Asana, neu osgo'r corff o fewn ymarferion ioga yw Bhujangasana (Sansgrit: भुजंगासन; IAST: Bhujaṅgāsana) neu'r Cobra.
Gelwir y math hwn y osgo yn gefnblyg ac yn asana lledorwedd.
Enghraifft o'r canlynol | asanas ymestyn |
---|---|
Math | asanas lledorwedd, ioga Hatha |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fe'i ceir o fewn ioga hatha ac ioga modern fel ymarfer corff a chaiff ei berfformio'n aml mewn cylch o asanas yn Surya Namaskar (Cyfarchiad i'r Haul) fel dewis arall yn lle Urdhva Mukha Svanasana (Ci ar i Fyny).
Daw'r enw o'r geiriau Sansgrit भुजंग bhujaṅga, "neidr" neu "gobra" a आसन āsana, "osgo" neu " siap y corff". Awgrymir y tebygrwydd rhwng cobra gyda'i chwfl wedi'i godi a siap yr asana hwn. Disgrifiwyd Bhujangasana yn y testun ioga hatha yn y 17g a elwir yn https://www.duhoctrungquoc.vn/wiki/en/Gheranda_Samhita" rel="mw:ExtLink" title="Gheranda Samhita" class="duhoc-cy cx-link" data-linkid="20">Gheranda Samhita, pennod 2, adnodau 42-43. Yn y 19g Sritattvanidhi, mae'r asana'n cael ei enwi'n Sarpasana, sy'n golygu 'y Sarff'.
Mae'r osgo yma'n dilyn yr Adho Mukha Svanasana (Ci ar i Lawr). Rhoddir y cledrau o dan yr ysgwyddau, gan wthio i lawr nes bod y cluniau'n codi ychydig. Mae cefnau'r traed yn gorffwys ar y llawr, y coesau'n ymestyn; mae trem yr iogi yn syth ymlaen. Ar gyfer yr asana llawn, mae'r cefn yn fwaog (fel bwa) nes bod y breichiau'n syth, a'r canolbwyntio, y tro hwn, yn cael ei gyfeirio'n syth i fyny neu ychydig yn ôl. Mae'r coesau'n aros ar y llawr, yn wahanol i Urdhva Mukha Shvanasana (Ci ar i Fyny)
Mae Bhujangasana yn rhan o'r dilyniant o asanas ioga mewn rhai mathau o Surya Namaskar, Cyfarchiad i'r Haul.
Amrywiad haws yw Asana'r Sffincs, a elwir weithiau'n Salamba Bhujangasana (षलम्ब भुजंगासन), lle mae'r eliniau'n (forearms) yn gorffwys ar y llawr, a'r asgwrn cefn yn fwy gwasatd, gyda llai o dro. Fe'i defnyddir o fewn Ioga Yin, naill ai gyda'r eliniau ar y ddaear neu gyda'r breichiau wedi'u sythu."Sphinx & Seal". Yin Yoga. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2019.
Gall uwch-ymarferwyr blygu'r coesau i mewn i Padmasana (Safle Lotws).
Gellir addasu osgo'r corff, er enghraifft, yn ystod beichiogrwydd, trwy osod blanced o dan y pelfis.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Bhujangasana (Y Cobra), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.