Y Ganolfan Ddarlledu oedd cyn-bencadlys BBC Cymru yn ardal Highfields, Llandaf, gogledd Caerdydd.
Roedd yn gartref i wasanaethau radio, teledu ac arlein BBC Cymru. Fe'i adeiladwyd yn bwrpasol ar gyfer y BBC ac agorodd yn 1966, pan oedd yn cynnwys tri bloc gyda stiwdios, swyddfeydd a chyfleusterau technegol. Symudodd BBC Cymru i bencadlys newydd yng nghanol Caerdydd gyda'r gwaith o drosglwyddo gwasanaethau yn cychwyn yn 2019 a chwblhau erbyn Medi 2020. Gwerthwyd y tîr i gwmni Taylor Wimpey a bydd y cwmni yn dymchwel y ganolfan ac adeiladu 400 o dai ar y safle.
Cynlluniwyd yr adeiliad gan y pensaer Cymreig Dale Owen (1924-97). Fe'i agorwyd yn 1966 a roedd yn bencadlys ar gyfer BBC Cymru hyd at 2020. Roedd yn gartref i stiwdios, swyddfeydd a chyfleusterau technegol. Lleolwyd yr adeilad yn ardal Llandaf, gogledd Caerdydd ger Afon Taf. Mae'n agos at orsaf reilffordd Danescourt a mae sawl gwasanaeth Bws Caerdydd yn rhedeg heibio. Symudodd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC (BBC NOW) a Chorws Cenedlaethol Cymru'r BBC allan o Stiwdio 1 yn y Ganolfan Ddarlledu i adeilad newydd, Neuadd Hoddinott y BBC yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn 2009. Symudodd cyfleusterau stiwdio drama teledu'r BBC allan yn 2011 i adeiladau pwrpasol newydd ym Mhorth y Rhath, Bae Caerdydd.
Ym mis Awst 2013, cyhoeddwyd bod y Ganolfan Ddarlledu a Thŷ Oldfield, ochr draw y ffordd, ar werth, gyda chynlluniau i symud i un pencadlys pwrpasol newydd yng Nghaerdydd erbyn 2018. Dywedodd y BBC fod y "seilwaith sy'n heneiddio yn Llandaf yn amlwg wedi cyrraedd y diwedd ei oes ac mae'n amser i edrych i'r dyfodol". Edrychwyd ar dri safle posib yng Nghaerdydd;
Cadarnhaodd y BBC yn 2015 mai Sgwâr Canolog fyddai lleoliad eu pencadlys newydd.
Roedd y Ganolfan yn gartref i Pobol y Cwm ers iddo gychwyn yn 1974 a ffilmiwyd nifer o gyfresi drama a chomedi yma yn cynnwys The Chatterley Affair, Perthyn, High Hopes, Satellite City a The District Nurse.[angen ffynhonnell]. Mae'r ganolfan yn cynnwys stiwdios ar gyfer rhaglenni newyddion BBC Wales Today a Newyddion. Cynhyrchwyd nifer o raglenni plant Cymraeg yma yn cynnwys Yr Awr Fawr a HAFoc.
Cyhoeddwyd ym mis Mawrth 2009 y byddai'r BBC yn symud ffilmio sioeau megis Casualty a Crimewatch i stiwdios porth y Rhath yng Nghaerdydd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Y Ganolfan Ddarlledu, Caerdydd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.