Barack Hussein Obama II oedd 44ain Arlywydd yr Unol Daleithiau.
Mae'n aelod o'r blaid Ddemocraidd. Roedd Obama yn Seneddwr Illinois o 2004 hyd 2008. Cafodd ei ethol yn etholiad arlywyddol Tachwedd 2008 yn erbyn John McCain. Roedd Oprah Winfrey a Ted Kennedy yn ei gefnogi. Ar 6 Tachwedd 2012 trechodd y Gweriniaethwr Mitt Romney a sicrhaodd ail dymor fel Arlywydd.
Barack Obama | |
| |
Cyfnod yn y swydd 20 Ionawr 2009 – 20 Ionawr 2017 | |
Is-Arlywydd(ion) | Joe Biden |
---|---|
Rhagflaenydd | George W. Bush |
Olynydd | Donald Trump |
Cyfnod yn y swydd 3 Ionawr 2005 – 16 Tachwedd 2008 | |
Rhagflaenydd | Peter Fitzgerald |
Olynydd | Roland Burris |
Aelod o Senedd (13ydd ardal) Illinois | |
Cyfnod yn y swydd 8 Ionawr 1997 – 4 Tachwedd 2004 | |
Rhagflaenydd | Alice Palmer |
Olynydd | Kwame Raoul |
Geni | Honolulu, Hawaii, UDA | 4 Awst 1961
Plaid wleidyddol | Democratwr |
Cartref | Kenwood, Chicago, Illinois |
Alma mater | Prifysgol Columbia Ysgol y Gyfraith Harvard |
Galwedigaeth | Cyfreithiwr Gwleidydd |
Crefydd | United Church of Christ |
Gwefan | Obama-Biden Transition Team |
Llofnod |
Ef ydy'r Americanwr Affricanaidd cyntaf i gael ei ethol yn Arlywydd yr Unol Daleithiau. Graddiodd ym Mhrifysgol Columbia a Phrifysgol y Gyfraith, Harvard. Ar ôl cyhoeddi ei fod am sefyll am yr arlywyddiaeth yn Chwefror 2007, cyhoeddodd hefyd ei ddymuniad i weld milwyr ei wlad yn tynnu allan o Irac a chau carchar milwrol Bae Guantanamo.
Ganwyd Obama ar 4 Awst 1961 yn Honolulu, Hawaii; yn fab i Barack Obama, Senior, aelod o grŵp ethnig y Luo o Nyang’oma Kogelo yn Cenia ac Ann Dunham, Americanes croen wyn o Wichita, Kansas. Cyfarfu ei rieni tra roeddent ym Mhrifysgol Hawaii. Gwahanodd y ddau pan oedd Obama yn ddwy oed. Dychwelodd tad Obama i Affrica, lle bu farw mewn damwain car yn 1982. Ailbriododd ei fam gyda dyn o'r enw Lolo Setoro, a symudodd y teulu i'w wlad enedigol ef, sef Indonesia, yn 1967. Yno, yn Jakarta, yr aeth Obama i'r ysgol gynradd nes iddo droi'n ddeg oed. Dychwelodd yr adeg hynny i Honolulu i fyw gyda'i daid a'i nain er mwyn mynychu Ysgol Punahou, gadawodd yr ysgol uwchradd honno yn 1979. Bu farw ei fam o gancr yn 1995. Aeth i'r 'Occidental College' yn Los Angeles am ddwy flynedd ac yna i Brifysgol Columbia.
Gweithiodd yn Efrog Newydd a Chicago am rai blynyddoedd. Dychwelodd i Cenia, am gyfnod o bum wythnos yn 1988, i weld rhai o'i berthnasau. Hefyd:
Cafodd Obama ei ethol i Senedd Illinois yn 1996 gan ganolbwyntio ei bolisiau ar bobl tlawd, hawliau sifil, lleihau'r dreth a chodi budd-daliadau plant. Cafodd ei ail-ethol i'r un sedd yn 1998, ac eto yn 2002. Ym mis Tachwedd 2004, cafodd ei ethol i Senedd yr Unol Daleithiau.
Mae cael cefnogaeth y lobi Seionaidd dylanwadol AIPAC yn hanfodol i ymgeiswyr am arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau. Traddododd Obama araith yng Nghynhadledd Flynyddol AIPAC 2008. Yn ogystal ag addo cefnogi Israel, fel sy'n arferol gan wleidyddion UDA, datganodd fod Jeriwsalem yn "brifddinas Israel am byth", gan fynd yn erbyn un o brif hawliau'r Palesteiniaid sef bod Dwyrain Jeriwsalem a Mosg Al-Aqsa yn perthyn iddyn nhw. Datganodd: "Our alliance is based on shared interests and shared values. Those who threaten Israel threaten us. And I will bring to the Whitehouse an unshakeable commitment to Israel's security... I will ensure that Israel can defend itself from any threat - from Gaza to Tehran."
Yn ei ddatganiadau polisi ar y cyd â Joe Biden ar gyfer yr etholiad, gwnaeth Obama dri phwynt am ei bolisi tuag at Israel:
Cafodd Obama ei feirniadu'n hallt gan sylwebwyr yn y Dwyrain Canol a'r byd Islamaidd am beidio â dweud dim am ddioddefiant y Palesteiniaid yn Gaza. Yn ei araith agoriadol fel Arlywydd ar 20 Ionawr 2009, ni chyfeiriodd at y sefyllfa yn Gaza o gwbl.
Llinach Gymreig Barack Hussein Obama. Cyfeiriadaeth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Barack Hussein OBAMA 1961 - Honolulu, Hawaii | Michelle La Vaughn ROBINSON 1964 - Chicago | ||||||||||||||||||||||||||||||
Barack Hussein OBAMA 1936 - 1982 Alego, Cenia | (Stanley) Ann DUNHAM 1942 - 1995 Wichita, Kansas | ||||||||||||||||||||||||||||||
Stanley Armour DUNHAM 1918 - 1992 Wichita, Kansas | Madelyn Lee PAYNE 1922- 1908 Peru, Kansas | ||||||||||||||||||||||||||||||
Rolla Charles PAYNE 1892 - 1968 Olathe, Kansas | Leona MCCURRY 1897 - 1968 Peru, Kansas | ||||||||||||||||||||||||||||||
Charles Thomas PAYNE 1861 - 1940 Missouri | Della WOLFLEY 1863 - 1906 Ohio | ||||||||||||||||||||||||||||||
Robert WOLFLEY 1834 - 1895 Ohio | Rachel ABBOTT 1835 - 1911 Licking, Ohio | ||||||||||||||||||||||||||||||
George WOLFLEY 1807 - 1879 Dauphin, Pennsylvania | Nancy PERRY 1812 - 1894 Radnor, Ohio | ||||||||||||||||||||||||||||||
Robert PERRY 1786 - 1852 Ynys Môn, Cymru | Sarah Ellen HOSKINS 1788 - 1859 Virginia | ||||||||||||||||||||||||||||||
Henry PERRY 1759 - Ynys Môn, Cymru | Margaret - 1831 Ynys Môn, Cymru | Richard HOSKINS 1761 - 1834 Ynys Môn, Cymru | Jane 1762 - 1835 ? | ||||||||||||||||||||||||||||
Cyngres yr Unol Daleithiau | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Peter Fitzgerald | Seneddwr dros Illinois gyda Richard Durbin 2005 – 2008 | Olynydd: Roland Burris |
Swyddi gwleidyddol | ||
Rhagflaenydd: George W. Bush | Arlywydd Unol Daleithiau America 2009 – 2017 | Olynydd: Donald Trump |
Swyddi gwleidyddol pleidiol | ||
Rhagflaenydd: John Kerry | Ymgeisydd Arlywyddol y Blaid Democrataidd 2008 (ennill), 2012 (ennill) | Olynydd: Hillary Clinton |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Barack Obama, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.