Bod dynol benywaidd aeddfed yw dynes neu fenyw (woman yn Saesneg) (mewn cyferbyniaeth â dyn) ac mae'n cyfeirio at yr oedolyn yn unig.
Mae'n tarddu o'r gair dyn a olygai'n wreiddiol ‘bod dynol’. Lluosog y gair dynes yw merched neu wragedd.
Benywdod yw'r cyfnod ym mywyd y ddynes ar ôl iddi fynd drwy blentyndod, glasoed a llencyndod. Mae gan wahanol wledydd ddeddfau gwahanol, ond ystyrir yn aml 18 oed y llawn oed (yr oed pan ddaw person oedolyn cyfreithiol).
Defnyddir y geiriau hogan, merch a geneth (ll. genod) i gyfeirio nid yn unig at blentyn benyw neu lances yn gyffredinol, ond hefyd at ddynes weithiau. Er enghraifft, nid pobl ifanc yn unig ydyw aelodau Merched y Wawr!
Ceir yn ogystal y term gwraig i ddynodi dynes briod, hen ferch (hyfed hen lances) i ddynodi dynes ddi-briod dros yr oed confensiynol i briodi a gweddw i ddynodi gwraig sydd wedi colli ei gŵr.
Mae system atgenhedlu benywaidd yn cynnwys:
Organau cenhedlu benywaidd | |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Dynes, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.