Yn gyffredinol, cyflwr economaidd yw chwyddiant pan fo prisiau nwyddau a gwasanaethau'n codi am ysbaid o amser, hynny yw, pan fo swm yr arian dreigl a chredyd yn cynyddu o'u cymharu â maint y cynnyrch mewn nwyddau masnachol.
Enghraifft o'r canlynol | cysyniad economaidd, ffenomen |
---|---|
Math | economic problem |
Y gwrthwyneb | deflation |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ceir tri phrif fath o chwyddiant:
Pan fo prisiau nwyddau a gwasanaethau'n codi, mae uned o arian yn prynu llai o nwyddau; adlewyrcha hyn y 'pŵer prynu' (purchasing power) gwladwriaeth; po fwya'r chwyddiant, po leiaf ydy'r pŵer prynu, a pho fwyaf yw'r diffyg a'r gwerth real yr economi. Mesurir chwyddiant gan raddfa blynyddol chwyddiant a'r consumer price index.
Mae chwyddiant yn effeithio'r economi mewn ffyrdd gwahanol: yn adeiladol ac yn negyddol. Yn negyddol, gwelir cynnydd yng nghostau buddsoddi, ansicrwydd o lefel chwyddiant y dyfodol (sy'n atal buddsoddi), ac (ar ei eithaf) lleihad yn y nwyddau sydd ar gael. Yn adeiladol, mae'n caniatáu i fanciau canolog graddfeydd llog, a rheoli neu leihau'r posibilrwydd o ddirwasgiad, ac yn annog buddsoddi mewn prosiectau cyfalaf.
Datgysylltwyd arian sterling oddi ar y 'safon aur' yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn ei ariannu. Effaith hyn oedd chwyddiant a chynydd yng ngwerth aur; gwelodd y bunt, hefyd ostyngiad o fewn y cyfraddau llog rhyngwladol. Pan ail-gysylltwyd y bunt gyda'r 'safon aur' wedi'r Rhyfel Mawr, gwnaed hynny ar sail prisiau aur cyn y rhyfel, a oedd yn uwch, a bu'n rhaid gostwng prisiau'n sylweddol.
Cafwyd adegau o wrth-chwyddiant (neu 'ddatchwyddiant') yng ngwledydd Prydain: disgynnodd 10% yn 1921 a 3-5% yn y 1930au cynnar.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Chwyddiant, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.