pwy Sy'n Ysgrifennu Wicipedia

Nid oes angen unrhyw hyfforddiant ffurfiol ar wirfoddolwyr cyn bwrw ati i greu erthygl newydd neu olygu erthygl sy'n bodoli eisoes.

Cymorth:CynnwysCymorth:Cynnwys
Cymorth:Cynnwys
Cymorth:Cynnwys

Pwy sy'n ysgrifennu Wicipedia

Daw'r bobl sy'n creu a golygu erthyglau o wledydd ledled y byd ac mae ganddynt ystod eang o gefndiroedd ac oedrannau. Gelwir unrhyw un sy'n cyfrannu i'r gwyddoniadur hwn yn "Wicipedwr".

Yn ôl polisi Wicipedia ynglyn a g ychwanegu at y gwyddoniadur, dim ond datganiadau y gellir eu gwirio y dylid cynnwys, ac ni ddylid ychwanegu ymchwil gwreiddiol. Anoga canllaw arddull Wicipedia olygwyr i nodi ffynonellau. Weithiau nid yw Wicipedwyr yn dilyn y canllawiau hyn am eu bod yn eu hanghofio neu am nad ydynt yn ymwybodol o'r polisi, ac tan fod ffynonellau'n cael eu cynnwys, ni all darllenwyr yr erthygl wirio'r cynnwys maent yn ei ddarllen. Pe digwydd hyn, byddai tag "angen ffynhonnell" yn ymddangos ger y testun sydd heb ei wirio.

Pan fo nifer o bobl yn cydweithio er mwyn casglu gwybodaeth ar yr un pwnc, bydd anghydfodau'n amlygu eu hunain. Nodwedd ddefnyddiol ar Wicipedia yw'r gallu i dagio erthygl neu adran o erthygl drwy ddweud fod yna anghydfod ynglŷn â safbwynt ddiduedd. Mae'r nodwedd hon yn hynod ddefnyddiol ar gyfer pynciau dadleuol, pynciau a allai newid yn sgil materion cyfoes neu bynciau eraill lle ceir ystod o safbwyntiau gwahanol. Er mwyn datrys yr anghydfod, bydd y golygwyr perthnasol yn rhannu eu safbwyntiau ar dudalen sgwrs yr erthygl. Byddant yn ceisio dod i gonsensws er mwyn sicrhau fod pob safbwynt dilys yn cael eu cynrychioli. Golyga hyn fod Wicipedia nid yn unig yn ganolfan gwybodaeth ond hefyd yn ganolfan gydweithio.

Mae nifer o ddefnyddwyr Wicipedia'n edrych ar hanes tudalen erthygl er mwyn asesu'r nifer, a safbwyntiau bobl sydd wedi cyfrannu at yr erthygl. Gallwch edrych hefyd ar dudalen sgwrs unrhyw erthygl er mwyn gweld beth mae darllenwyr a golygwyr eraill wedi dweud amdano.

Gwelir rhai erthyglau sydd wedi eu golygu gan nifer o bobl yn y rhestr o erthyglau dethol. Rhoddwyd statws erthyglau "dethol" i'r rhain am y cânt eu hystyried yn erthyglau o safon uchel. (Os yw golygiadau dilynol yn dirywio safon erthygl ddethol, gall defnyddiwr enwebu'r erthygl er mwyn ei symud o'r rhestr.)

Y ffordd orau o benderfynu a yw datganiad penodol yn gywir yw i ddod o hyd i ffynonellau dibynadwy annibynnol er mwyn cadarnhau'r datganiad, megis llyfrau, erthyglau o gylchgronau, straeon newyddion o'r teledu neu wefannau. Am fwy o ganllawiau ynglŷn â gwerthuso cywirdeb erthyglau Wicipedia, gweler Wicipedia:Ymchwilio gyda Wicipedia.

Sut i wella erthyglau

Os ddewch chi o hyd i erthygl sy'n anghyflawn neu'n anghywir, gallwch chi olygu'r erthygl er mwyn gwneud Wicipedia'n fwy cywir a defnyddiol. Efallai fod rhywun wedi gosod nodyn ar frig y dudalen yn dynodi fod angen ei lanhau. Hefyd, mae'n bosib creu creu erthygl newydd er mwyn rhannu gwybodaeth sydd ddim yn Wicipedia.

Y ffordd orau i benderfynu a yw datganiad yn gywir neu beidio yw i ddod o hyd i ffynonellau dibynadwy annibynnol er mwyn cadarnhau'r datganiad. Gallai'r ffynhonnell fod yn lyfr, erthygl o gylchgrawn, stori newyddion ar y teledu neu wefannau. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwerthuso cywirdeb erthyglau Wicipedia, gweler Wicipedia:Ymchwilio gyda Wicipedia. Un o bolisïau Wicipedia yw y dylid ychwanegu datganiadau Gwiriadwy ac i beidio ag ychwanegu ymchwil gwreiddiol. Mae arddull Wicipedia yn annog defnyddio i nodi ffynonellau. Mae cyfeiriadau a ffynonellau manwl yn galluogi darllenwyr erthygl i wirio'r cynnwys sydd dan sylw.

Tags:

Wicipedia:Wicipedwyr

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

StumogMamma MiaTabl cyfnodolTaekwondoCambodiaEwropSchool For SeductionVolkswagen TransporterAwenGalawegIago II, brenin yr AlbanDave SnowdenSybil AndrewsEagle EyePont y BorthYsgol Syr Hugh OwenNovial365 DyddTynal TywyllMartin o ToursNoson Lawen (ffilm)1185Dawid JungY Tŷ GwynRhestr o luniau gan John ThomasNot the Cosbys XXXHello! Hum Lallan Bol Rahe HainCellbilenYmdeithgan yr UrddThree Jumps AheadPidynRajkanyaTor (rhwydwaith)Hedd WynJordan (Katie Price)Pafiliwn PontrhydfendigaidHen GymraegSisters of AnarchyEisteddfod Genedlaethol Cymru Llŷn ac Eifionydd 2023KlaipėdaFfilm yn NigeriaGlaw37Sian Adey-JonesAmerikai AnzixHarmonicaHope, PowysCaerfyrddinBrasil14eg ganrifLeah OwenHome AloneTechnolegCysawd yr HaulAsiaThe Perfect TeacherArctic PassageBeti GeorgeErnst August, brenin HannoverGwyddbwyllFfilmRhif Llyfr Safonol RhyngwladolTywysog CymruGlasgwm, PowysHollt GwenerPerlysieuyn🡆 More