, tofu, a llysiau.

Defnyddir sawl math o golomennod fel bwyd; ac mae pob rhywogaeth yn fwytadwy. Defnyddiwyd y mathau dof fel ffynhonnell bwyd ers sawl mileniwm. Fe'i defnyddiwyd yn helaeth o fewn bwydydd Iddewig, Arabaidd a Ffrengig. Yn ôl y Tanakh, kosher yw colomennod, a dyma'r unig adar y gellir eu defnyddio ar gyfer corban. Defnyddir colomennod hefyd mewn bwydydd Asiaidd, megis bwydydd Tsieineaidd, Asameg ac Indonesia.

Yn Ewrop, mae sguthanod yn cael eu saethu'n gyffredin fel aderyn helwriaeth, tra bod colomennod y graig yn cael eu dofi yn wreiddiol er mwyn eu cig. Roedd difodiant colomennod crwydr yng Ngogledd America o leiaf yn rhannol oherwydd iddynt gael eu hela am eu cig. Mae'r llyfr Mrs Beeton's Book of Household Management yn cynnwys ryseitiau ar gyfer colomennod rhost a phastai colomennod, bwyd poblogaidd, rhad yng ngwledydd Prydain yn Oes y Llymru.

Genera

  • Alectroenas
  • Caloenas
  • Chalcophaps
  • Claravis
  • Columba
  • Columbina
  • Cryptophaps
  • Didunculus
  • Drepanoptila
  • Ducula
  • Ectopistes (diflanedig)
  • Gallicolumba
  • Geopelia
  • Geophaps
  • Geotrygon
  • Goura
  • Gymnophaps
  • Hemiphaga
  • Henicophaps
  • Leptotila
  • Leucosarcia
  • Lopholaimus
  • Macropygia
  • Metropelia
  • Microgoura (diflanedig?)
  • Nesoenas
  • Ocyphaps
  • Oena
  • Otidiphaps
  • Petrophassa
  • Pezophaps (diflanedig)
  • Phapitreron
  • Phaps
  • Ptilinopus
  • Raphus (diflanedig)
  • Reinwardtoena
  • Scardafella
  • Starnoenas
  • Streptopelia
  • Treron
  • Trugon
  • Turacoena
  • Turtur
  • Uropelia
  • Zenaida

Rhestr Wicidata:

teulu enw tacson delwedd
Adeinefydd Prydain Newydd Henicophaps foersteri
Colomen: Tarddiad ac esblygiad, Tacsonomeg a systemateg, Disgrifiad 
Adeinefydd y Gogledd Geophaps smithii
Colomen: Tarddiad ac esblygiad, Tacsonomeg a systemateg, Disgrifiad 
Colomen Seland Newydd Hemiphaga novaeseelandiae
Colomen: Tarddiad ac esblygiad, Tacsonomeg a systemateg, Disgrifiad 
Colomen blaen Patagioenas inornata
Colomen: Tarddiad ac esblygiad, Tacsonomeg a systemateg, Disgrifiad 
Colomen gribgoch Geophaps plumifera
Colomen: Tarddiad ac esblygiad, Tacsonomeg a systemateg, Disgrifiad 
Colomen gynffonresog Patagioenas fasciata
Colomen: Tarddiad ac esblygiad, Tacsonomeg a systemateg, Disgrifiad 
Colomen lygatfoel Patagioenas corensis
Colomen: Tarddiad ac esblygiad, Tacsonomeg a systemateg, Disgrifiad 
Colomen yddfgoch Patagioenas squamosa
Colomen: Tarddiad ac esblygiad, Tacsonomeg a systemateg, Disgrifiad 
Cordurtur befriol Geotrygon chrysia
Colomen: Tarddiad ac esblygiad, Tacsonomeg a systemateg, Disgrifiad 
Cordurtur goch Geotrygon montana
Colomen: Tarddiad ac esblygiad, Tacsonomeg a systemateg, Disgrifiad 
Cordurtur gribog Geotrygon versicolor
Colomen: Tarddiad ac esblygiad, Tacsonomeg a systemateg, Disgrifiad 
Turtur Streptopelia turtur
Colomen: Tarddiad ac esblygiad, Tacsonomeg a systemateg, Disgrifiad 
Turtur Inca Columbina inca
Colomen: Tarddiad ac esblygiad, Tacsonomeg a systemateg, Disgrifiad 
Turtur adeinlas Turtur afer
Colomen: Tarddiad ac esblygiad, Tacsonomeg a systemateg, Disgrifiad 
Turtur alarus Streptopelia decipiens
Colomen: Tarddiad ac esblygiad, Tacsonomeg a systemateg, Disgrifiad 
Turtur benlas Turtur brehmeri
Colomen: Tarddiad ac esblygiad, Tacsonomeg a systemateg, Disgrifiad 
Turtur bigddu Turtur abyssinicus
Colomen: Tarddiad ac esblygiad, Tacsonomeg a systemateg, Disgrifiad 
Turtur ddaear blaen Columbina minuta
Colomen: Tarddiad ac esblygiad, Tacsonomeg a systemateg, Disgrifiad 
Turtur ddaear gyffredin Columbina passerina
Colomen: Tarddiad ac esblygiad, Tacsonomeg a systemateg, Disgrifiad 
Turtur dorchgoch Streptopelia tranquebarica
Colomen: Tarddiad ac esblygiad, Tacsonomeg a systemateg, Disgrifiad 
Turtur dorchog Streptopelia decaocto
Colomen: Tarddiad ac esblygiad, Tacsonomeg a systemateg, Disgrifiad 
Turtur dorchog Affrica Streptopelia roseogrisea
Colomen: Tarddiad ac esblygiad, Tacsonomeg a systemateg, Disgrifiad 
Turtur dorchog Jafa Streptopelia bitorquata
Colomen: Tarddiad ac esblygiad, Tacsonomeg a systemateg, Disgrifiad 
Turtur dorchog adeinwen Streptopelia reichenowi
Turtur dorwridog Streptopelia hypopyrrha
Colomen: Tarddiad ac esblygiad, Tacsonomeg a systemateg, Disgrifiad 
Turtur dywyll Streptopelia lugens
Colomen: Tarddiad ac esblygiad, Tacsonomeg a systemateg, Disgrifiad 
Turtur lygatgoch Streptopelia semitorquata
Colomen: Tarddiad ac esblygiad, Tacsonomeg a systemateg, Disgrifiad 
Turtur winau Streptopelia vinacea
Colomen: Tarddiad ac esblygiad, Tacsonomeg a systemateg, Disgrifiad 
Turtur y Dwyrain Streptopelia orientalis
Colomen: Tarddiad ac esblygiad, Tacsonomeg a systemateg, Disgrifiad 
Turtur y Galapagos Zenaida galapagoensis
Colomen: Tarddiad ac esblygiad, Tacsonomeg a systemateg, Disgrifiad 
Turtur y Penrhyn Streptopelia capicola
Colomen: Tarddiad ac esblygiad, Tacsonomeg a systemateg, Disgrifiad 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol



Tags:

Colomen Tarddiad ac esblygiadColomen Tacsonomeg a systemategColomen DisgrifiadColomen Dosbarthiad a chynefinColomen Fel bwydColomen GeneraColomen Gweler hefydColomen CyfeiriadauColomen Dolenni allanolColomen

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

TamilegDemograffeg yr AlmaenBeunoYasser ArafatThomas Jones (almanaciwr)Tanchwa SenghennyddHafanDydd SulPlant DuwJulia ChildFlustra foliaceaFietnamIndonesiaAelhaearnRhufainPachhadlelaJess DaviesHanes JamaicaJefferson, OhioGwyneth LewisWythCapel y NantCynhaiarnCondomStygianEdward VII, brenin y Deyrnas UnedigOlympus MonsIseldiregEstonegCasinoCapel CelynLlwchaiarnThe Submission of Emma MarxPipo En De P-P-ParelridderIRCLloegrRhestr BasgiaidEntropi gwybodaethCilgwriHwngaregAserbaijanegConceptionRhestr o ganeuon a recordiwyd gan Richie ThomasCaerdyddTrychineb HillsboroughDeddfwrfaMynyddGwylan yr ArctigSefydliad WicimediaSaddam HusseinTsukemonoCaerloywAberhondduSenedd CymruCefnfor yr IweryddGwenallt Llwyd IfanDeallusrwydd artiffisialLlain GazaPetro VlahosKim KardashianGwyddoniadurC.P.D. PorthmadogSystème universitaire de documentationSimon BowerAgnosticiaethIslamAbaty TyndyrnDört Ateşli YosmaGwlad TaiTalaith Vibo Valentia🡆 More