Mynegai: Tiwtorial · Canllaw Pum Munud · Cwestiynau Cyffredinol / FAQs · Gofynwch Gwestiwn · Geirfa · Y Ddesg Gymorth · Chwilio'r holl Pynciau
Blwch cymorth: |
Cymorth:Cynnwys |
Gweler hefyd Wicipedia:Tiwtorial.
Gallwch olygu erthyglau Wicipedia mewn 3 ffordd:
Ymddengys y newidiadau gynted ag y byddwch yn dewis "Cadw" neu "Cyhoeddi".
Os ydych am arbrofi byddwch mor garedig â gwneud hynny yn y pwll tywod yn hytrach nag yn fan hyn. Mewn rhai porwyr mae modd agor y bocs tywod mewn tab neu ffenestr arall er mwyn gallu gweld y dudalen hon a’r arbrofion yn y pwll tywod ar unwaith. I wneud hynny cliciwch i’r dde ar y cyswllt i’r pwll tywod a dewiswch ‘Agor mewn ffenestr arall’.
Cliciwch ar y tab "Golygu" ar ben y ddalen ac fe agorir blwch testun ac ynddo iaith syml Wicipedia. Wedi i chi orffen golygu yn y blwch testun symudwch i waelod y dudalen olygu ble y gwelwch:
Mae gan bob erthygl (a thudalen arall) "Dudalen sgwrs" ar gyfer sylwadau gan ddefnyddwyr eraill Wicipedia. Gallwch olygu hon hefyd drwy ddewis y tab "Golygu" uwch ei phen. Os y byddwch yn ychwanegu at y dudalen sgwrs cofiwch lofnodi'r darn os gwelwch yn dda, trwy ychwanegu 4 tilda ~~~~.
Defnyddiwch safbwynt niwtral bob amser. Nid lle i hyrwyddo safbwynt bersonol yw Wicipedia. Ysgrifennwch fel petai’r wybodaeth yn rhan o erthygl newyddion, ddiduedd. Os ydych yn trafod pwnc dadleuol, gellir egluro'r gwahanol safbwyntiau sydd yn bod, dim ond i chi beidio â chynnwys barn bersonol neu ddyfarniad ar gywirdeb rhyw safbwynt arbennig.
Ceisiwch gofio mae gwyddoniadur neu enseiclopedia ydy Wicipedia. Ceir llinyn mesur er mwyn ystyried a ydy'r gwrthrych neu'r berson yn ddigon pwysig neu amlwg i'w gynnwys ai peidio, fel a geir mewn fersiynau gwahanol ieithoedd eraill, sef a ydy'r person neu gwmni (ayb) wedi ymddangos ar dudalen flaen papur newydd cenedlaethol, neu raglen (neu ran o raglen) arno neu arni. Ceir y manylion llawn yma.
Cyfeiriwch at eich ffynonellau fel bod eraill yn gallu gwirio neu ehangu eich gwaith. Mae nifer helaeth o erthyglau ar Wicipedia heb gyfeirnodau da arnynt ac mae hyn yn cyfrannu at y feirniadaeth lymaf ar Wicipedia sef nad yw'r ffynhonellau'n ddibynadwy. Gallwch hwyluso’r gwaith golygu i eraill sy’n golygu eich cyfraniadau chi drwy ymchwilio ar y we ac ar bapur i ddarganfod cyfeirnodau ar gyfer eich erthygl. Yna cynhwyswch y cyfeirnodau hynny ar waelod yr erthygl, gyda nodyn byr yn cyfeirio at y cyfeirnod llawn yn y testun ei hunan os yw’r ffeithiau a drafodir yn ddadleuol. Un ffordd safonol o osod cyfeirnod byr yng nghanol y testun wedi’r ffaith y mae’n cyfeirio ato yw mewn cromfachau fel hyn: (Awdur, blwyddyn cyhoeddi, tudalen rhif tudalen-rhif tudalen). Dylai cyfeirnod llawn gynnwys - Awdur "Teitl llyfr", Cyhoeddwr, blwyddyn cyhoeddi, cyfeirnod ISBN – ar gyfer llyfr ac – Awdur, ’Teitl yr erthygl’, dyddiad cyhoeddi, dyddiad y lawrlwythwyd os ar y we – ar gyfer erthygl o gylchgrawn. Er hyn, 'dyw'r rhan fwyaf o lyfrau ddim yn cyfeirio at ffynhonellau, mwy nag ydy'r rhan fwyaf o raglenni teledu.
Ar ôl cwblhau tudalen newydd, argymhellir i chwi:
Rhoddir enghreifftiau o gôd Wici ar y dudalen Canllaw Pum Munud. Isod ceir enghreifftiau o'r 6 cystrawen Wici amlaf eu defnydd.
Yng ngholofn chwith y tabl isod gwelir pa waith dylunio sydd yn bosib ei wneud ar Wicipedia. Yn y golofn dde disgrifir sut y crëir yr effeithiau hyn, h.y. beth sydd angen ei deipio i greu'r ffurf ar y testun a ddangosir ar y chwith.
Os ydych am gadw'r dudalen hon wrth law gallwch gadw'r dudalen ar agor mewn ffenestr arall.
I ymddangos fel hyn | teipiwch hyn |
---|---|
Gallwch italeiddio'r testun drwy osod 2 gollnod ar bob ochr iddo.
Bydd 5 collnod naill ochr yn creu testun trwm wedi italeiddio.
| Gallwch ''italeiddio'r testun'' drwy osod 2 gollnod ar bob ochr iddo. Bydd 3 collnod naill ochr yn creu '''testun''' teip trwm. Bydd 5 collnod naill ochr yn creu '''''testun''''' trwm wedi italeiddio. (Nid yw 4 collnod yn creu dim amgen na thestun trwm ag ''''un collnod dros ben''''.) |
Dylech "lofnodi'ch" sylwadau ar dudalennau sgwrs gyda: | Dylech "lofnodi'ch" sylwadau ar dudalennau sgwrs gyda: |
Penawdau adrannau Gallwch ddefnyddio penawdau i drefnu erthygl yn adrannau. Mae meddalwedd wici yn gallu cynhyrchu taflen gynnwys awtomatig o'r penawdau. Isadran Defnyddiwch rhagor o'r symbol hafal i greu isadrannau.
Isadran llai Peidiwch â hepgor lefel, e.e. trwy roi 4 symbol hafal ar ôl 2 ohonynt. Dechreuwch â 2 symbol hafal yn hytrach nag 1 oherwydd bod un yn creu tagiau H1 ar gyfer teitlau erthyglau. | == Penawdau adrannau == Gallwch ddefnyddio ''penawdau'' i drefnu erthygl yn adrannau. Mae meddalwedd wici yn gallu cynhyrchu taflen gynnwys awtomatig o'r penawdau. === Isadran === Defnyddiwch rhagor o'r symbol hafal i greu isadrannau. ==== Isadran llai ==== Peidiwch â hepgor lefel, e.e. trwy roi 4 symbol hafal ar ôl 2 ohonynt. Dechreuwch â 2 symbol hafal yn hytrach nag 1 oherwydd bod un yn creu tagiau H1 ar gyfer teitlau erthyglau. |
yn nodi diwedd y rhestr.
| * I greu ''rhestr heb ei threfnu'': ** Dechreuwch pob llinell â seren. *** Mae rhagor o sêr yn creu is-lefelau. *: Mae'r eitem gynt yn parhau. ** Mae llinell newydd * yn y rhestr yn nodi diwedd y rhestr. * Gallwch ddechrau rhestr arall o'r newydd. |
Noda linell newydd ddiwedd y rhestr.
| # Mae ''rhestri wedi'i rhifo'' yn: ## drefnus iawn ## hawdd i'w dilyn. Noda linell newydd ddiwedd y rhestr. # Dechreua rhestr newydd â'r rhif 1. |
Dyma gyswllt i'r dudalen Alotrop. Gallwch ysgrifennu alotropau ac fe ymddengys y cyswllt yn gywir. | Dyma gyswllt i'r dudalen [[Alotrop]]. Gallwch ysgrifennu [[alotrop]]au ac fe ymddengys y cyswllt yn gywir. |
Nid yw'r dudalen Tywydd Moscow yn bod eto. Gallwch ei greu drwy bwyso ar y cyswllt. | Nid yw'r dudalen [[Tywydd Moscow]] yn bod eto. Gallwch ei greu drwy bwyso ar y cyswllt. |
Gallwch gysylltu ag adran o fewn erthygl: Os oes nifer o adrannau â'r un un teitl ganddynt ychwanegwch rif. Aiff y cyswllt #Example section 3 i'r trydydd adran o'r enw "Example section". | Gallwch gysylltu ag adran o fewn erthygl: *[[Cymraeg#Statws swyddogol]]. Os oes nifer o adrannau â'r un un teitl ganddynt ychwanegwch rif. Aiff y cyswllt [[#Example section 3]] i'r trydydd adran o'r enw "Example section". |
Yn ôl cystrawen wici ar hyn o bryd fe ymddengys y daflen gynnwys pan bod pedwar neu ragor o benawdau mewn erthygl. Fe ymddengys o flaen y pennawd cyntaf. Er mwyn dileu'r daflen rhowch __DIMTAFLENCYNNWYS__ rhywle yn yr erthygl. Gweler Wicipedia:Taflen cynnwys ar sut i greu taflenni cryno yn seiliedig ar yr wyddor neu'r flwyddyn.
Cod | Effaith |
---|---|
{{MISCYFOES}} | 04 |
{{ENWMISCYFOES}} | Ebrill |
{{GENENWMISCYFOES}} | Ebrill |
{{DYDDIADCYFOES}} | 25 |
{{ENWDYDDCYFOES}} | Dydd Iau |
{{FLWYDDYNCYFOES}} | 2024 |
{{AMSERCYFOES}} | 00:59 |
{{NIFEROERTHYGLAU}} | 280,411 |
NIFEROERTHYGLAU: nifer yr erthyglau sydd â chyswllt ynddynt ac nad ydynt yn dudalennau ailgyfeirio, h.y. nifer yr erthyglau, egin erthyglau â chyswllt ynddynt a thudalennau gwahaniaethau.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Wicipedia:Sut i olygu tudalen, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.