Lego

Mae Lego yn llinell o deganau adeiladu plastig a gweithgynhyrchwr gan The Lego Group, cwmni preifat a leolir yn Billund, Denmarc.

Lego
logo LEGO

Y Cynnyrch

Lego 
briciau Lego a Duplo

Mae cynnyrch blaenllaw'r cwmni, Lego, yn cynnwys brics plastig lliwgar sy'n cyd-gloi gyda nifer o gerau, ffigurau o'r enw minifigures, ac amryw o rannau eraill.

Gellir casglu darnau Lego a'u cysylltu mewn sawl ffordd i adeiladu gwrthrychau gan gynnwys cerbydau, adeiladau a robotiaid sy'n gweithio. Yna gellir tynnu unrhyw beth a adeiladwyd ar wahân. Dechreuodd y Grŵp Lego weithgynhyrchu'r brics teganau rhyng-gyswllt yn 1949. Mae'n cefnogi ffilmiau, gemau, cystadlaethau, ac mae yna wyth o barciau sef Legoland wedi'u datblygu o dan y brand.

Mae tua 19 biliwn o elfennau Lego yn cael ei chynhyrchu pob blwyddyn. Mae tua 2.16 miliwn o elfennau Lego yn cael ei modelu pob awr, ac mae yna mwy na 400 biliwn o briciau Lego wedi cael ei chynhyrchu ers 1949. Yn Chwefror 2015 goddiweddodd Lego y cwmni cwmni ceir Ferrari fel y "world's most powerful brand" yn ôl 'Brand Finance'.

Mae Lego yn cael ei rhannu i wahanol oedrannau

Hanes

Dechreuodd The Lego Group yng ngweithdy y saer, Ole Kirk Christiansen (1891-1958), o Billund, Denmarc, a ddechreuodd wneud teganau pren yn 1932. Yn 1934, daeth ei gwmni i gael ei alw'n "Lego" sy'n deillio o'r ymadrodd Daneg Leg Godt, sy'n golygu "chwarae’n dda". Ym 1947, ehangodd Lego i ddechrau cynhyrchu teganau plastig. Yn 1949 dechreuodd Lego gynhyrchu, ymhlith cynhyrchion newydd eraill, fersiwn gynnar o'r brics sy'n cyd-gloi sydd yn gyfarwydd bellach, gan eu galw yn "Brics Rhwymo Awtomatig".

Cyflwynodd The Lego Group linell cynhyrchu Duplo yn 1969, ac mae'n amrywiaeth o flociau syml, mae ei hyd yn mesur dwywaith lled, uchder a dyfnder y blociau Lego safonol ac maent yn anelu at blant iau.

Yn 1978, cynhyrchodd Lego y 'minifigures' cyntaf, sydd ers hynny wedi dod yn elfen bwysig yn rhan fwyaf o setiau Lego.

Themâu y Setiau Lego

Ers y 1950au, mae Grŵp Lego wedi rhyddhau miloedd o setiau gydag amrywiaeth o themâu, gan gynnwys gofod, robotiaid, môr-ladron, trenau, castell, dinosoriaid, y Gorllewin Gwyllt, Disney a ffantasi. Mae rhai o'r themâu clasurol sy'n parhau hyd heddiw yn cynnwys Lego City (llinell o setiau sy'n dangos bywyd y ddinas a gyflwynwyd yn 1973) a Lego Technic (llinell a anelir at efelychu peiriannau cymhleth, a gyflwynwyd yn 1977). Mae yna hefyd setiau newydd ar gael fel Harry Potter ac Star Wars. Mae yna hefyd llawer o setiau wedi ei anelu at blant dros 16 o’r enw Lego Creator Experts.

Dolenni

Cyfeiriadau

Tags:

Lego Y CynnyrchLego HanesLego Themâu y Setiau Lego DolenniLego CyfeiriadauLegoDenmarc

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

RMS Titanic365 DyddThe Speed ManiacUnol Daleithiau AmericaCleopatraDinas Efrog NewyddDave SnowdenCantonegBlogAfrica AddioArchdderwyddLlys Tre-tŵrHunan leddfuHope, PowysY GymanwladCannu rhefrolPensiwnCapreseFreshwater WestPont y BorthGwlad PwylDafydd IwanY Fari LwydCedorRhys ap ThomasLa Ragazza Nella NebbiaTynal TywyllSimbabweRhestr enwau Cymraeg ar lefydd yn LloegrYnys MônCeri Wyn JonesRancho NotoriousCerddoriaethGini NewyddAaron RamseyMamalThe Price of FreeEdward H. DafisTomos yr ApostolNesta Wyn JonesMintys poethCredydNikita KhrushchevLlywodraeth leol yng NghymruIs-etholiad Caerfyrddin, 1966Gari WilliamsTrallwysiad gwaedT. Rowland HughesBrân bigfainUnMartyn GeraintNorth of Hudson BayWalter CradockOwain WilliamsCod QRTywodfaenRhif cymhlygLlyngesDiodLove Kiya Aur Lag GayiLlenyddiaethForbes🡆 More