Derek Boote: Canwr ac actor o Gymro

Roedd Derek Jon Boote yn ganwr ac actor Cymraeg (13 Rhagfyr, 1942 – 29 Tachwedd 1974).

Derek Boote
Ganwyd13 Rhagfyr 1942 Edit this on Wikidata
Gaerwen Edit this on Wikidata
Bu farw29 Tachwedd 1974 Edit this on Wikidata
Cas-gwent Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor teledu, canwr Edit this on Wikidata

Daeth Boote o bentref y Star, ger Gaerwen ar Ynys Môn. Addysgwyd ef yn Ysgol Gyfun Llangefni ac yng Choleg Cerdd a Drama, Caerdydd.

Gyrfa

Chwaraeodd Boote y gitâr a'r bas dwbl a chanu gyda'r darlledwr Hywel Gwynfryn; yn ddiweddarach fe wnaethant ffurfio grŵp gyda Endaf Emlyn o'r enw Yr Eiddoch yn Gywir. Cystadlodd Boote yn nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 1971.

Perfformiodd Boote ochr yn ochr â'r ddeuawd boblogaidd Ryan a Ronnie (Ryan Davies a Ronnie Williams), gan chwarae'r cymeriad Nigel Wyn gwreiddiol ar eu sioe sgets. Ar ôl iddo farw, daeth Bryn Williams yn ei le. Ymddangosodd hefyd yn y rhaglen deledu Gymraeg Dau a Hanner.

Bu hefyd iddo ymddangos ar gyfresi cerddoriaeth boblogaidd, The Singing Barn (1969) a The Singing Barge (1974).

Yn 1969 ymddangosodd gyda Hywel Gwynfryn, Olwen Rees a Heulwen Haf yn Gwendid ar y Lleuad, rhaglen deledu gomedi a ddisgrifwyd fel "sioe gomedi Bythonaidd gyda hiwmor coch ac ambell gip o gyrff pinc". Mae erthygl ar wefan BBC Cymru yn dweud fod deiseb wedi ei drefnu yn erbyn yn y rhaglen, yn cwyno ei fod yn "anweddus" a bod y rhaglen wedi ei atal ar ôl tair pennod. Mae archif BBC Genome, sy'n tarddu o gofnodion y Radio Times yn dangos fod chwe pennod wedi ei amserlennu rhwng 16 Ionawr a 20 Chwefror 1969.

Rhyddhaodd Boote record EP Byw'n Rhydd ar label Recordiau'r Dryw.

Athro

Weithiau roedd Boote yn dysgu yn Ysgol Gyfun Llanhari, ac yn chwe troedfedd pedair modfedd (1.93m) o daldra roedd yn chwaraewr rygbi amatur brwd.

Marwolaeth

Bu farw Boote ym 1974 mewn ysbyty yng Nghas-gwent, yn dilyn damwain annisgwyl ac anffodus. Ym mis Hydref 1974, roedd yn ffilmio rhaglen i blant, Maldwyn Aldwyn yn stiwdio'r BBC yn Llandaf.. Yn ystod egwyl roedd yn smocio yn ei stafell newid pan aeth ei wisg ar dân ar ôl iddo ollwng lludw sigarét arni, a chafodd ei losgi’n ddifrifol. Bu farw rhai wythnosau yn ddiweddarach ym mis Tachwedd.

Disgograffi

  • Byw yn Rhydd, Recordiau'r Dryw, 1968. Cynnwys y caneuon, Byw'n Rhydd, Yr Hyn Ydwyf Fi, San Miguel, Rwyn Mynd Fy Merch, Dagrau, Titrwm Tatrwm. Mae'r clawr yn cynnwys logo adnabyddus Recordiau'r Dryw a Derek.

Dolenni

Cyferiadau

Tags:

Derek Boote GyrfaDerek Boote AthroDerek Boote MarwolaethDerek Boote DisgograffiDerek Boote DolenniDerek Boote CyferiadauDerek Boote13 Rhagfyr1942197429 Tachwedd

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

CedorCasachstanChristopher ColumbusKinorejissor Arif BabayevTîm Pêl-droed Cenedlaethol Gwlad GroegGoogle ChromeDewi LlwydHoudiniRhestr o bobl a anwyd yng Ngogledd IwerddonGalileo GalileiCysawd yr HaulBarddoniaethGweriniaeth Ddemocrataidd yr AlmaenPlwmpAlldafliad benywFfilm35 DiwrnodPussy RiotLouis XIV, brenin FfraincWordPressCyffur gwrthlid ansteroidolTsiadJohn J. PershingBasŵnOrson WellesLeopold III, brenin Gwlad BelgDe AffricaHwngariAnna VlasovaSpace ManMosg Enfawr GazaBelcampoDaeargryn a tsunami Sendai 2011KabsaNewyn Mawr IwerddonBridge of Spies (ffilm)Golff1922Prynhawn DaGeorge SteinerTalaith NovaraHexUnited NationsFfilm yng NghanadaDonald TuskGweriniaethKieffer MooreCanabisChicagoSystem atgenhedluEwropColeg Balliol, RhydychenGareth RichardsTitan (lloeren)1475GwyddelegS4CYr AlbanPedwar mesur ar hugainTabernacl tunPervez MusharrafMaliBloc PartyMozilla FirefoxEos (asiantaeth hawliau darlledu)Albert II, brenin Gwlad BelgYr AlmaenDemolition ManGwladwriaeth Islamaidd🡆 More