Ar y ddaear, mae pedair ffordd o ddiffinio ].
Lleolir pob un o'r rhain yn y Môr Arctig):
Mae pegwn daearyddiaethol y gogledd yn 90 gradd i'r gogledd. Ar yr echel hon mae'r ddaear yn troi. Does dim tir yn y lleoliad hwn, ond fel arfer mae meysydd iâ.
Gwnaed y daith gyntaf i begwn daearyddiaethol y gogledd gan Robert Peary, Matthew Henson a phedwar Inuit, sef Ootah, Seegloo, Egingway ac Ooqueah. Credir iddyn nhw gyrraedd ar 9 Ebrill, 1909 er i rai honni y cyrhaeddon nhw mewn gwirionedd 30 km i'r de. Ym 1926, hedfanodd Roald Amundsen o Norwy dros begwn daearyddiaethol y gogledd mewn awyrlong.
Mae pegwn magnetaidd y gogledd ar 78°18' i'r gogledd, 104° i'r gorllewin ger Ynys Ellef Ringness, un o'r Ynysoedd Queen Elizabeth yn Canada. Dyma lle mae cwmpawd neu un pen o fagnet yn wynebu. Defnyddir pegwn magnetaidd y gogledd ers 1600.
Roedd y daith gyntaf i begwn magnetaidd y gogledd gan James Clark Ross. Cyrhaeddodd y pegwn ar 1 Mehefin, 1831. Darganfu Roald Amundsen i'r pegwn fod mewn lleoliad ychydig yn wahanol ym 1903. Ers hyn, sylweddolwyd i'r pegwn yn flynyddol, tua 40 km pob blwyddyn.
Mae pegwn y gogledd daear-fagnetaidd ar 78°30' i'r gogledd, 69° i'r gorllewin, ger Thule a'r Ynys Las. Yma, gellir gweld yr Aurora Borealis.
David Hempleman-Adamsaith oedd y cyntaf i gyrraedd y pegwn hwn ym 1992.
Mae pegwn mwyaf anghysbell y gogledd ar 84°03' i'r gogledd, 174°51' i'r gorllewin. Dyma'r lle pellaf o bob arfordir yn y Môr Arctaidd)
Hedodd Syr Hubert Wilkins dros y pegwn hwn ym 1927 ac ym 1958 cyrhaeddodd llong o Rwsia'r lle.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pegwn y Gogledd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.