Grangetown: Ardal a chymuned yng Nghaerdydd

Ardal a chymuned yng Nghaerdydd yw Grangetown.

Mae'n un o faestrefi mwyaf Caerdydd, ac mae'n ffinio ag ardaloedd Glan'rafon, Treganna a Thre-Biwt. Mae Afon Taf yn nadreddu drwy'r ardal. Fe'i datblygwyd gan deulu Winsdor-Clive, yn bennaf. Gyferbyn ag ardal Bae Caerdydd, mae Grangetown wedi ennill o'r datblygiadau a welwyd yno'n ddiweddar, gan gynnwys adeiladau newydd a gwasanaethau megis cysylltiadau trafnidiaeth gwell.

Grangetown
Grangetown: Enwau Cymraeg, Cyfrifiad 2011, Gweler hefyd
Mathcymuned, maestref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas a Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4675°N 3.1853°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000847 Edit this on Wikidata
Systemau newydd i reoli glaw yn Grangetown, Caerdydd sydd yn glanhau dŵr glaw ac yn ei anfon yn syth i Afon Taf yn hytrach na'i bwmpio dros 8 milltir drwy Fro Morgannwg i’r môr.
Grangetown: Enwau Cymraeg, Cyfrifiad 2011, Gweler hefyd
Gweithfeydd Nwy, Grangetown

Roedd gan Grangetown boblogaeth o 18,362 mewn 8,261 aelwyd adeg cyfrifiad 2011. Mae'n ardal amrywiol ac amlddiwylliannol, gyda phoblogaeth sylweddol o bobl o dras Somaliaidd, Asiaidd, a thras cymysg. Mae'n gartref i deml Hindŵ mwyaf Caerdydd, ac amryw o fosgiau gan gynnwys mosg newydd Abu Bakkar.

Enwau Cymraeg

Grangetown yw'r enw safonol yn y Gymraeg. Mae'r enw'n cyfeirio at ystad neu grange a oedd yn eiddo gynt i Abaty Margam. Mae hen ffermdy y Grange, sydd â'i wreiddiau yn yr Oesoedd Canol, yn dal i'w weld ar gornel Clive Street a Stockland Street. Daeth yr enw Grangetown i fodolaeth yn 19g pan godwyd maestref newydd ar y tir o amlgylch y ffermdy.

Yn Gymraeg, gwelir weithiau yr amrywiadau Y Grange (sy'n dyddio'n ôl i'r 19g) ac Y Grenj – mae'r ddau'n cyfateb i'r Saesneg The Grange. Mae Owen John Thomas wedi arfer y ffurf Y Grange Mawr, sydd o bosibl yn dangos dylanwad ffurfiau Saesneg hynafol megis Mor Grange a Grange Moor.

Mae'r enwau Trelluest, Trefaenor a Trefynach yn fathiadau diweddar heb seiliau hanesyddol. Yr hanesydd John Davies a fathodd Trelluest ar sail enwau yng Ngheredigion a gynhwysai'r elfen lluest yn yr ystyr 'cartref dros dro'. Ond fel y dywed Elwyn Davies, ‘Lluest is not known as a name for a township or other administrative area, or for a grange of a monastery. Nor has it been traced as a place-name to such early dates [hynny yw, yr Oesoedd Canol].'

Grangetown yw'r ffurf a ddefnyddir gan Wyddoniadur Cymru (t. 118) ond mae hefyd yn cydnabod bolodaeth y ffurf Trelluest.

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Grangetown (pob oed) (19,385)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Grangetown) (1,867)
  
10.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Grangetown) (11520)
  
59.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Grangetown) (2,441)
  
29.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolenni Allanol

Tags:

Grangetown Enwau CymraegGrangetown Cyfrifiad 2011Grangetown Gweler hefydGrangetown CyfeiriadauGrangetown Dolenni AllanolGrangetownAfon TafBae CaerdyddCaerdyddGlan'rafonTre-BiwtTreganna

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Diwydiant llechi CymruPont y BorthThis Love of OursRhestr o luniau gan John ThomasLingua Franca NovaMoscfa17 EbrillReykjavíkCronfa CraiRhyw llawMaerMichael D. JonesMahmood Hussein MattanRhyw rhefrolTitw mawrTylluan glustiogThe ScalphuntersRwsegGo, Dog. Go! (cyfres teledu)Bois y CilieTomos yr ApostolDaearegThe Gypsy MothsNoson Lawen (ffilm)Undeb credydEsgidTynal TywyllIs-etholiad Caerfyrddin, 1966GwainJohn Williams (Brynsiencyn)Sobin a'r SmaeliaidAdolf HitlerRhagddodiadEUndeb Chwarelwyr Gogledd CymruBretagneSupport Your Local Sheriff!CurveAwstraliaWikipediaUnRancho NotoriousCyfathrach rywiolThe Night HorsemenNeonstadtStumogYr Ynysoedd DedwyddRose of The Rio GrandeHTMLChirodini Tumi Je AmarAsiaLeonor FiniLlawfeddygaethDyledThe Road Not TakenHunan leddfuGlyn CeiriogTamilegCôd postPurani KabarAnna MarekTwitterRowan AtkinsonThe Disappointments RoomFacebookLa ragazza nella nebbiThe Heart BusterTywodfaenAlbanegSwahiliThe Fantasy of Deer Warrior🡆 More