Covid-19: Haint sy'n effeithio'r ysgyfaint a achosir gan SARS coronafirws 2

Sylw! Nid yw Wicipedia yn darparu cyngor meddygol nac iechyd.

Gall yr erthygl hon gynnwys gwybodaeth hen ffasiwn neu anghywir. Dim ond gweithiwr iechyd proffesiynol sy'n gallu rhoi cyngor meddygol i chi, a dim ond awdurdodau iechyd eich gwlad sy'n gymwys i roi cyfarwyddiadau iechyd cyhoeddus yn ymwneud â phandemig y Gofid Mawr.

COVID-19
Covid-19: Symptomau, Atal yr haint, Gweler hefyd
Enghraifft o'r canlynolclefyd heintus newydd, niwmonia annodweddiadol, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathniwmonia annodweddiadol, haint coronafirws, niwmonia firal, milhaint, Virus diseases of plants, niwmonia, clefyd Edit this on Wikidata
SymptomauPeswch, y dwymyn, methiant anadlu, cur pen, myalgia, blinder meddwl, hemoptysis, dolur rhydd, diffyg anadl, lymphopenia, anaemia, anosmia, ageusia, hypoxia, oerni, gorlenwi'r trwyn, anorecsia, cyfog, llid y cyfbilen, poen yn yr abdomen, niwmonia firal, niwed ir ymennydd, deliriwm, anhwylder seicotig, enseffalitis, enanthem, anallu edit this on wikidata
AchosSars-cov-2 edit this on wikidata
Dull trosglwyddoTrosglwyddiad drwy'r aer, heintiad defnynnol, trosglwyddiad drwy gyffyrddiad, trosglwyddiad uniongyrchol, trosglwyddiad drwy chwydu, haint yn y llygad edit this on wikidata
Dyddiad darganfodRhagfyr 2019 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
    Erthygl am yr haint a achoswyd gan SARS-CoV-2 yw hon.
    Am y firws penodol a achosodd yr epidemig, gweler SARS-CoV-2.
    Am y grŵp o erthyglau mae'r firws yn perthyn iddo, gweler: Coronafirysau
    Am y pandemig cyfoes, gweler yr erthygl Pandemig COVID-19.

Clefyd heintus a ddaeth i'r amlwg yn Rhagfyr 2019 yw COVID-19 sy'n fyr am "coronavirus disease 2019"; bathiad Cymraeg - y Gofid Mawr. Gellir olrhain yr achos cyntaf nôl i 17 Tachwedd 2019 yn Hubei. Y firws sydd wrth wraidd yr haint yw'r SARS-CoV-2, ac wrth i'r clefyd yma ymledu drwy'r byd, esgorodd ar bandemig coronafeirws 2019–20. Erbyn 30 Mehefin 2020 roedd dros 1,500 wedi marw yng Nghymru, dros 43,500 drwy wledydd Prydain a thros 505,000 yn fyd-eang..

Canllaw ar wefannau trenau; 27 Mawrth 2020.

Canfuwyd y clefyd yn gyntaf yn 2019 yn Wuhan, Tsieina, ac ers hynny mae wedi lledaenu’n fyd-eang, gan arwain at bandemig.

Mae symptomau cyffredin yn cynnwys twymyn (gorboethi, peswch ac anhawster anadlu, gyda phoen yn y cyhyrau, fflem ac fel arfer, dolur gwddf. Er bod mwyafrif yr achosion yn arwain at symptomau ysgafn, mewn rhai achosion ceir niwmonia difrifol ac organau'r corff yn methu.

Mae cyfradd y marwolaethau allan o'r holl achosion a ddiagnosiwyd ar gyfartaledd yn 3.4%. Ceir cryn amrywiaeth, gyda 0.2% yn y rhai iau nag 20 oed, i oddeutu 15% yn y rhai dros 80 oed. Fel arfer, mae'r haint yn cael ei ledaenu o un person i'r llall trwy ddefnynnau heintus yn cael eu hanadlu, ee drwy besychu neu disian. Mae'r amser rhwng dod i gysylltiad â symptomau a'r symptomau yn ymddangos, yn gyffredinol, rhwng dau a 14 diwrnod, gyda phum diwrnod ar gyfartaledd.

Covid-19: Symptomau, Atal yr haint, Gweler hefyd

Symptomau

Cyfradd y symptomau
Symptomau Canran
Twymyn 87.9%
Peswch sych 67.7%
Gorflinder 38.1%
Mwcws mewn poer 33.4%
Diffyg anadl 18.6%
Poen yn y cyhyrau a'r/neu'r cymalau 14.8%
Dolur gwddw 13.9%
Cur pen 13.6%
Oerni 11.4%
Teimlo'n sâl neu'n chwydu 5.0%
Trwyn llawn 4.8%
Dolur rhydd 3.7%
Haemoptysis 0.9%
cyfbilen gorlawn (Conjunctival congestion) 0.8%

Mae llawer yn datblygu symptomau tebyg i ffliw gan gynnwys twymyn, peswch, a diffyg anadl. Yn llai cyffredin, gellir gweld symptomau anadlu fel tisian, trwyn yn rhedeg, neu ddolur gwddf. Gwelir symptomau fel cyfog, chwydu a dolur rhydd mewn nifer bychan o achosion, ac yn rhai o'r achosion cychwynnol yn Tsieina gwelwyd symptomau cardiaidd yn unig, fel tyndra'r frest a chrychguriadau (palpitations). Mewn rhai achosion eithafol, gall y clefyd ddatblygu i niwmonia, methiant aml-organau, a hyd yn oed marwolaeth.

Firws Cyfnod Deor
(cyfartaledd; mewn dyddiau)
COVID-19 2-14 (amcang.)
SARS 2-7
MERS 2-14
Ffliw moch 1-4
Y ffliw 7
Covid-19: Symptomau, Atal yr haint, Gweler hefyd 
Cyfarwyddiadau syml pedwar cam: sut i wisgo offer amddiffynnol personol

Fel sy'n gyffredin â heintiau, ceir cyfnod o oedi rhwng yr adeg pan fo'r person wedi'i heintio â'r firws a'r adeg pan fyddant yn datblygu symptomau; gelwir y cyfnod hwn yn "gyfnod deori". Y cyfnod deori ar gyfer COVID-19 fel arfer yw pump i chwe diwrnod ond gall amrywio o ddau i 14 diwrnod. Gellir cymharu'r cyfnod dear hwn gyda chyfnod deor firysau eraill:

Covid-19: Symptomau, Atal yr haint, Gweler hefyd 
Cyfarwyddiadau dwyieithog gan Lywodraeth Cymru a GIG ar sut i ddeilio gyda'r fferyllydd.

Mae symptomau plant yn llawer mwynnach. Dangosodd adroddiad gan Ganolfan Tsieineaidd ar gyfer Rheoli ac Atal Clefydau, fod un o bob pedwar plentyn a brofodd yn bositif yn parhau heb unrhyw symptom, ar wahân i symptomau mwyn, megis peswch, 'erythema ffaryngeall' a thwymyn.

Atal yr haint

Ymhlith y mesurau a argymhellir i atal haint mae golchi dwylo'n aml, cadw pellter oddi wrth eraill, a pheidio â chyffwrdd yr wyneb. Argymhellir defnyddio masgiau ar gyfer y rhai sy'n amau bod y firws arnynt a'r rhai sy'n rhoi gofal, ond nid y cyhoedd. Nid oes brechlyn na thriniaeth gwrthfeirysol benodol ar gyfer COVID-19. Mae rheolaeth yn cynnwys trin symptomau, gofal, ynysu a mesurau arbrofol.

Gweler hefyd

Dolenni allanol

Cyfeiriadau

Tags:

Covid-19 SymptomauCovid-19 Atal yr haintCovid-19 Gweler hefydCovid-19 Dolenni allanolCovid-19 CyfeiriadauCovid-19

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

WcráinLeighton JamesDerbynnydd ar y topSbriwsenHarry Potter and the Philosopher's Stone (ffilm)XHamster1887Thomas Gwynn JonesY Rhyfel Byd Cyntaf19eg ganrifY Weithred (ffilm)Ysgol Henry RichardCysgodau y Blynyddoedd GyntPessachHwyaden ddanheddogAnna MarekCerddoriaeth CymruMiguel de CervantesMalavita – The FamilyIncwm sylfaenol cyffredinolSafleoedd rhywAlmaenegCymruGeorge CookeGoresgyniad Wcráin gan Rwsia yn 2022Henry KissingerCudyll coch MolwcaiddTsunamiLlinGaius MariusLewis MorrisTrais rhywiolCalsugnoDinas SalfordCaerwrangonParamount PicturesHentai Kamen1912ContactY FaticanRhian MorganHentaiAbermenai365 DyddArlunyddDic JonesGogledd CoreaAltrinchamHaydn DaviesAwstraliaSteffan CennyddMahanaInternet Movie DatabaseLlanarmon Dyffryn CeiriogGwlad PwylRichard ElfynSporting CPAnnie Harriet Hughes (Gwyneth Vaughan)SaesnegPaganiaethC.P.D. Dinas Abertawe🡆 More