Cenia

Gwlad yn nwyrain Affrica yw Gweriniaeth Cenia neu Cenia (hefyd Cenya).

Mae'n ffinio â Somalia i'r gogledd-ddwyrain, Ethiopia i'r gogledd, De Swdan i'r gogledd-orllewin, Wganda i'r gorllewin, Tansanïa i'r de a Chefnfor India i'r de-ddwyrain. Nairobi yw'r brifddinas.

Cenia
Gweriniaeth Cenia
Jamhuri ya Kenya
(Swahili)
Cenia
ArwyddairCenia Lledrithiol Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlMynydd Cenia Edit this on Wikidata
PrifddinasNairobi Edit this on Wikidata
Poblogaeth48,468,138 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd12 Rhagfyr 1964 (Annibyniaeth oddi wrth Lloegr)
AnthemEe Mungu Nguvu Yetu Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethWilliam Ruto Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00, Africa/Nairobi Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iCheltenham Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Swahili, Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDwyrain Affrica Edit this on Wikidata
GwladBaner Cenia Cenia
Arwynebedd581,309 ±1 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaEthiopia, Somalia, Tansanïa, Wganda, De Swdan, Swdan, Y Cynghrair Arabaidd, Llyn Victoria Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau0.1°N 38°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Cenia Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholSenedd Cenia Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Cenia Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethWilliam Ruto Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Arlywydd Cenia Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethWilliam Ruto Edit this on Wikidata
Cenia
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$109,704 million, $113,420 million Edit this on Wikidata
Arianswllt Cenia Edit this on Wikidata
Canran y diwaith9 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant4.334 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.575 Edit this on Wikidata

Diwylliant

Mae Cenia yn wlad llawn o rhan ei Ddiwylliant, ac mae ganddi nifer o wahanol ddiwylliannau, megis Swahili ar yr arfordir, cymunedau pastoralaidd yn y gogledd, ac nifer o wahanol gymunedau yn bod yn y gorllewin ac yng nghanol y wlad. Heddiw, mae'r ddiwylliant Maasai yn adnabyddus, oherwydd ei fod wedi cael llawer o gyhoeddusrwydd er ei fod yn lwyth lleiafrifol. Maent yn adnabyddus iawn oherwydd y ffordd maen nhw'n addurno eu cyrff ac am y gemwaith maen nhw'n ei wwisgo.

Gwisg cenedlaethol

Heblaw am y faner genedlaethol, dal i chwilio am wisg addas mae pobol Cenia. Gan fod o leiaf 42 cymuned ethnig i gael yng Nghenia, a phob un ohonynt a symbolau amrywiol sydd yn gwneud hwy yn unigryw, mae dylunio gwisg a fydd yn iawn i bawb wedi profi i fod yn dasg anodd iawn i bobl yn y gorffennol.

Yr ymgais diweddaraf oedd y 'Sunlight quest for Cenia's National Dress', wedi'i noddi gan Unilever. Fe gafodd dyluniad ei ddewis, ac er cafodd ei ddadorchuddio mewn seremoni cyhoeddus gyda pobl enwog yn modelu'r wisg, ni wnaeth y dyluniad afael gyda pobol Cenia.

Mae Kitenge, sef defnydd cotwm wedi'i wneud mewn i nifer o wahanol liwiau, yn cael ei ddefnyddio gan nifer o bobol Cenia fel gwisg genedlaethol, ond er ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn nifer o wledydd Affrica, dydy hi dal ddim yn wisg cenedlaethol eto, gan ei fod yn cael ei wisgo'n amlach mewn seremonïau. Mae'r Maasai yn gwisgo darnau o goch tywyll i ddangos ei cariad am y ddaear ac eu dibyniaeth arno. Mae hefyd yn sefyll am ei gwaed ac am ei gwroldeb. Mae'r Kanga neu Lesso yn ddefnydd arall sy'n cael ei ddefnyddio yn y mwyafrif o gartrefi Cenia. Mae'r Kanga yn wisg rhwng 1.5 ac 1 medr o hyd, gyda dywediadau Kiswahili neu Saesneg arno, sydd yn cael ei wisgo gan ferched yn amlaf o gwmpas ei cyrff. Mae hefyd yn gallu cael ei defnyddio fel ffedog, blanced neu sling i gario plentyn bach.

Cerddoriaeth

Mae Cenia yn wlad llawn cerddoriaeth o bob steil, o gerddoriaeth o wlad arall, megis afro-fusion ac benga, i gerddoriaeth gwerin. Y gitâr yw'r offeryn mwyaf poblogaidd yng Nghenia, ac mae'n cael ei ddefnyddio mewn nifer o rhythmau. Y gitarydd enwocaf yn yr 20g cynnar oedd Fundi Konde. Mae cerddorion eraill o'r 60au yn cynnwys Fadhili Williams, sef canwr y gân 'Malaika' a gafodd ei ail-wneud yn hwyrach gan Miriam Makeba, Boney M. ac Daudi Kabaka.

Fe all cerddoriaeth poblogaidd yn yr 80au a'r 90au cael ei rhannu i ddau ffurf, y sŵn Swahili a'r sŵn Congolese. Mae hefyd steiliau amrywiol yn dibynnu ar ardaloedd gwahanol, ac mae rhai perfformwyr yn gwneud cerddoriaeth i apelio at dwristiaid, ac un enghraifft o hwn yw'r grŵp - Them Mushrooms.

Yn ddiweddar, mae dau ffurf arall wedi dod i'r golwg - Genge a Kapuka. Mae hwn wedi chwildroi cerddoriaeth poblogaidd Cenia, ac wedi creu math newydd o gerddoriaeth yn fwy at y genhedlaeth ifanc. Mae rhai pobl sy'n enwog am y math yma o gerddoriaeth yn cynnwys Poxi Presha, (Otonglo time) Kalamashaka a K-South.

Mae rhai cerddorion fel Nameless, Redsan, Necessary Noise, Wawesh, Nonini, Juacali, Kleptomaniax, Longombas, Suzannah Owiyo, Achieng Abura ac nifer eraill yn canu mewn steil Reggae, Pop, Afro-fusion ac Hip-Hop. Mae rhai o'r cerddorion hefyd yn ysgrifennu can yn gymysgedd o eiriau Swahili ac Saesneg.

Mae'r Kisima Music Awards sydd yn arddangos holl dalentau cerddorol Dwyrain Affrica wedi'i leoli yng Nghenia, ac bob blwyddyn, mae nifer o gerddorion Cenia yn ennill gwobrau yn y digwyddiad pwysig yma.

Cyfeiriadau

Tags:

Cenia DiwylliantCenia CyfeiriadauCeniaAffricaCefnfor IndiaDe SwdanEthiopiaNairobiSomaliaTansanïaWganda

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Pêl-fasged1880Beach Babes From BeyondCourseraFfilm llawn cyffroTim Berners-LeePabell Llywarch HenLlofruddiaethGlynog DaviesMerthyr TudfulHob y Deri Dando (rhaglen)Siot dwadCyfathrach rywiolQin Shi HuangRhodri LlywelynThe Indian FighterLlangollenL'ammazzatinaManon AntoniazziLlundainSulgwynLlu Amddiffyn IsraelFlying FortressFarmer's DaughtersEtel AdnanDisgyrrwr caledParth cyhoeddusGwlad (plaid wleidyddol)Andhra PradeshBeunoLlanllwchaearn, CeredigionDiffyg ar yr haulAfon CeiriogClewerCaroline FlackY DdaearHindiIt Gets Better ProjectCynhadledd Quebec (1944)Capel CelynElon MuskBollingtonRossmore, Sir Tipperary.asAelhaearnHollt GwenerGamal Abdel NasserDownton AbbeyMullach Clach a'Bhlair - Druim nam BoGwylan yr ArctigIranHamasAaaaaaaah!MaleiegJohn William ThomasMaori (iaith)I tre voltiRhyw tra'n sefyllHwngaregY FanerGiro d'ItaliaArlunyddYr AlmaenLliniaru newid hinsawddWyn LodwickDeallusrwydd artiffisialThe Dressmaker🡆 More