y Caffi

Croeso i'r Caffi

Latest comment: 5 diwrnod yn ôl by Stefanik in topic Dolenni erthyglau pan fo dau god

Dyma'r lle i chi drafod sut mae pethau'n gweithio yma, polisïau, a phroblemau technegol
a gofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia.

  • I ychwanegu cwestiwn, cliciwch yma.
  • I ddechrau pennawd newydd, a theipiwch eich neges.
  • Cofiwch lofnodi'r neges drwy ychwanegu pedair sgwigl (tilde) (~~~~) ar y diwedd.
Coffi
Coffi



Wicipedia:Wicibrosiect Cymru

Jyst gair i danlinellu prosiect newydd gan Defnyddiwr:Titus Gold sy'n dod ag elfennau pwysig, craidd am Gymru i lwyfan Wici: Wicipedia:Wicibrosiect Cymru. Dylai bod y cyfan o'r erthyglau yma yn eu lle ers 20 mlynedd, ond dyna ni. Gwell hwyr... Diolch am dy waith ar y rhain. Byddai'n wych pe allai pawb fynd ati i'w gynorthwyo drwy dacluso'r erthyglau neu fynd yr ail gam gan eu datblygu ymhellach. Mae na restr goch o erthyglau i'w creu yno hefyd.

Gair arall sydyn. Mae Defnyddiwr:Titus Gold hefyd wrthi fel lladd nadroedd, ar ei liwt ei hun ar y wici iaith fain. Mae yno, megis llais yn yr anialwch, heb neb yn ei gynorthwyo. De ja vu! Diolch Titus gold! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:47, 15 Ionawr 2023 (UTC)

Les Barker

Newyddion trist iawn yw dysgu am farwolaeth Les. Heddwch i'w lwch. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 16:59, 17 Ionawr 2023 (UTC)

Wrong title

Hello to Welsh community! I am a user of italian wikipedia and I noticed that Così È La Vita is wrong. Is there someone that can move the page to "Così è la vita"? Many, many and many thanks in advance!!! Gatto bianco (sgwrs) 11:57, 18 Ionawr 2023 (UTC)

y Caffi Y Ben arrivato. Grazie. --Craigysgafn (sgwrs) 12:20, 18 Ionawr 2023 (UTC)

Gwedd newydd Wici

Mae na wedd / rhyngwyneb newydd y gallwch ei brofi. Ewch i: Dewisiadau -> Gwedd --> Gwedd 2022.

Gallwn wneud y wedd yma'n ddiofyn / default os dymunwch. Barn? Llywelyn2000 (sgwrs) 06:59, 1 Chwefror 2023 (UTC)

    O'm rhan i, dwyf i ddim yn gweld pwrpas Vector 2022. A minnau'n siarad fel rhywun sydd wedi bod yn ymwneud â dyluniad a defnyddioldeb, pan ymddangosodd V2022 cefais i fy siomi'n fawr ynddo. Mae'r newid yn gosmetig yn bennaf, ac yn defnyddio llawer o "whitespace" i ddim pwrpas. Os byddwn ni'n gwneud V2022 yn ddiofyn fyddaf i ddim yn ei ddefnyddio. Yn wir, byddai V2022 yn gwneud llawer iawn o fy ngwaith i yma yn anoddach o lawer oherwydd bod y "sidebar" yn llai ymarferol. Felly byddwn i'n parhau i ddefnyddio Vector legacy (2010). Rwy'n amau y byddai golygyddion eraill yn gwneud yr un peth. Ac os yw golygyddion yn gweld gwedd wahanol i'r un diofyn y mae mwyafrif o ymwelwyr achlysurol yn ei gweld, bydd yn sicr o greu problemau. --Craigysgafn (sgwrs) 10:31, 1 Chwefror 2023 (UTC)
      Dim yn ei hoffi o gwbl. Dim yn gweld pwynt cael hanner sgrin y cyfrifiadur yn wag o herwydd borderi gwyn enfawr. Mae'r borderi hefyd yn gwneud yr ysgrifen o amgylch lluniau (ee yr adran pigion) I edrych mwy fel rhestr siopa na pharagraff am bwnc difir. AlwynapHuw (sgwrs) 17:58, 1 Chwefror 2023 (UTC)
        Newydd orffen 24 awr o'i brofi. Cytuno! Mae nhw di colli siawns i'w wella - rhoi'r gallu i'r defnyddiwr i symud gwanahol rannau, gweld pwy sydd ar-lein a thrafod gyda sain neu fideo. Licio'r 'Rhestr siopa'! Ond dyna ydy o! A chychwyn erthyglau hir (gyda tabl cynnwys) yr un fath! Os yw'r darllenydd eisiau i'r erthygl lenwi'r sgrin, dylai fod a'r gallu i wneud hynny. Be sy'n dda? Fy hun, dw i'n hoffi mwy o le gwag gwyn! Ac mae botwm yr ieithoedd ar frig yr erthygl, nid yn ei ben ol. Oes gan rywun arall farn, plis? Llywelyn2000 (sgwrs) 16:04, 2 Chwefror 2023 (UTC)
    Dwi ddim yn gweld gymaint o broblem gyda'r diwyg a'r gofod gwyn fy hun. Mae'n haws darllen testun pan fod y prif golofn destun ychydig yn gulach. I'r darllenwyr sydd eisiau gwybodaeth a ddim eisiau cyfrannu na golygu, mi fydd e'n edrych yn 'well'. Ond mae problem am fod defnyddwyr wedi mewngofnodi yn gweld pethau yn wahanol e.e. mi fyddwn i eisiau gweld y prif fwydlen arferol ar y chwith a nid penawdau'r cynnwys. Mae e yn cofio'r dewis yma felly does dim problem. I ddarllenwr heb fewngofnodi, nid yw'n cofio'r dewis. Dwi ddim yn poeni gymaint os nad yw fformat y cynnwys ei hun yn edrych yn wahanol - does dim synnwyr dylunio ar gyfer maint sgrin penodol. Er hynny os oedd y gwedd newydd yn ddiofyn, byddai angen ail-ddylunio y dudalen flaen yn amlwg. Mae angen edrych ar rhai elfennau sydd ddim fel petai nhw wedi newid ar cywiki o'r gwedd newydd. e.e. drwy gymharu a Wikipedia mae'r brif fwydlen ar y chwith yn wahanol a mae'r 'offer' yn llenwi'r gofod ar y dde. Mae yna hefyd ychydig o bethau i'w cyfieithu a cywiriadau i'w gwneud - ble mae'r cyfieithiad yn cael ei reoli? --Dafyddt (sgwrs) 22:59, 2 Chwefror 2023 (UTC)

Dileu lluniau Recordiau Sain

https://commons.wikimedia.org/wiki/Commons:Deletion_requests/Uploads_by_User:DafyddMR Mae'n edrych fel bod lluniau uwchlwythwyd i Commons.wikimedia gan Dafydd Roberts, Prif Weithredwr Sain, wedi cael eu dileu, oherwydd bod yna risg o dorri hawlfraint! Oes 'na rhyw ffordd o'u perswadio bod y lluniau yn ddilys? Piti nag ydyn nhw'n gyrru neges i bob tudalen wicipedia sy'n defnyddio'r lluniau neu fuaswn yn gwybod am y cais cyn eu bod wedi cael eu dileu. Brwynog (sgwrs) 19:45, 3 Chwefror 2023 (UTC)

    Diolch Brwynog Fe ddylai'r uwchlwythwr fod wedi ychwanegu'r templad ei fod yn berson go iawn, a dull cysylltu NEU ebostio Comin gyda'r manylion - i'r system OTRS, a elwir heddiw yn VRTS. Methais innau weld y rhybudd, felly byddai'nbraf petai rhywun yn egluro wrth Dafydd sut i fynd ati, er mwyn sicrhau fod y lluniau'n aros ar Comin. Wyddwn i ddim iddo gychwyn cyfrif ar Comin, chwaith. Llywelyn2000 (sgwrs) 14:23, 10 Chwefror 2023 (UTC)

Cymuned Wicimedia Cymru

Pob hyn a hyn rydym yn cael cais gan Wiki UK i gyfiawnhau parhad y gymuned trwy roi cyfrif o'n gweithgarwch. Gan nad ydwyf wedi gweld cais o'r fath am beth amser rwy'n disgwyl y daw un yn fuan. O ran diddordeb i ni ein hunain ac er mwyn bodloni Wiki UK, os ddaw gais, dyma ystadegau Wicidestun am y flwyddyn ddiwethaf

Dyddiad Safle yn rhestr ieithoedd Wicidestun Nifer y tudalenau wedi eu prawf-ddarllen
1 Chwef 2022 44 4366
5 Mawrth 2022 41 5243
25 Ebrill 2022 39 6985
13 Mai 2022 39 7218
23 Mehefin 36 8379
5 Gorffennaf 2022 34 8877
8 Awst 2022 34 9577
12 Ionawr 2023 32 13,919
3 Chwefror 2023 31 15,469

AlwynapHuw (sgwrs) 05:03, 5 Chwefror 2023 (UTC)

    Rydych chi wedi gwneud gwaith anhygoel ar Wicitestun, Alwyn. Rwy'n gobeithio bod pawb yn ei werthfawrogi. Byddaf i'n galw heibio o bryd i'w gilydd i wneud prawfddarllen, ond dim ond piso dryw bach yn y môr ydyw. Dafydd --Craigysgafn (sgwrs) 21:33, 5 Chwefror 2023 (UTC)
      Nid piso driw bach mohoni, ond cyfraniad hanfodol. Mae'r system "ailolwg" yn bwysig iawn er mwyn sicrhau cywyrdeb ein testynau a'u gwerth fel ffynhonnell dibynadwy. Diolch o galon am dy gyfraniad. AlwynapHuw (sgwrs) 03:58, 6 Chwefror 2023 (UTC)
        Mae'n rhaid i mi ategu sylw Craig yn fama! Anhygoel! Ar hyn o bryd, dw i'n troi fel pi-pi-down o un lle i'r llall, ac yn methu rhoi sylw digonol i dy waith, Alwyn. Soniom ni dro'n ol am recordio cyfweliad ohonot sut i fynd ati - fideo i'r adran 'Cymorth' efallai, os cei amser! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:12, 10 Chwefror 2023 (UTC)
            Cymerodd amser hir i mi weithio allan sut i gael y ddealltwriaeth prin sydd gennyf o sut i gyfrannu i Wicidestun. Rwy'n credu byddai fidio yn ei wneud yn haws i bobl deall sut i gyfrannu na'r artaith es i drwyddo i ddeall y "cymorth" Saesneg. Ond rwyf wedi bod yn ansicr sut! Mae hyn wedi bod yn rhwystr. Dim yn gwybod lle i ddechrau neu sut i greu penodau o fideos cymorth.

            Os gymerwyf destun bach, un o daflenni baledi Prifysgol Caerdydd neu un o Lyfrau Ceiniog Humphreys a dal ar fidio be dwi'n gwneud, heb sain; ond gyda dogfen o eglurhad, rhwng uwch lwytho i Gomin a chyhoeddi i Wicidestun; a fyddai hynny yn gymorth i bobl sy'n fwy hyddysg na fi yn y pethau hyn i roi cymorth imi sut i greu fideos a dogfennaeth cymorth i'r prosiect Cymraeg?AlwynapHuw (sgwrs) 03:07, 15 Chwefror 2023 (UTC)

Global ban for PlanespotterA320/RespectCE

Per the Global bans policy, I'm informing the project of this request for comment: m:Requests for comment/Global ban for PlanespotterA320 (2) about banning a member from your community. Thank you.--Lemonaka (talk) 21:40, 6 February 2023 (UTC)

A Problem with Nodyn:Pethau?

(Pardon me for talking English here, i am de-N, en-2, cy-0.) I have seen that there are many articles that display "&Nbsp;" in the read view. The Wiki-source-texts of the articles do not have syntax errors. See https://www.duhoctrungquoc.vn/wiki/index.php?lang=cy&q=Arbennig:Search&limit=250&offset=0&ns0=1&search=nbsp for a list of articles affected. (Nearly) always, the Nodyn:Pethau is included in the articles, and the problem arises with the elements Poblogaeth, Label brodorol, and Màs. Please see also Sgwrs_Nodyn:Pethau#nbsp_syntax_error, were i described my observation four weeks ago. Thank you in advance. --Himbeerbläuling (sgwrs) 20:09, 8 Chwefror 2023 (UTC)

    Yes, I've noticed this too. Deb (sgwrs) 20:39, 8 Chwefror 2023 (UTC)
    Mae String2 yn cael eu lapio o gwmpas rhai o'r gwerthoedd yma yn y wybodlen ond does dim angen gwneud hyn ar gyfer rhifau. Felly rwy wedi gwneud datrysiad cyflym o dynnu hwn i ffwrdd. String2 is wrapped around some of these values in the infobox but it doesn't need to be there for numbers and one word values, so I've put in a quick solution to remove this. The display should now be better --Dafyddt (sgwrs) 22:40, 9 Chwefror 2023 (UTC)

Ymateb i Lywodraeth Lloegr - Ieithoedd Lleiafrifol

Gyfeillion!

Mae Wiki UK yn bwriadu ateb Llywodraeth Lloegr, a'u 'galwad am dystiolaeth' parthed ieithoedd lleiafrifol y gwledydd hyn. Mae Lucy, CEO WMUK am gadeirio sesiwn Zoom i geisio eich barn ar sut i ymateb. Dyma ei chais (yn y Saesneg):

The Department for Culture, Media and Sport (DCMS) of the UK government is currently running an Inquiry on Minority languages, with a 'call to evidence' until 10th March. Details of the inquiry are here:

https://committees.parliament.uk/work/7208/minority-languages/

Wiki UK is planning to submit a response to this inquiry, as we see it as a valuable opportunity to emphasise the importance of support for indigenous minority languages. We are planning to highlight the impact that thriving minority languages have on cultural identity and community cohesion, and the role of Wiki in enabling indigenous minority language speakers to freely access - or indeed, to contribute to - a body of knowledge and information in their language. However, we would love to include the voices of contributors to indigenous language Wikipedias within our submission, to make sure we are representing a range of views and perspectives. To this end, we are holding a meeting (over Zoom) to discuss the questions posed by the inquiry:

The call will be 12noon - 1pm on Wednesday 1st March and it would be great if you could join us. Do let me know if you can make it and we will send you the zoom link nearer the time. If you can't make the meeting but would like to contribute your views, please do feel free to email us your thoughts on any of the questions.

Rhowch wybod i mi drwy ebost os ydych yn dymuno derbyn dolen i'r cyfarfod. Lucy fydd yn cadeirio a bydd y cyfarfod drwy'r Saesneg.

Diolch a chofion... Robin - Llywelyn2000 (sgwrs) 05:50, 13 Chwefror 2023 (UTC)

Meddalwedd newydd

Oes gobaith cael y diweddariad meddalwedd ar gyfer Wici Cymru fel sydd wedi digwydd ar gyfer y Wikipedia Saesneg ac eraill yn ddiweddar? Mae meddalwedd a ffurf Wici Cymmraeg yn edrych yn hen mewn cymhariaeth ac angen diweddariad. Diolch. Titus Gold (sgwrs) 16:19, 15 Chwefror 2023 (UTC)

Canolbwyntio ar erthyglau yn ôl nifer ymweliadau

Mi fuaswn i'n dadlau fod angen gwelliant mawr ar yr erthyglau Cymraeg a Chymru gan eu bod yn ymddangos ar frig rhestrau ymweliadau yn gyson. Mae angen gwella erthyglau wrth weithio i lawr o'r rhai gyda'r nifer uchaf o ymweliadau. Rwyf wedi dechrau gyda hyn eisioes:

https://pageviews.wmcloud.org/topviews/?project=cy.wikipedia.org&platform=all-access&date=last-month&excludes= Titus Gold (sgwrs) 01:41, 20 Chwefror 2023 (UTC)

Botwm golygu

Dwi'n meddwl fyddai'n well symleiddio ymddangosiad tudalennau fod y botymau golygu yn newid o "[ golygu | golygu cod y dudalen ]" a'i symleiddio i "[golygu]" fel sydd yn ymddangos yn y Wiki Saesneg er enghraifft. Byddai hyn yn edrych yn fwy deniadol i'r darllenwyr. Titus Gold (sgwrs) 18:04, 24 Chwefror 2023 (UTC)

    Haia! Mae na ddwy ffordd o olygu, fel y gwyddost: yr hen ddull (golygu cod y dudalen) a'r un diweddar, sef golygu ar yr wyneb (Visual Editor). Gall golygydd ddewis y naill neu'r llall. Felly, mae'n rhaid gwahaniaethu rhwng y ddau. Mae'n bosib symlhau'r hyn a welir i rywbeth fel 'golygu'r cod' / 'golygu'r arwyneb', wrth gwrs. Efallai mai un sy gen ti (mi synnwn ni'n fawr!) - yn dibynnu ar dy 'Ddewisiadau'. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:52, 27 Chwefror 2023 (UTC)

Cais eto am gymorth efo Wicidestun

Nid ydwyf yn arbenigwr ar Wiciudestun. Canfyddais y safle sawl flwyddyn yn ôl a rhoddais ambell i gerdd ac ambell i emyn arni fel testun rhydd heb ddeall y cysylltiad rhwng yr angen am "wirio" testun efo sgan o'r gwaith gwreiddiol.

Pan fu farw fy ngwraig tair mlynedd yn ôl, bu'r plant a fi trwy'r gorchwyl prudd o be i gadw o'i phethau hi a be i binio. Ymysg y pethau nad oeddem am eu cadw oedd ei chasgliad o lyfrau rhamant "Mills and Boon". Prin fu diddordeb y siopau ail law ac elusennol i gaffael y llyfrau - gan hynny i'r bin ail-gylchu aeth y cwbl. Perodd hynny braw imi; gan fod gennyf, nifer o hen lyfrau am hanes a chrefydd Cymru byddai'n mynd yr un ffordd a rhai "Mills and Boon" fy ngwraig pan af fi i'm medd.

Ar y cyfan y llyfrau Cymraeg sydd gennyf yw rhai sydd yn cyfeirio at bobl sydd yn fy ach. Llyfrau hanes lleol a chofiannau gweinidogion.

Pan oeddwn yn ymgeisydd i'r weinidogaeth Wesleaidd bu gennyf gannoedd o "esboniadau" a rhoddwyd imi mewn cymwynas gan bobl oedd am hwyluso fy astudiaethau. Wedi fy niarddel o'r weinidogaeth mi losgais y blydi lot. Dydy'r llyfrwerthwyr ail-law dim yn derbyn esboniadau bellach, maent oll yn mynd yn brin.

Mae nifer y siopau llyfrau ail law yng Nghymru wedi eu lleihau yn ddirfawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf hefyd. Bu un ym mhob tref 30 mlynedd yn ôl, rhyw dau neu dri sydd yn y goledd bellach, ac mae un ohonynt yn gwrthod gwerthu imi am fy mod yn lladd ei masnach trwy osod llyfrau ar Wicidestun!

Mae cannoedd o lyfrau Cymraeg "hen ffasiwn" "diwerth" dal ar gael ar silffoedd Cymry, sydd angen eu hachub. Rwy'n gwybod, rhywfaint sut i'w hachub, y broblem sydd gennyf yw sut i egluro i eraill sut i wneud.

Awgrymodd fy mab rhaglen "dal fideo" mae o'n defnyddio ar sut i drechu gelyn mewn gêm, ond rwy'n methu gwneud siw na miw efo hi, er talu £100 am y rhaglen.

Os yw'r prosiect am ffynnu mae'n rhaid imi gael cymorth ar sut i gael eraill i ddeall sut i gyfrannu, heb yr helbul pum mlynedd bum i drwodd. Rwy'n hen, mae fy nghyfraniad yn fuan am dod i ben, trwy gwrs bywyd. Mae gan eraill ffynhonnell lyfrau nad ydynt ar gael i mi.

Rwyf mewn twll ar hyn o bryd o wedi cnoi gormod o gig, a dim yn gwybod sut i ddenu cymorth i'r achos! AlwynapHuw (sgwrs) 06:48, 28 Chwefror 2023 (UTC)

    Alwyn, dydw i ddim yn gwybod ble i ddechrau. Mae'n hollol amlwg bod Wicidestun yn brosiect sy'n eithriadol o bwysig, ac mae'n anodd deall pam y dylech chi gael eich gorfodi i frwydro ymlaen ar eich pen eich hun. Mae dirfawr angen mwy o bobl ymroddedig i gynorthwyo. Oni all y Llyfrgell Genedlaethol gynnig unrhyw gymorth? --Craigysgafn (sgwrs) 22:54, 1 Mawrth 2023 (UTC)
      Alwyn: dw i 'di cynnig creu fideo holi-ac-ateb (rhanu sgrin ar Zoom) fel canllaw / rhagolwg o'r gwaith rwyt yn ei wneud - ac mae'r cynnig yn parhau. Gallwn gychwyn adran 'Cymorth' hefyd, ac ychwanegu'r fidoes i'r fan honno. Ebostia fi os ti awydd gwneud fideo a mi ddanfonai wahoddiad Zoom atat. Cytuno hefyd efo Craigysgafn, ond dw i'n gwybod fod Jason LlGC yn andros o brysur - fel arfer! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:12, 14 Mawrth 2023 (UTC)

Dim modd gwneud y pethau bychain am awr ar 1 Mawrth 2023

Ymddangys na fydd modd golygu'r Wicipedia Cymraeg am awr rhwng 14ː00 a 15ː00 (amser Cymru) ar 1 Mawrth oherwydd gwaith profi. Rhyswynne (sgwrs) 09:41, 28 Chwefror 2023 (UTC)

Hafan newydd

Rwyf wedi cael cynnig ar ailwampio'r dudalen Hafan (gweler "Gwedd newydd Wici" uchod). Gallwch chi ddod o hyd iddi yma yn fy Mhwll Tywod. Rwy'n meddwl bydd y dudalen yn ymddwyn ychydig yn well o dan Vector 2022, ond mae'n anodd dweud sut y bydd yn edrych ar pob cyfrifiadur, tabled a ffôn arall. Byddwn i wedi hoffi gallu creu fersiwn a fyddai’n gweithio'n well ar ffonau symudol, ond ar hyn o bryd mae yna fater technegol i’w oresgyn.

A oes unrhyw sylwadau, awgrymiadau neu feirniadaeth ar y dyluniad newydd arfaethedig?

Gyda llaw, ar ôl imi wneud cryn dipyn o arbrofi gyda'r wedd newydd, roeddwn i'n teimlo'n hapusach â hi. Os caewch chi far Cynnwys ar y chwith a bar Offer ar y dde byddwch chi'n datrys y broblem o erwau o le gwag ar un ochr a'r gorlenwad ar yr ochr arall. Felly pan fyddwch chi'n dod i edrych ar y dyluniad arfaethedig, rhowch gynnig arno ar ôl pwyso'r botymau "Cuddio" ar y ddwy ochr. Craigysgafn (sgwrs) 22:11, 1 Mawrth 2023 (UTC)

Comin Anfasnachol (NC)

1) Comin Anfasnachol (NC / non-commercial). Mae adran gyfreithiol Sefydliad Wicimedia bellach wedi dweud fod rhwydd hynt i Wicipedias fel hon ddefnyddio deunydd Anfasnachol (NC) os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny! Dyma dro pedol go iawn! Mae na brosiect, sydd wedi uwchlwytho dros 1.2 M o ddelweddau a ffeiliau eraill yma: https://nccommons.org/wiki/Main_Page

2) Mae Our World in Data yn gweithio o fewn awyrgylch Wicimedia (hy ar wici) yn fama https://mdwiki.org/wiki/WikiProjectMed:OWID gyda'r Basgiaid, er mwyn cyflwyno ffeiliau NC i'r Wicipedia Fasgeg.

3) Ceir prosiect meddygol, cyfoes https://mdwiki.org/wiki/WikiProjectMed:Translation_task_force sy'n cyflwyno sut i wneud hyn ar erthyglau megis https://mdwiki.org/wiki/Abdominal_thrusts

Os ydw i'n dallt yn iawn - bydd caniatad arbennig yn cael ei roi ar yr erthygl lle bydd y ddelwedd NC, a rhwystr rhag i'r llun fynd allan o'r erthygl i wefanau masnachol a gwefanau eraill. Fel hyn, mae'r drwydded NC yn cael ei pharchu a'i chadw. Er enghraiff, gallwn uwchlwytho pob ffeil sydd ar wefan Casgliad y Werin a'u defnyddio ar WP, yna fideos, yna ffeiliau sain...

Os ydym eisiau dilyn y Basgiaid (sy'n griw blaengar, avant garde iawn) yna byddai'n rhaid trafod yma, dod i gonsensws, ac os ydyn ni'n cytuno, bydd angen penodi un cyswllt i fynd a'r maen i'r wal.

Be 'da chi'n ei feddwl? Llywelyn2000 (sgwrs) 08:01, 10 Mawrth 2023 (UTC)

      O, ydy! Mae na 152,177 o luniau ar wefan Casgliad y Werin yn unig! Mi af ati i geisio gynaeafu'r lluniau, felly, cyn eu huwchlwytho. Does gen i ddim Python, felly bydd raid i mi chwilio am help i wneud y cam cyntaf. Diolch gyfaill! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:42, 20 Ebrill 2023 (UTC)

Trafodaeth ar Wiki Saesneg

Mae sgwrs ar wahaniad potenial i dudalennau pennodol ar Gymru a Lloegr.

en:List of ports in England and Wales Titus Gold (sgwrs) 14:07, 11 Ebrill 2023 (UTC)

Gwedd 2022

Helo pawb. Apologies for not writing in the ancient language of Cymry. The Web team has just deployed the new look. It may take up to 3 days for logged-out users to see the new skin across all pageviews. It's just a caching issue - they don't see pages directly from our databases, but from cache servers instead. Logged-in users may experience something similar, too, but you'll see a consistent interface sooner.

Here's more information about the skin. In particular, I'd like to encourage you to see the FAQ (as well as other documentation pages) and subscribe to our newsletter. Diolch! SGrabarczuk (WMF) (sgwrs) 21:38, 12 Ebrill 2023 (UTC)

Newid hinsawdd a hawliau dynol ar Meta

Ddwy flynedd yn ol fe wnaeth criw ohonom geisio llenwi man gwan, a phwysig ar Wicipedia: newid hinsawdd a hawliau dynol; gw. Wicipedia:Y Caffi uchod. Yn y ddwy flynedd ers hynny da ni di creu tua 200 o erthyglau ar y ddau bwnc yma. Prosiect gan y Cenhedloedd Unedig a Sefydliad Wicimedia ydy hwn. Eleni, ychwanegwyd rhestr arall o erthyglau a geisir. Dw i'n gwybod fod gan bawb ei flaenoriaeth ei hun, a da hynny, ond os ydy hwn at eich dant, byddai'n braf gael cwmni! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:18, 13 Ebrill 2023 (UTC)

Wicipedia:Wicibrosiect Cymru

Mae gwaith y wicibrosiect wedi datblygu ac ehangu yn fawr dros y misoedd diwethaf ond mae angen mwy o gymorth arnym. Rwyf wedi tacluso'r tasgau sydd angen eu cyflawni ar brif dudalen y Wicibrosiect, felly os y dymunwch chi ymuno a chyfranu mae rwan yn amser da i wneud. Diolch! Titus Gold (sgwrs) 00:52, 25 Ebrill 2023 (UTC)

    Rwy'n cyfranu erthyglau Cymreig o safbwynt Cymreig i Wicipedia, nid fel ail bobiad o erthyglau Saesneg. Yr hyn rwy'n gweld ar Wicibrosiect Cymru yw restr o bynciau sydd wedi eu codi o'r Wici Saesneg. Nid lle'r Sais yw dweud wrthym ar y Wici Cymraeg pa brosiectau sy'n bwysig i ni.
    Gan fod cyfraniadau nifer o gyfranwyr Cymraeg i Wiki: WikiProject Wales wedi cael ymateb hiliol, ffiaidd a gwrth Gymreig rwy'n credu bod "prosiect" Cymraeg sydd wedi ei gyfieithu ohoni yn sarhad i'n Wici ni! AlwynapHuw (sgwrs)
      Mae lle i bob math o erthyglau a does dim byd yn bod ar gyfieithiadau. Mae'r cyfieithiadau ar y cyfan yn addasu y cynnwys gorau, y teitl a'r cyflwyniad ac yn sylfaen da.
      Mae llawer ohonynt o'r dudalennau newydd yn gyfieithiadau o dudalennau a greais i fy hun ar y Wiki Saesneg hefyd. Mae llawer o'r erthyglau Saesneg wedi bod o gwmpas ers blynyddoedd ac wedi datblygu dros amser hir. Byddai hi'n wastraff i beidio cymryd mantais o'r cynnwys sydd ar gael. Mae'n bwysig hefyd bod defnyddwyr y Wiki Saesneg yn cael pob cyfle i ddefnyddio'r ddolen newid iaith a dod draw i'r Wici Cymraeg.
      Dwi'n cytuno'n llwyr bod angen creu erthyglau sy'n bwysig i Gymry gan gynnwys y Cymry Cymraeg.
      Mae croeso i ddefnyddwyr i ychwanegu teitlau erthyglau sydd yn bwysig iddyn nhw i'r WiciBrosiect.
      Fel y Wicipedia Cymraeg, dyle bod gennym mwy i'w gynnig ar Gymru nag unrhyw Wicipedia arall. Ar hyn o bryd, y Wiki Saesneg sydd ar y blaen ond rydym yn dechrau dal i fyny o ddifrif.
      Titus Gold (sgwrs) 22:44, 25 Ebrill 2023 (UTC)
          Cytuno'n llwyr efo'r ddau ohonoch mai sail i adeiladu arno ydy'r cyfieithiad. Mae angen llygad barcud gan fod cymaint o en-wici'n gogwyddo tuag at unoliaethwyr Seisnig, rhaid dod ag idiomau Cymraeg i'r crochan, ac fel dywed Alwyn chwilio am wybodaeth sy'n berthnasol i'r darlenydd. Ond da ni gyd yn gwneud hyn. Titus Gold - mae'r erthyglau ar Gymru llawer gwell nag oedden nhw chwe mis yn ol - yn y ddwy iaith. Mae gen i ryw 20 o erthyglau ar newid hinsawdd dw i di ymgymryd i weithio arnyn nhw a mi drof at Brosiect Cymru. Ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:56, 26 Ebrill 2023 (UTC)
            Cytuno gyda'r ddau ohonoch ei bod yn bwysig i ychwanegu idiomau Cymraeg a ffynhonellau Cymraeg i erthyglau.
            Edrych ymlaen i weld datblygiad pellach y Wicibrosiect. Titus Gold (sgwrs) 19:34, 27 Ebrill 2023 (UTC)
              iawn, wedi trio hwn (am y tro cyntaf, hynny yw defnyddio'r teclyn cyfieithu split screen - dwi fel arfer yn gwneud torri a gludo mewn ffeil googletranslate gwahanol ieithoedd a gweithio arno wedyn). Wedi gwneud https://www.duhoctrungquoc.vn/wiki/cy/Coedwig_Genedlaethol_i_Gymru pam nad yw'r bocs wybodaeth yn dod i fyny er 'mod i wedi defnyddio
              Y Caffi
              Enghraifft o'r canlynolTudalen brosiect Wicimedia, bwrdd negeseuon y Caffi 


              sef fy ffordd arferol o gyrchwy gwybodaeth i'r gwybodlen? Stefanik (sgwrs) 11:32, 1 Mai 2023 (UTC)
                Yr hyn sy'n llenwi'r gwybodlen yw gwybodaeth o Wicidata. Er bod yna Eitem Wicidata ar gael i Goedwig Genedlaethol i Gymru, mae'r eitem yn wag ag eithrio y teitl Saesneg. Mae angen i rywyn sy'n mwy gyfarddwydd â Wicidata na fi i osod priodoleddau ar yr eitem. AlwynapHuw (sgwrs) 16:19, 1 Mai 2023 (UTC)
                  Rwyf wedi dechrau llewni'r bylchau yn y Wicidata. Mae'n rhyfeddol o anodd dod o hyd i ffynonellau Cymraeg ar gyfer y prosiect hwn. Ac (ochenaid) fel arfer, gall ein cydweithwyr ar enwiki ddefnyddio logo'r prosiect ar y tudalen yno, gyda'u hapêl i gyfraith hawlfraint yr Unol Daleithiau, ond ni all cywiki. --Craigysgafn (sgwrs) 18:32, 1 Mai 2023 (UTC)
                    Mae modd i ni ddefnyddio'r logo yma gan ddefnyddio'r un ddadl sy'n cael ei roi am ei ddefnyddio ar Wicipedia Saesneg, ond mae'n rhaid creu copi newydd ohoni ar gyfer y safle yma yn unig (hy peidio â'i roi ar Gomin at ddefnydd cyffredinol.) Mae llwyth o luniau "defnydd teg" tebyg yma'n barod ar gyfer cwmniau, cloriau llyfr, posteri ffilm ac ati. Gan nad yw'r lluniau yn dod o Wicidestun mae rhaid ychwanegu |image=enwllun (a |caption= disgrifiad os oes eisisau) ar y nodyn {{pethau}}AlwynapHuw (sgwrs) 20:33, 1 Mai 2023 (UTC)
                      Diolch, Alwyn! --Craigysgafn (sgwrs) 21:15, 1 Mai 2023 (UTC)
                        reit, diolch bawb! Wnes i ddim meddwl edyrch ar y wikidata (yn weddol gyfarwydd gyda llenwi hwnnw'n eflennol, o leiaf). Rhyfedd nad oedden nhw wedi llenwi hynny - roeddwn i'n cymryd mai oddi yno roedd manylion y gwybodlen yn dod! Diolch unwaith eto - braf bod yn rhan o dîm yn cefnogi a chynghori ein gilydd. Stefanik (sgwrs) 08:24, 2 Mai 2023 (UTC)

Dehongliad - queer-sensitive interpretation

Newydd gael hwn gan gyfaill i mi (Owen):

Ddydd Mercher, y 17fed Mai, bydd y sesiwn yn Queering Wikipedia, gyda Norena Shopland yn siarad am "Tricky Terminology" am y cymuned LHDTC+ a gyda fi, Vic o Wicimedia Yr Ariannin a Kira a Sofia o Art+Feminism gyda arweinlyfr newydd am cofiaint LHDTC+.

Dwi'n meddwl bydd hi'n neis i gwneud dehongliad yng Nghymraeg efallai?

Do you know anyone I might get in touch with who would be able to provide queer-sensitive interpretation? If not live, then post-facto translation might be good so we could provide subtitles maybe?

Mae mwy am y gynhadledd — a gyda linciau i gofrestru ac i'r amserlen — yn Meta: https://meta.wikimedia.org/wiki/QW2023


Rhowch wybod os ydych am gymryd rhan. Llywelyn2000 (sgwrs) 20:22, 8 Mai 2023 (UTC)

    Dim yn ddeall y gwahoddiad. Yn ôl fy nealltwriaeth i o reolau Wici does dim sensitive interpretations i fod yma am unrhyw bwnc! Rydym yn creu erthyglau mor ffeithiol a phosibl heb unrhyw "interpretation" o gwbl heb sôn am "sensitifrwydd". Rwy'n methu gweld gwahaniaeth rhwng galw am "sensitive interpretation" o bobl LHDTC+ a gofyn am "sensitive interpretation" o ASau Ceidwadol! AlwynapHuw (sgwrs) 02:12, 9 Mai 2023 (UTC)

Wicidestun

Un golygiad y dydd! Mae Alwyn ar Wicidestun yn fama'n awgrymu un neu ddau o bethau bach syml i'w wneud ar Wicidestun. Dilynwch y ddolen uchod ac ewch ati! Un cam bach ar y tro... Llywelyn2000 (sgwrs) 08:36, 9 Mai 2023 (UTC)

    Mae'r dasg yn ymddangos yn aruthrol, ond ... "Sut ydych chi'n bwyta eliffant?" "Un brathiad ar y tro." Mae syniad Alwyn o gydweithio ar "lyfr y mis" yn wych. Rwyf wedi gwneud cychwyn. Craigysgafn (sgwrs) 09:26, 9 Mai 2023 (UTC)

Etholiad arweinydd Plaid Cymru 2023

Does dim byd gennyf ran bersonol yn y mater, ond dw i ddim yn hapus am Etholiad arweinydd Plaid Cymru 2023. Dylai Wicipedia fod yn ffynhonnell ffeithiau, h.y. pethau sydd wedi digwydd, nid pethau a allai ddigwydd. Mae'r erthygl yn ymddangos fel ymgais i lywio cwrs hanes gwleidyddol. Dylen ni aros nes cyhoeddi etholiad. Craigysgafn (sgwrs) 15:54, 10 Mai 2023 (UTC)

(8 awr yn ddiweddarach) Mae Adam Price wedi ymddiswyddo bellach. Ond mae'r egwyddor yn bwysig. --Craigysgafn (sgwrs) 22:17, 10 Mai 2023 (UTC)

en:Talk:Controversy of the Prince of Wales title

Wiki Saesneg - mae dau olygydd yn ceisio cael gwared ar y dudalen en:Talk:Controversy of the Prince of Wales title. Byddwn yn gwerthfawrogi mewnbwn byr. Titus Gold (sgwrs) 13:30, 15 Mai 2023 (UTC)

Gweler y cynnig am "split". Byddwn yn gwerthfawrogi sylw byr yn fawr iawn. Diolch Titus Gold (sgwrs) 23:41, 25 Mai 2023 (UTC)

    Wrth gwrs, mae angen dwy erthygl, ond nid oes gan enwiki ddim didddordeb yn fy mewnbwn i o gwbwl. Unionists ydy'r rhai hynny sy'n ymladd dros gadw'r erthyglau yn 'England and Wales', ac mae gogwydd Seisnig iawn i'w golygiadau nhw. Mae'r gwaith ti'n ei wneud ar cywici'n aros, a da ni i gyd yn ei werthfawrogi. Llywelyn2000 (sgwrs) 12:19, 8 Mehefin 2023 (UTC)

Wici'r Holl Ddaear 2023

Jyst gair sydyn i ddweud fod ei hymgyrch rhyngwladol Wici'r Holl Ddaear 2023 - gyda Chymru'n sefyll ar ei thraed ei hun yn fama, ar Comin. Bydd yn para yng Nghymru drwy Fis Mehefin a Gorffennaf. eich llygad ar y nifer o luniau yn fama. Ar hyn o bryd da ni'n 6ed allan o 31 gwlad, gyda 7 wythnos i fynd! Llywelyn2000 (sgwrs) 12:55, 8 Mehefin 2023 (UTC)

Filter hit: abuse 23

Rwy'n cyfiethu tudalen a cael y neges yma wrth wthio bwtwm 'cyhoeddi'-

Automatic edit filters have identified problematic content in your translation:Abuse 23

Does yna ddim esboniad o be ydi'r broblem Cymru 3 Gwlad Belg 1 (sgwrs) 13:49, 15 Mehefin 2023 (UTC)

    Dwi ddim yn gyfarwydd â'r rhybudd, er pan dwi'n cyhoeddi cyfieithiad, mae llu o rybuddion y codi weithiau, ond dwi'n dal i allu cyhoeddi, a thwtio wedyn. Alla di roi bach mwy o wybodaeth, e.e. pa erthygl (rhag ofn bod o'n taflu fyny termau a all swnio'n anweddus??)?, ai dyma'r tro cyntaf i ti geisio cyfieithu erthygl? Rhyswynne (sgwrs) 13:41, 19 Mehefin 2023 (UTC)
      Cyfieithu erthygl Emanuel Lasker (ail Bencampwr gwyddbwyll y Byd) o'r Saesneg ydw i - roeddwn i'n bwriadu mynd trwy'r Pencampwyr i gyd. 'Dwi di cyhoeddi wyth cyfieithiad heb broblem hyd yn hyn, (neu o leiaf heb broblem fel hyn). Cymru 3 Gwlad Belg 1 (sgwrs) 21:59, 19 Mehefin 2023 (UTC)

Wici'r holl ddaear

Jyst gair i nodi fod y gystadleuaeth Wici'r Holl ddaear ymlaen tan ddiwedd y mis. Dros 2,230 o luniau hyd yma a chymru'n 5ed. Mae canlyniadau pob gwlad i'w gweld yn fama a'r casgliad cyflawn o luniau i'w cael yn fama. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:44, 12 Gorffennaf 2023 (UTC)

Wici Henebion 2023

Gyfeillion! Ddeng mlynedd yn ol, mi drefnais i'r Wici henebion cynaf yng Nghymru a chafwyd 1,750 o luniau. Ers hynny mae'r cyfanswm, bellach, yn 19,397 o luniau! Eleni eto, mae gen i Borth i Gymru yn fama, gyda'r canllawiau a ballu. Gallwch uwchlwytho unrhyw adeilad yng Nghymru sydd wedi'i gofrestru, wrth gwrs. Pob hwyl, a mwynhewch! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:25, 24 Awst 2023 (UTC)

'Awdures Ffrengig' neu 'awdures o Ffrainc'?

Mae gen i hanner cof i ni gael trafodaeth ar ba un i'w ddefnyddio ar ddechrau erthygl, ond fedra i yn fy myw a'i ffindio. Unrhyw help plis? 'ee 'Awdures Seisnig yw X...' neu 'Awdures o Loegr yw X..'??? Yr ail mi dybiaf? Can diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:04, 25 Medi 2023 (UTC)

Papurau Newydd Cymru Ar-lein .... neu Arlein?

Helo bawb, fi sy' yma eto! Wedi sgwennu cofnod Papurau Newydd Cymru Ar-lein. Wedi llwytho dwi'n gweld bod cofnod 'Papurau Newydd Cymru Arlein' wedi ei chreu ond dim cynnwys (ond gyda dolenni gweigion wedi eu creu mewn sawl cofnod). Wnes i ddefnyddio'r arfer o sgwennu "ar-lein" gyda chysylltod. Does gen i ddim farn gref ar y sillafiad, ond beth fyddech chi'n awgrymu a beth dylid gwneud? Hapus i rhywun gymryd arweiniad ar hyn.

Siôn (Stefanik) Stefanik (sgwrs) 14:00, 31 Hydref 2023 (UTC)

      Reit, iawn, sticiaf at Ar-lein, ond, felly, mae angen newid pob cofnod 'Arlein' (cyn awduron wedi bod yn rhagweithiol a chreu côd 'Papurau Newydd Cymraeg Arlein' ar ryw ffwythiant). Sdim ffordd cyflymach o wneud hyn?
      Siôn Stefanik (sgwrs) 11:12, 1 Tachwedd 2023 (UTC)
        ... dwi'n sylwi wrth lenwi'r wicidata bod 'Papurau Newydd Cymreig Arlein (Q16964319)' yn dod fyny yn y blwch 'enghraifft o'r canlynol'. Sut mae newid hyn i'r fersiwn Papurau Newydd Cymru Ar-lein' fel bod pob dolen yn mynd i'r Papurau Newydd Cymru Ar-lein ac nid i dudalen wag?
        Siôn Stefanik (sgwrs) 14:22, 1 Tachwedd 2023 (UTC)

Cerddi'r Bugail

Oes gan rywun copi o Gerddi'r Bugail Hedd Wyn argraffiad 1918 neu ailargraffiadau hyd at 1931(nid un o'r adargraffiadau diweddarach)? Rwyf wedi sganio copi fi ar gyfer Wicidestun ond mae tudalennau iii - vi ar goll, sef y tudalen teitl a rhan un o'r gerdd coffa, a dau dudalen wag. Mi fuaswn yn ddiolchgar iawn pe bai modd cael sganiau o'r ddau dudalen sydd â chynnwys er mwyn eu pwytho i mewn i sgan fi o weddill y llyfr. AlwynapHuw (sgwrs) 14:36, 4 Tachwedd 2023 (UTC)

      Gwych! Byddai JPG Greysgale 300 dpi yn dderbyniol iawn. Gan nad yw system e-bostio fewnol Wicipedia yn caniatáu atodiadau, y ffordd hawddaf o ddanfon nhw imi bydd trwy eu huwchlwytho yma ar Arbennig:Upload (nid ar Gomin na Wicidestun sydd yn defnyddio Comin yn ddiofyn), wedyn bydd modd imi eu lawrlwytho a'u dileu ar ôl eu caffael. Diolch o galon AlwynapHuw (sgwrs) 00:00, 5 Tachwedd 2023 (UTC)

Cwestiwn am olygu, fel dysgwr Cymraeg.

Noswaith dda. Fy enw i yw Christian, ac rwy'n dod o Ddenmarc.

Dyma fy ymgais gyntaf i ysgrifennu yn Gymraeg. Rwyf wedi bod yn dysgu ers 6 mis. Ond, hoffwn ddefnyddio Cymraeg ar y Wicipedia Cymraeg, felly fy ngobaith yw y byddwch yn fy neall!

Dwi am holi am yr erthygl "Yma o Hyd (cân)". Gwelaf nad yw geiriau'r gân yn yr erthygl.

Oes yna reswm eu bod nhw ar goll, fel hawlfraint, neu ydy hi'n bosib i rywun (hyd yn oed fi) eu hychwanegu? Dydw i ddim yn aelod o'r WikiBrosiect Cymru, felly dydw i ddim yn gwybod os ydw i'n cael caniatâd oni bai fy mod yn ymuno.

Diolch am eich cymorth, ac mae'n ddrwg gennyf am unrhyw gamgymeriadau yn fy ysgrifennu! DaneGeld (sgwrs) 21:38, 12 Tachwedd 2023 (UTC)

Botiau a rhestrau gwylio

Pan fo bot yn gwneud miloedd o newidiadau bach, a oes modd gofyn iddo i beidio danfon "negeseuon newid rhestr wylio"? Rwy'n methu cyrchu unrhyw negesaeon e bost o bwys neu bwysigrwydd imi, gan fod fy mlwch derbyn yn cael neges newidiwyd neu ddechreuwyd "tudalen sgwrs" pob 20in eilad am pob erthygl rwyf wedi cyfrannu ers 2010! AlwynapHuw (sgwrs) 03:54, 5 Rhagfyr 2023 (UTC)

Awduron rhydd o hawlfraint 2024

Yn ôl y ddeddf, mae cyhoeddiad yn dod yn rhydd o hawlfraint ar y 1af o Ionawr 70 mlynedd ar ôl farwolaeth yr awdur. Felly bydd llyfrau ac ati gan awduron a fu farw yn ystod 1953 yn symud i'r parth cyhoeddus ac yn rhydd i'w cyhoeddi ar Wicidestun. Ymysg yr awduron Cymraeg a fu farw ym 1953 mae :-

  • Winnie Parry. (mae Craigysgafn wedi trawsysgrifio un o'i llyfrau hi, Cerrig y Rhyd, yn barod a bydd yn cael ei gyhoeddi o fewn munudau i glychau 'r flwyddyn Newydd ganu yn Seland Newydd.
  • Ellen Evans
  • Bu farw Thomas Lewis a'i frawd Elfed o fewn ychydig misoedd i'w gilydd ym 1953.
  • T Mardy Rees
  • Moelona. Rwyf wedi paratoi chwech o'i nofelau hi i'w cyhoeddi yn gynnar yn y flwyddyn Newydd-Beryl, Breuddwydion Myfanwy, Bugail y Bryn, Ffynonloyw, Plant y goedwig, a'r Lleian Lwyd ond rwy'n methu yn fy myw cael gafael o gopi o'i nofel enwocaf Teulu Bach Nantoer a gyhoeddwyd cyn 1953
  • John Glyn Davies (Oes gan unrhyw un copïau cynnar o'i lyfrau caneuon Cerddi Huw Puw 1923, Cerddi Robin Goch 1935 a Cherddi Portinllaen 1936)?

Ac ymysg yr awduron Eingl-gymreig Dylan Thomas ac Idris Davies.

Os oes gynnoch chi lyfrau ar eich silff gan rai o'r awduron hyn (neu eraill a bu farw cyn Rhagfyr 31 1953) a modd i'w gopïo fel ffeiliau PDF efo printer 3 yn 1 neu app ffôn uwch lwythwch nhw ar Gomin er mwyn eu rhannu a'r byd. AlwynapHuw (sgwrs) 15:04, 6 Rhagfyr 2023 (UTC)

Bot(iau) sy'n ailadrodd cynnwys

Sylwais i ar y golygiad diweddar hwn, lle dilëwyd tair brawddeg o erthygl am ffilm. Er nad ydw i'n cytuno bod y disgrifiad yn y crynodeb - sef "sbam" - yn un teg, doedd y cynnwys a ddilëwyd ddim yn berthnasol iawn at wrthrych yr erthygl, ac felly, roedd y penderfyniad i'w dynnu yn gywir yn fy marn i.

Yn fwy penodol, roedd y brawddegau'n sonio am ffilm fwyaf poblogaidd yr un flwyddyn, a'r nifer o ffilmiau eraill sy wedi cael eu cynhyrchu yn yr un iaith, yn hytrach na dweud unrhyw beth sy'n uniongyrchol berthnasol at y ffilm unigol dan sylw.

Hefyd, daeth i'r amlwg fod y paragraff hwnnw'n rhan o fersiwn gwreiddiol yr erthygl, a grëwyd yn rhan o gyfres fawr o erthyglau gan "Bot Siân EJ". I roi dwy enghraifft arall, gwelwch baragraff olaf Willy's Wonderland, neu baragraff tebyg yn yr erthygl RRR (ffilm). Ond mae'n amlwg bod llawer mwy - gwelwch ganlyniadau chwiliad Google.

Cyn i mi ddweud mwy, hoffwn i gydnabod yn ddiolchgar y gwaith a wnaed yn gyffredinol gan y bot a'i grëwr(aig) - mae'n amlwg bod creu rhyw erthygl fach am bob ffilm yn rhoi pwynt cychwyn da i olygyddon dynol ehangu arno. Ond am y pwynt penodol yma, dwi ddim yn meddwl bod cynnwys yr un testun mewn llwyth o erthyglau, er mwyn padio eu hyd, yn ddefnyddiol. Gwell cadw'r erthyglau am ffilmiau unigol yn fyr ac yn berthnasol (neu'n hir os oes mwy i'w ddweud amdanynt), a wedyn, os y dymunir, creu un neu ddwy erthygl arall fwy cyffredinol, sy'n rhestru pa ffilm oedd yn fwyaf poblogaidd fesul blwyddyn, a faint o ffilmiau sy wedi'u cynhyrchu fesul iaith.

Dwi ddim yn gwybod a oes modd creu bot arall i dynnu'r paragraff hwnnw gan y bot gwreiddiol o'r erthyglau lle dyw o ddim wedi cael eu addasu wedyn gan olygydd dynol, neu a fyddai'n rhy gymhleth i'w raglenni'n ddibyniadwy, ond dyma fyddai'r ddelfryd yn fy marn i.

Os penderfynir bod gwell ei gadw fel y mae yn achos yr erthyglau am ffilmiau, o leiaf, dylen ni fod yn ofalus i osgoi'r temtasiwn i gopïo'r un testun i mewn i lwyth o erthyglau yn y dyfodol am bynciau eraill. Dwi wedi gweld rhywbeth tebyg o'r blaen am erthyglau am gopaon, lle mae pob un yn cynnwys bron yr un testun sy'n trafod sut mae copaon yn cael eu categoreiddio - gwelwch yma - ac os ydych chi'n pori trwy erthyglau am nifer o gopaon, mae'n hawdd dechrau blino ar ei ailddarllen bob tro.

Croeso mawr i chi anghytuno'n chwyrn, wrth gwrs. Dim ond mynegi barn dwi yn y pen draw. Dwi'n gobeithio nad yw'n peri tramgwydd i bwy bynnag greodd y botiau hyn; nid dyma'r bwriad, dim ond ystyried gwelliannau posibl. Diolch. Dani di Neudo (sgwrs) 06:51, 26 Rhagfyr 2023 (UTC)

    Diddorol. Ia, stwffin ym mhen ol y twrci tenau yw'r darn yma, i chwyddo erthyglau tila, byr. Ond mae hefyd yn rhoi cyd-destun i'r ffilm, gan nodi ffilm fwyaf poblogaidd y flwyddyn dan sylw ayb. Cytunwyd hefyd ar fformat yr erthyglau, oc o'r defnydd o'r darn yma, yn y Caffi gan y gymuned. Ond, mater bach fyddai ei dynu oddi yno, os yw pawb yn cytuno i wneud hynny. Cyfaddawd fyddai ei dynnu o'r erthyglau hiraf (dyweder 90% o'r 145,000 o erthyglau) a'i adael ar y 10% sydd heb fawr o gig ar yr asgwrn. Rhowch wybod eich barn, a mi gytunaf gyda'r mwyafrif, wrth gwrs. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:25, 26 Rhagfyr 2023 (UTC)
      Fy marn i, fel dwi wedi ei nodi'n barod, ydy nad yw'r wybodaeth hon (am ffilm fwyaf poblogaidd y flwyddyn honno) o unrhyw werth i'r darllenydd ac, er ei fod yn ffordd glyfar o ailbobi data o Wikidata, mae'n tynnu mwy o sylw at ddiffyg gwybodaeth am y ffilm dan sylw. Dwi'n meddwl ei fod yn dweud lot mai dyma'r trydydd tro (i mi sylwi o leiaf) i olygwyr eraill gamgymryd hyn am sbam.
      Ar y pwynt cysylltiedig am gopïo'r un testun i sawl erthygl, yn yr achos hwn am gopaon (run fath efo SSSIs), y rhesymeg dros wneud hyn yw padio'r peth allan, dwi'n cymryd er mwyn dyrchafu statws y Wicipedia Cymraeg o ran maint/hyd yr erthyglau. Ond dwi'n meddwl bod sawl peryg i hyd, sef y gall Google a pheiriannau chwilio eraill weld mai lot o'r un wybodaeth wedi'i ailadrodd sydd yma, a bod hynny'n cael effaith negyddol ar safle'r wefan mewn canlyniadau chwilio yn y pen draw, ond yn waeth fyth, ac fel awgrymodd ̊@Dani di Neudo, fe all flino'r darllenydd. Rhyswynne (sgwrs) 10:27, 4 Ionawr 2024 (UTC)
        Pwyntiau da, Rhys. Nenwedig am sbam - a gan y bydd AI yn tynnu gwybodaeth o Wici'n fwy nag unrhyw fan arall (o ran testunau ffeithiol) yna ia gellir hepgor rhanau ailadroddus. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:07, 4 Ionawr 2024 (UTC)

Annie Jane Hughes Griffiths neu Annie Jane Ellis

Gyfeillion - help, eisiau eich barn. Mewn picl bach. Wedi sgwennu postiad ar Annie Jane Hughes Griffiths ond sylwi bod yna Wikidata wedi ei chreu gan ddolenni i erthygl Meg Elis ar y Bywgraffiadur, ond enw'r tadogiad yw Annie Jane Ellis (er mai Hughes Griffiths, heb y cysylltnod yw'r enw ar y Bywgraffiadur).Er bod yna amrywiaeth i'w chyfenw ar hyd y we, fwy na neb, gyda neu heb y gysylltnod, does fawr neb yn defnyddio Annie Jane Ellis (Tom Ellis oedd ei gŵr gyntaf). So, oes modd newid y Wikidata i Annie Jane Hughes Griffiths heb chwalu'r dolenni? Stefanik (sgwrs) 12:16, 22 Ionawr 2024 (UTC)

    Bore da! Rhai sylwadau a all fod o help:
    1. Gelli ddefnyddio sawl enw at frig yr eitem ar Wicidata: mae'r golofn ar y dde yn nodi 'Alias' / 'Enwau eraill'. Ar Wicipedia, wedi i ti ddewis yr prif enw (enw'r erthygl), gelli greu tudalen ailgyfeirio (redirect) ee creu tudalen Annie Jane Ellis ac ynddo rhoi'r cod #AILCYFEIRIO [[Annie Jane Hughes Griffiths]] . Fel hyn, os yw'r darllenwr yn chwilio am Annie Jane Ellis, mae'r ailgyfeirio yn mynd yn syth i'r dudalen gywir.
    2. Ar waelod eithaf tudalen Wicidata ar Annie Jane Hughes Griffiths, fe weli adran 'Wicipedia'; dyma lle ti'n gwneud dolen i'r erthygl. Gan nad oedd dim yma, doedd y wybodlen ddim yn ymddangos ar WP. Felly, 'Golygu', ychwanegu'r iaith 'cy' ac enw'r erthygl Gymraeg, cyhoeddi / safio a dyna ni - mae'r ddolen yn ei lle.
    3. Paid a bod ofn newid Wicidata: gall popeth gael ei newid yn ol, os y gwnei rhywbeth o'i le - does dim y fath beth a changymeriad!
    Erthygl ddiddorol! Wyddwn i ddim fod Meg Elis yn perthyn i Llyr Hughes Gruffudd, drwy briodas! Cofion cynnes... Llywelyn2000 (sgwrs) 05:29, 23 Ionawr 2024 (UTC)
      Iawn, diolch yn fawr. Credu 'mod i wedi cael trefn ar yr arall gyfeirio. Fy unig bryder nawr, yw os ydy rhywun yn credu postiad mewn iaith arall a fydd dryswch (ddim yn help fod gan Annie - a phob un o'r tair a aeth i'r UDA gyda'r ddeiseb, wahanol sillafiadau ac chyfenwau yn dibynnu ar y ffynnonhellau!!).Stefanik (sgwrs) 10:37, 23 Ionawr 2024 (UTC)

12 Chwefror: Cyfarfod a Golygathon Wicipedia

Pnawn da bawb! Mae gan Jason ddau gyfarfod yn ymwneud a Wicipedia yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 12 Chwefror. Dyma'r trydariad, neu ewch i weld y manylion yn fama! Cyfarfod i drafod pethau Wici yn y bore a Wicidata a golygathon yn y pnawn. Ac yn bwysicach fyth - cinio am ddim, os ydych yn cofrestru asap! Welai chi yno! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:28, 23 Ionawr 2024 (UTC)

Categori:Enwau llefydd yng Nghymru dan fygythiad

Newydd dechrau categori, "Categori:Enwau llefydd yng Nghymru dan fygythiad" os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu a chadw cofnod o'r enwau hyn sydd dan fygythiad o gael eu colli. Titus Gold (sgwrs) 23:25, 25 Ionawr 2024 (UTC)

Erthyglau BOT

@Llywelyn2000, MathWilliams9, Lesbardd, Craigysgafn, Oergell, Cymrodor, Deb:@AlwynapHuw, Adda'r Yw, Stefanik, Dafyddt, Pwyll, Sian EJ, Jac-y-do:@Duncan Brown, Deri Tomos, Dafyddt, Heulfryn, Bobol Bach:...(a pawb arall!)

Helo pawb. Fel rhan o brosiect efo Lywodraeth Cymru mae'r Llyfrgell Genedlaethol wedi bod yn gweithio gwella cynnwys Cymraeg ar Wikidata a Wicipedia eto eleni. Fel rhan o'r gwaith hoffwn gyhoeddi, efo cefnogaeth y gymuned batsh o tua 525 erthygl newydd am fenywod enwog. Mae'r erthyglau yma wedi cael i greu efo data o Wicidata a thrwy grynhoi a chyfieithu erthyglau Saesneg efo A.I. Mae'r holl destun wedi cael i wirio ar law gan ddau berson am gywirdeb a safon y gyfieithu. Mae rhan fwyaf o'r erthyglau yn dilyn y fformat isod;

  1. Alice Brady
  2. Gisela May
  3. Alexandra Feodorovna
  4. Isabel I, brenhines Castilla

Wedyn mae tua 150 yn dilyn y fformat isod. Yr unig wahaniaeth yw, pennod am gasgliadau yn y Llyfrgell Gen, yn lle rhestr o wobrau.

  1. Simone Signoret
  2. Edith Nesbit
  3. Barbara Cartland
  4. Ida Nettleship

Felly hoffwn ofyn am unrhyw sylwadau - unrhyw beth dyla'i newid ar ran iaith neu fformat, neu unrhyw wrthwynebiad i gyhoeddi gweddill yr erthyglau.

Diolch!

Jason (Jason.nlw (sgwrs) 10:03, 5 Chwefror 2024 (UTC))

    Mae hynny'n llawer! Ni fydd digon ohonom i'w gwirio. Deb (sgwrs) 10:08, 5 Chwefror 2024 (UTC)
      Cytuno - ydy mae 500 yn fantastig! Dw i wedi sganio'r wyth erthygl. Un cangym bach yn unig! Dim llawer o waith, Deb! Dw i'n siwr y bydd angen cyfieithu ychydig o'r hyn sy'n llifo o Wicidata i fewn i'r Wybodlen, ond dw i wrth fy modd yn gwneud hynny! Ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:48, 5 Chwefror 2024 (UTC)
        Diolch @Deb. Gobeithio bod pob dim yn iawn efo ti! Dw'i wedi gwirio pob un unwaith, a wedyn Mae Llywelyn2000 wedi prawf darllen hefyd, felly mae rhywfaint o gwirio wedi digwydd yn barod. Dw'i hefyd wedi neud lot o gwaith paratoi i sicrhau bod data yn y gwybodlen yn ymddangos yn Gymraig. Dwi'n siwr bydd rhai problemau bach o hyd ond dwi'n obeithiol bydd dim ormod i neud! Jason.nlw (sgwrs) 12:21, 5 Chwefror 2024 (UTC)
    Peth mor fach, mae bron yn ddibwys. Cyn rhifau blwyddyn o 1000 i 1999 gellid rhoi ym neu yn o flaen y rhif. Ee 1936= ym (mil naw tri chewch) neu yn (un naw tri chewch) Mae'r naill ffordd ar llall yn hollol gywir, ond mae cymysgu'r ddau mewn un erthygl yn edrych yn chwithig ee "roedd ei ffilm olaf yn 1939. Ym 1937 enillodd Wobr yr Academi" — erthygl Alice Brady. I ddweud y gwir byddai ddim yn ddrwg o beth i Wicipedia dewis y naill neu'r llall fel House Style, er mwyn cael cysondeb ar draws y safle.AlwynapHuw (sgwrs) 16:23, 5 Chwefror 2024 (UTC)
      Diolch i ti @AlwynapHuw. Mi wna'i sicrhau bod defnydd cyson o un nei'r llall cyn cyhoeddu. Jason.nlw (sgwrs) 15:35, 6 Chwefror 2024 (UTC)
        Er mod i wedi arfer ddweud neu ysgrifennu 'ym' o flaen dyddiadau lle mae'n addas, mae'n well gen i ddefnyddio 'yn' ar Wicipedia ac mae'n gas gen i pan mae rhywun yn cywiro erthygl lle rwy wedi defnyddio hyn yn fwriadol. Yr un peth gyda rhifolion ar ddyddiadau - mae'n well cadw pethau'n syml o ran fformat ac arddull. Dafyddt (sgwrs) 16:05, 9 Chwefror 2024 (UTC)
          Fel mater o ddiddordeb, bu i ni wynebu'r broblem yma efo Cof y Cwmwd, gan ddewis safoni trwy ddefnyddio "ym". Wrth gwrs, tua 1% o nifer yr erthyglau sydd gan Wicipedia sydd gan y Cof, ac felly mater hawdd yw delio efo problemau cysoni, ond dan ni'n cywiro "yn" fel mater o gysoni ers y dechrau, a hynny wrth wneud ymweliadau patrôl. Cofier hyn os bydd rhywun yn copïo erthyglau'r Cof i Wicipedia - fel sydd gan rywun hawl i'w wneud wedi i'r Loteri newid eu polisi a chaniatáu i ni beidio â chyfyngu hawliau defnydd deunydd a ariennir ganddynt. Heulfryn (sgwrs) 21:10, 15 Chwefror 2024 (UTC)
            Diddorol, Gareth. Cawsom sgwrs am y ddwy ffordd o ynganu (ac felly sillafu) dyddiadau fel hyn dro'n ol yma yn y Caffi. Holltwyd y ddadl yn ddwy, a derbyniwyd fod y dull mathemategol / modern o ddweud pedwar digid y flwyddyn hefyd yn dderbyniol. Ond fel y dywed Alwyn. dylid cadw at un dull yn unig o fewn erthygl er mwyn cysondeb. Mae erthyglau Cof y Cwmwd yn gyfoethog, yn llawn gwybodaeth manwyl yn aml, a byddai'n braf mynd ati i'w copio i Wicipedia, fel bod copi ar gael. Diolch am dy holl waith! ON Mae'r papurau bro wedi arafu - angen proc efallai! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:46, 18 Chwefror 2024 (UTC)
    Pob lwc efo'r gwaith! Pwynt ieithyddol bach: mae gwir angen osgoi y cyfieithiad llythrennol "Actores Americanaidd," "Tywysoges Almaenig" etc. "actores o America" "tywysoges o'r Almaen" etc dylid eu defnyddio fel dan ni wedi drafod yma o'r blaen. Gan bod hyn yn dueddol o ddigwydd ym mrawddegau cyntaf erthyglau mae'n bwysig o ran sut mae'r erthygl yn swnio!Cytuno efo'r pwynt uchod o ran "yn + blwyddyn" o ran cysondeb. Llygad Ebrill (sgwrs) 14:07, 2 Mawrth 2024 (UTC)

Jason.nlw - lle ydan ni efo'r erthyglau newydd ar fenywod? Jyst rhag ofn mod i wedi methu rhywbeth! Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:22, 20 Chwefror 2024 (UTC)

Wici Llên Gwerin

y Caffi 

Pnawn da! Os oes gennych chi hen luniau o'r Eisteddfodau, neu Wyl Fawr Dolgellau, neu'r Cnapan ayb, yn enwedig lluniau o wisgoedd, dawnsio, hen draddodiadau neu hyd yn oed fideos neu sain, beth am eu huwchlwytho fel rhan o Wici Llên Gwerin? Byddai fideo o ofaint Sain Ffagan yn pedoli, neu'r pobydd yn y becws yn esbonio be-di-be, neu gor cerdd dant... yn fantastig! Mae'r gystadleuaeth yn para deufis - hyd at ddiwedd Mawrth, felly mae gennych fwy na digon o amser i fynd ati! Ond mae na sawl project ar y gweill - pwysicach, efallai (gw uchod). Llywelyn2000 (sgwrs) 12:33, 6 Chwefror 2024 (UTC)

Dolenni erthyglau pan fo dau god

Helo bawb, wrthi'n mynd drwy sîn bop Cymraeg yr 1960au. Gweld bod cofnod wedi ei sgwennu i Recordiau Qualiton gyda cod wikidata ond bod heb dolenni gyda'r erthyglau ar yr un cwmni sydd yn Saesneg (a Fietnamieg!) dan Qualiton Records. Mae'r system yn gwrthod i mi ddolenni gan bod cod eisoes wedi eu chreu i'r un Gymraeg. Stefanik (sgwrs) 12:00, 10 Ebrill 2024 (UTC)

    Haia Sion! Mae'r Saesneg wedi'i ychwanegu'n barod ar eitem Q97731322. OND mae gwahaniaeth rhwng y ddwy eitem / y ddwy erthygl! Eitem ac erthygl ar y cwmni recordiau o Gymru yw'r naill, eitem ac erthygl ar yr enw Qualiton a ddefnyddir ar gwmniau ledled y byd yw'r llall. Felly, does dim erthygl Saesneg ar y cwmni o Gymru. Dw i ddim yn siwr am y Fiatnameg! Cofion cynnes... Robin Llywelyn2000 (sgwrs) 12:14, 10 Ebrill 2024 (UTC)

Tags:

y Caffi Wicipedia:Wicibrosiect Cymruy Caffi Les Barkery Caffi Wrong titley Caffi Gwedd newydd Wiciy Caffi Dileu lluniau Recordiau Sainy Caffi Cymuned Wicimedia Cymruy Caffi Global ban for PlanespotterA320RespectCEy Caffi A Problem with Nodyn:Pethau?y Caffi Ymateb i Lywodraeth Lloegr - Ieithoedd Lleiafrifoly Caffi Meddalwedd newyddy Caffi Canolbwyntio ar erthyglau yn ôl nifer ymweliadauy Caffi Botwm golyguy Caffi Cais eto am gymorth efo Wicidestuny Caffi Dim modd gwneud y pethau bychain am awr ar 1 Mawrth 2023y Caffi Hafan newyddy Caffi Comin Anfasnachol (NC)y Caffi Trafodaeth ar Wiki Saesnegy Caffi Gwedd 2022y Caffi Newid hinsawdd a hawliau dynol ar Metay Caffi Wicipedia:Wicibrosiect Cymruy Caffi Dehongliad - queer-sensitive interpretationy Caffi Wicidestuny Caffi Etholiad arweinydd Plaid Cymru 2023y Caffi en:Talk:Controversy of the Prince of Wales titley Caffi en:Talk:Water supply and sanitation in England and Walesy Caffi Wicir Holl Ddaear 2023y Caffi Filter hit: abuse 23y Caffi Wicir holl ddaeary Caffi Wici Henebion 2023y Caffi Awdures Ffrengig neu awdures o Ffrainc?y Caffi Papurau Newydd Cymru Ar-lein .... neu Arlein?y Caffi Cerddir Bugaily Caffi Cwestiwn am olygu, fel dysgwr Cymraeg.y Caffi Botiau a rhestrau gwylioy Caffi Awduron rhydd o hawlfraint 2024y Caffi Bot(iau) syn ailadrodd cynnwysy Caffi Annie Jane Hughes Griffiths neu Annie Jane Ellisy Caffi 12 Chwefror: Cyfarfod a Golygathon Wicipediay Caffi Categori:Enwau llefydd yng Nghymru dan fygythiady Caffi Erthyglau BOTy Caffi Wici Llên Gweriny Caffi Dolenni erthyglau pan fo dau gody Caffi

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Anna VlasovaÉvariste GaloisMET-ArtSheila CoppsHafan460auDer Gelbe DomOtero County, Mecsico NewyddBleiddiaid a ChathodHarriet LöwenhjelmY BandanaSeidr2024The PianoAt Home By Myself...With YouGwlad PwylThomas HardyOutlaw KingDewi 'Pws' MorrisKate ShepherdMari'r Fantell WenBen EltonTrivisaEtholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2016Eryr AdalbertMynediad am DdimGeorgiana Cavendish, Duges DyfnaintRichie ThomasCapreseEsgair y FforddMicrosoft WindowsGoogleSenedd y Deyrnas UnedigPensilRhif Llyfr Safonol RhyngwladolAllercombeArnold WeskerKaapse KleurlingFfawna CymruGorllewin Leeds (etholaeth seneddol)O! Deuwch FfyddloniaidJess DaviesTitw tomos lasUnol DaleithiauBeulahAmanda HoldenMorys Bruce, 4ydd Barwn AberdârCylchfa amserMacOSY Llafn-TeigrValenciennesShirazAndover, New JerseyGorden KayeMam Yng NghyfraithZazISO 4217Escenes D'una Orgia a FormenteraJohn F. KennedyCoed Glyn CynonDiana (ffilm 2014)Canghellor y TrysorlysAround The Corner🡆 More