Y Zugspitze yw mynydd uchaf yr Almaen.
Mae'n 2962 medr o uchder. Saif yn y Wettersteingebergte, ar y ffîn rhwng yr Almaen ac Awstria. Mae'r rhan Almaenig o'r mynydd yn ne Bafaria.
Math | mynydd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Garmisch-Partenkirchen |
Gwlad | Yr Almaen |
Uwch y môr | 2,962.06 metr |
Cyfesurynnau | 47.421217°N 10.986314°E |
Manylion | |
Amlygrwydd | 1,746 metr |
Rhiant gopa | Finsteraarhorn |
Cadwyn fynydd | Wetterstein |
Deunydd | craig waddodol |
Y trefi agosaf yw Grainau, Garmisch-Partenkirchen, ar ochr yr Almaen ac Ehrwald ar ochr Awstria. Mae rheilffordd yn arwain i'r copa o Garmisch-Partenkirchen, ac mae ceir cabl i'r copa yn cychwyn o'r ochr Awstraidd a'r ochr Almaenig. Ceir bwyty ac amgueddfa fechan ar y copa. Ar lethrau'r mynydd, mae tair allan o'r pum rhewlif yn yr Almaen.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Zugspitze, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.