Label o rifau yw Cyfeiriad IP (o'r term Saesneg IP address, sef Internet Protocol address) a dadogir i bob dyfais megis cyfrifiadur, argraffydd o fewn rhwydwaith o gyfrifiaduron sy'n defnyddio Protocol Rhyngrwyd ar gyfer cyfathrebu.
Gall y cysylltiad neu'r ddolen o fewn y rhwydwaith hwn fod yn ddi-wifr neu gyda weiren. Y rhwydwaith arferol, bellach, yw'r rhyngrwyd. Mae cyfeiriad IP yn gwasanaethu dau brif bwrpas: adnabod rhyngwyneb neu rwydwaith y gwesteiwr a chyfeiriadu lleoliad. Disgrifir ei rôl fel a ganlyn: "Mae enw'n dangos yr hyn rydyn ni'n chwilio amdano. Mae cyfeiriad yn dangos ble mae ef. Mae llwybr yn dangos sut i fynd ato."
Diffiniwyd y cyfeiriad IP fel rhif 32 beit a defnyddir y sustem hon, a adnabyddir fel 'Protocol Rhyngrwyd fersiwn 4' (IPv4) heddiw. Fodd bynnag, oherwydd cynnydd enfawr y rhyngrwyd ac oherwydd fod y cyfeiriadau IP yn prinhau mor sydyn, datblygwyd fersiwn newydd o IP (IPv6) ym 1995 sy'n defnyddio 128 beit ar gyfer y cyfeiriad. Safonwyd IPv6 fel RFC 2460 ym 1998 ac mae'n cael ei ddatblygu ers canol y 2000au.
Rhifau deuaidd ydy cyfeiriadau IP, ond fel arfer fe'u storir mewn ffeiliau testun ac fe'u harddangosir mewn nodiannau a ellir eu darllen gan berson, er enghraifft 172.16.254.1 (ar gyfer IPv4), a 2001:db8:0:1234:0:567:8:1 (ar gyfer IPv6).
Mae'r Internet Assigned Numbers Authority (IANA) yn rheoli ac yn dyranu cyfeiriadau IP yn fyd-eang.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cyfeiriad IP, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.