geirfa

Mae'r dudalen yma yn eirfa o dermau a ddefnyddir ar Wicipedia.

Llwybr(au) brys:
WP:G

Am fwy o gymorth, gweler Wicipedia:Cymorth a Wicipedia:Cwestiynau poblogaidd.

Gweler hefyd:

  • Geirfa Saesneg-Cymraeg o dermau cyfrifiadurol.

DS: Er hwyluso croes-gyfeirio, rhoddir y term Saesneg cyfatebol mewn cromfachau ac yn fach ar ôl y term Cymraeg.


A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I J L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y

A

    (Check user)
    Mae'r archwilwyr defnyddwyr yn ddefnyddwyr sydd â'r gallu i weld cyfeiriadau IP defnyddwyr mewngofnodedig, yn bennaf er mwyn gwarchod prosiectau Wiki rhag fandaliaeth. Mae gan Stiwardiaid y gallu hwn ac fe'i roddir i rai defnyddwyr ar brosiectau unigol.
    Gweler hefyd: meta:Checkuser

B

    (Babel)
    Mae'r system Babel ar brosiectau Wiki yn hwyluso cyfathrebu rhwng defnyddwyr trwy gofnodi galluoedd ieithyddol y defnyddwyr hynny sydd am gyhoeddi'r wybodaeth hon.
    Gweler hefyd: en:Wikipedia:Babel.

C

    (Village Pump)
    Prif fforwm cymuned Wicipedia, lle cyhoeddir a thrafodir cynigion, newidiadau polisïau, problemau technegol a materion mewnol eraill o flaen cynulleidfa fwy na cheir ar dudalen sgwrs tudalen benodol.
    Gweler hefyd: Wicipedia:Y Caffi.
    (Substitution)
    Wrth gyfnewid unwaith-ac-am-byth, mae'r meddalwedd, wrth roi tudalen ar gadw, yn cyfnewid cystrawen wici am ddarn o destun, a hynny unwaith ac am byth. O osod "subst:" cyn enw nodyn, bydd y wici yn copïo cynnwys y nodyn i'r dudalen wrth ei chadw, a hynny unwaith ac am byth. Ni fydd y nodyn yn cael ei gopïo o'r newydd trwy'r broses trawsgynnwys bob tro y bydd rhywun yn cyrchu'r dudalen.
    Gweler en:Help:Substitution a m:Help:Substitution am eglurhad pellach.
    (Global account)
    Math o gyfrif sy'n galluogi defnyddiwr i fewngofnodi i bob wici led-led Sefydliad Wiki ar unwaith.
    Gweler hefyd m:Help:Unified login
    (Merge)
    Cyfuno dwy dudalen i'w gwneud yn un tudalen.
    Gweler hefyd Wikipedia:Help:Merging and moving pages

D

    (Developer)
    Mae datblygwr yn gallu newid meddalwedd Mediawiki (gan gynnwys Wicipedia) a'r bas data yn uniongyrchol. Yr oedd y Gweinyddwyr System ar Sefydliad Wiki yn arfer cael eu galw yn Ddatblygwyr hefyd.
    Gweler hefyd Developers.
    (Internal link)
    Dolen sy'n arwain at dudalen arall yn y wici hwn neu un o'n chwaer-brosiectau, sy'n defnyddio'r gystrawen wici "[[Teitl y dudalen|testun yn ôl y gofyn]]". Fel arfer, mae wiciddolen i erthygl sy'n bodoli'n barod yn las, neu'n goch os nad yw'r dudalen ar gael eto, neu'n borffor os ydy'r dudalen ar gael a'ch bod wedi ymweld â hi eisoes. Termau eraill arno: dolen wici, cyswllt mewnol.
    (Broken link)
    Dolen fewnol i dudalen nad yw'n bod. Mae dolen doredig (neu gyswllt toredig') fel arfer yn goch.

E

    (Stub)
    Erthygl sydd gan amlaf yn un baragraff byr neu'n llai, ac felly'n erthygl sydd angen ei hehangu.
    Gweler hefyd: Wicipedia:Eginyn.
    (Article)
    Cofnod gwyddoniadurol. Mae pob erthygl yn dudalen, ond nid yw pob tudalen yn erthygl, e.e. nid erthygl yw'r dudalen hon.
    Gweler hefyd: Wicipedia:Beth ydy erthygl.
    Byrfodd fersiwn Saesneg Wicipedia. Felly gyda ieithoedd eraill hefyd, fel "de" = fersiwn Almaeneg Wicipedia ayyb. Defnyddir y rhain fel rhagddodiad mewn cysylltiadau rhyngwici. Ceir rhestr llawn o'r Wicipediau a'u byrfoddau ar meta.

G

    (Oversight)
    Gallu gweinyddol yw goruchwylio sy'n galluogi 'Goruchwylwyr' i ddileu diwygiadau o hanes tudalen. Defnyddir y gallu yma i ddileu gwybodaeth bersonol breifat, gwybodaeth a allai fod yn enllibus, ac mewn achosion o dor-hawlfraint. Mae gan stiwardiaid yr hawl hwn. Mae rhai prosiectau Wiki yn penodi Goruchwylwyr ar gyfer y prosiect hwnnw, ond nid oes gan Wicipedia Oruchwylwyr penodedig.
    Gweler hefyd: meta:Oversight.
    (Skin)
    Gosodiad yn "fy newisiadau" yw gwedd sy'n pennu ymddangosiad y wici. Ar hyn o bryd, mae wyth gwedd ar gael: MonoBook (y rhagosodyn), Chick, Hiraeth, Modern, Glas Cwlen, Simple, MySkin, a Safonol.
    (System Administrator)
    Mae Gweinyddwyr y System yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar weinyddion Sefydliad Wikimedia. Pan ddechreuodd Wiki y datblygwyr oedd yn gwneud y gwaith hwn.
    Gweler hefyd: m:System administrators
    (Infobox)
    Nodyn sydd yn dabl a fformatir gyda chystrawen wici, sydd i'w gweld mewn erthyglau gyda phwnc cyffredin, ac sy'n rhoi gwybodaeth sylfaenol am bwnc yr erthygl.
    Gweler hefyd: Cymorth:Gwybodlen a Wicipedia:Rhestr gwybodlenni.

H

    (History)
    Yr holl ddiwygiadau i dudalen yw ei hanes. Enwau eraill arni yw hanes y dudalen neu weithiau hynt y dudalen. Gallwch weld hanes tudalen trwy wasgu ar y tab 'Gweld yr hanes' neu 'hanes', e.e. hanes y dudalen Tannatt William Edgeworth David.

I

    (Subpage)
    Tudalen sy'n tarddu o riant-dudalen, megis Wicipedia:Y Caffi/archif. Gellir ddim ond creu is-dudalennau mewn rhai parthau. Peidiwch a ddefnyddio is-dudalennau yn y prif barth.
    Gweler hefyd: Wicipedia:Is-dudalennau.

N

    (Template)
    Gall cynnwys un dudalen gael ei osod o fewn tudalen arall trwy ei drawsgynnwys. Gelwir y tudalennau sydd wedi eu creu'n unswydd ar gyfer cael eu trawsgynnwys yn nodiadau (e.e. gwybodlenni, paneli llywio). Gosodir nodiadau ar y parth Nodyn.
    Gweler m:Help:Template am eglurhad pellach.
    Neutral Point of View (Saesneg) - polisi diduedd Wicipedia

P

    (Community Portal)
    Un o brif tudalennau Wicipedia. Gellir ei ddarganfod ar y panel llywio (ar yr ochr chwith yn y rhan fwyaf o grwyn), ac mae'n dudalen sy'n rhestru tasgau sydd angen eu gwneud, materion sydd angen eu datrys, ac adnoddau a gwybodaeth gyffredinol. Mae Porth y Gymuned yn ddefnyddiol ar gyfer dewis erthygl neu bwnc i weithio arno neu i ddarllen.
    Gweler hefyd: Wicipedia:Porth y Gymuned.

Rh

    (Watchlist)
    Grŵp o dudalennau a ddewisir gan y defnyddiwr, sy'n gallu clicio ar "fy rhestr wylio" i weld newidiadau diweddaraf y tudalennau hynny.
    Gweler hefyd: Cymorth:Gwylio tudalennau.

S

    (Steward)
    Mae Stiward yn Weinyddwr sydd â'r gallu i newid statws unrhyw ddefnyddiwr ar unrhywun o wicïau Sefydliad Wikimedia, gan gynnwys y gallu i roi a thynnu statws Gweinyddwyr a Biwrocratiaid.
    Gweler hefyd meta:Steward.

T

    (Transclude)
    Gosod cynnwys un dudalen o fewn tudalen arall ar y wici. Mae'r nodiadau ar y parth Nodyn wedi eu creu'n bwrpasol at gael eu trawsgynnwys ar dudalennau eraill.
    Gweler en:Wikipedia:Transclusion am eglurhad pellach.
    (Articles for Deletion)
    Tudalen i drafod cynigion i ddileu tudalen yn y wici.
    Gweler Wikipedia:Guide to deletion am eglurhad pellach.
    (Content page)
    Tudalen lle mae'r cynnwys yn rhan o brif pwrpas y wici. Ar Wicipedia mae'r erthyglau yn y prif barth a'r tudalennau yn y parth 'delwedd' yn dudalennau pwnc.
    (Talk page)
    Tudalen ar gyfer trafod y dudalen mae ynghlwm wrtho. Mae gan bob tudalen ar Wicipedia (ar wahân i dudalennau yn y parth Arbennig, a thudalennau sgwrs eu hunain) tudalen sgwrs.
    Gweler hefyd: Wicipedia:Tudalen sgwrs a Wicipedia:Canllawiau tudalennau sgwrs
    (Disambiguation page)
    Tudalen sydd yn cynnwys ystyron gwahanol gair, ac sy'n cysylltu i'r tudalennau lle diffinir yr ystyron gwahanol. Os oes angen rhagor o wahaniaethu rhwng termau, enwir tudalennau gwahaniaethu yn "bwnc (gwahaniaethu)".
    Gweler hefyd: Gwahaniaethu.

W

    (Wiktionary)
    Un o chwaer brosiectau Wicipedia sydd â'r amcan o greu geiriadur ar-lein o bob gair ym mhob iaith.
    Gweler hefyd: Wiciadur.
    (WikiProject)
    Prosiect ar Wicipedia sy'n cydlynu'r gwaith o wella'r holl erthyglau ar bwnc arbennig.
    Gweler hefyd: Wicipedia:WiciBrosiectau.
    (Wikispecies)
    Un o chwaer brosiectau Wicipedia sydd â'r amcan o greu cyfeiriadur ar-lein o'r holl rywogaethau (wedi'i anelu yn bennaf at ddefnyddwyr gwyddonol yn hytrach na defnyddwyr cyffredinol).
    Gweler hefyd: Wicifywyd.
    (Wikibooks)
    Un o chwaer brosiectau Wicipedia sydd â'r amcan o greu casgliad ar-lein o werslyfrau a llawlyfrau.
    Gweler hefyd: Wicilyfrau.
    (Wikisource)
    Un o chwaer brosiectau Wicipedia sydd â'r amcan o greu casgliad ar-lein o destunau a dogfennau sydd yn y parth cyhoeddus.
    Gweler hefyd: Wicitestun.
    Wicipedia

A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I J L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y

Tags:

GeirfaWicipediaWicipedia:Cwestiynau poblogaiddWicipedia:Cymorth

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

They Had to See ParisAnd One Was BeautifulCanadaDirty DeedsPêl-droedEnrico Caruso2004PARK7Blwyddyn naidAderyn ysglyfaethusCoelcerth y GwersyllBaner yr Unol DaleithiauY rhyngrwydY Cenhedloedd Unedig69 (safle rhyw)CriciethSun Myung MoonSystem of a DownSamarcandPedro I, ymerawdwr BrasilJimmy WalesLlawysgrif goliwiedigYnniYr Ail Ryfel BydRhyfelOrbital atomigSam WorthingtonGlasoed14 GorffennafBywydegRhufainSpynjBob PantsgwârTwo For The MoneyFuerteventuraAmanita'r gwybed1897IaithIrbesartanCristnogaethBarry JohnIeithoedd GermanaiddKim Il-sungThe Jeremy Kyle ShowThe Wiggles MovieGina GersonEr cof am KellyTargetsGemau Olympaidd yr Haf 2020Amgueddfa Genedlaethol AwstraliaTongaAfon CleddauDwight YoakamMordiroFlora & UlyssesManchester United F.C.Papy Fait De La RésistanceNitrogenAnhwylder deubegwnCherokee UprisingFelony – Ein Moment kann alles verändernJohn Prescott1926Cynnwys rhyddProtonMailPleistosenRetinaHal DavidCemegEdward Morus JonesLladinXXXY (ffilm)Dinas y Llygod🡆 More