Mynegai: Tiwtorial · Canllaw Pum Munud · Cwestiynau Cyffredinol / FAQs · Gofynwch Gwestiwn · Geirfa · Y Ddesg Gymorth · Chwilio'r holl Pynciau
Blwch cymorth: |
Cyflwyniad | Golygu | Chwilio | Dolennau | Ffynonellau | Mewngofnodi | Sgwrs | Ymestynol | Arall |
Pan fyddwch yn ychwanegu gwybodaeth at erthygl, sicrhewch eich bod yn cynnwys eich ffynonellau, oherwydd fe ddilëir ffeithiau neu erthyglau gydag elfennau dadleuol sydd heb ffynonellau. Y ffordd orau o wneud hyn yw trwy ddefnyddio dyfyniad mewnol a throednodyn er mwyn i olygwyr a darllenwyr eraill fedru gwirio'r wybodaeth rydych yn ei hychwanegu. Sicrhewch fod y ffynonellau a ddefnyddiwch yn ddibynadwy. Mae gwneud hyn yn un o gonglfeini Wicipedia ac yn sicrhau, o'i wneud yn gywir, y bydd eich golygiad yn parhau yn ogystal â rhoi geirwiredd i'r gwaith.
Y ffordd arferol o greu dyfyniad mewnol yw trwy ddefnyddio troednodiadau ar ffurf ffynhonnell neu gyfeiriad. Gallwch greu troednodiadau gydag iaith marcio Wici drwy ychwanegu tagiau cyfeirio mewn côd Wici:
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
Mae dwy ran felly i hyn: y cyntaf ydy gosod y wybodaeth yn nghorff yr erthygl ei hun (er na fydd yn ymddangos yno) a'r ail ydy gosod côd ar waelod y dudalen, sy'n arddangos yr wybodaeth yn otomatig fel troednodyn neu gyfeiriad.
Ceir sawl math o gyfeiriadau, yn ddibynol ar eich ffynhonnell:
Os mai gwefan yw eich ffynhonnell, dylech greu dolen allanol i gyfeiriad y wefan gydag enw'r wefan a pha bryd y gwnaethoch edrych arni. Peidiwch â defnyddio erthyglau eraill o Wicipedia fel ffynonellau; mae hyn yn rheol.
Er mwyn creu dolen allanol i'ch ffynhonnell, rhowch gyfeiriad y wefan (yr URL) mewn cromfachau sgwâr cyn y testun a fyddwch yn ychwanegu, megis:
Dylid darparu disgrifiad byr ar ôl cyfeiriad y ddolen allanol. Bydd y disgrifiad hwn yn ymddangos yn y rhestr o gyfeiriadau fel teitl y ddolen allanol. Yn ychwanegol i hyn, dylech nodi pa bryd y gwelsoch y wefan drwy "adalwyd" e.e. * [http://www.google.com Peiriant chwilio Google]; adalwyd 05/04/2013. Byddai'n ddymunol hefyd nodi enw'r awdur a'r teitl hefyd.
Math arall o ffynhonnell yw llyfr dibynadwy e.e. llyfr academaidd. Yn wahanol i Wicipedia, dydy'r rhan fwyaf o lyfrau ddim yn cynnwys ffynonellau'r wybodaeth sydd ynddynt - felly byddwch yn ofalus. Oherwydd hyn, dim ond llyfrau (a gwefannau) dibynadwy a sylweddol y medrwn ymddiried ynddynt y dylech eu defnyddio.
Pan rydych yn dyfynnu o lyfr, dylech nodi'r teitl, yr awdur, y cyhoeddwr, dyddiad cyhoeddi a rhif y dudalen. Os dymunwch, gallwch fynd gam ymhellach na hyn e.e.
* {{Cite book|last=Cole|first=B.|title=Taiwan's Security: History and Prospects|publisher=Routledge|year=2006|month=January|isbn=0-415-36581-3}}>
Mae copio'r cyfeiriad o'r Saesneg (neu iaith arall) yn hawdd, ond cofiwch gyfieithu'r mis. Gallwch hefyd eu hychwanegu yn Gymraeg:
*{{dyf llyfr|olaf=Cole|cyntaf=B.|teitl=Taiwan's Security: History and Prospects|cyhoeddwr=Routledge|blwyddyn=2006|mis=Ionawr|isbn=0-415-36581-3}}
Mae'r ddwy enghraifft uchod yn gwbwl dderbyniol, gan mai'r hyn sy'n bwysig ydy mai'r Gymraeg yw'r iaith weledol i'r darllenydd cyffredin.
Gellir CYFUNO NIFER O GYFEIRIADAU AT UN FFYNHONNELL GAN DDEFNYDDIO UN RHIF trwy roi enw i'r cyfeiriad yn y cod. Dyma sut i'w wneud:
yn yr achos gyntaf, a
i ddefnyddio'r un cyfeiriad eto, sy'n rhoi: [1] a [1]
Dyma'r cod ar gyfer yr enghraifft gyntaf...
Linnard, W. (2000) ''Welsh Woods and Forests'' Gomer
....a dyma'r cod ar gyfer yr ail enghraifft...
Mae gan nifer o erthyglau Wicipedia adran ar wahân o'r enw Dolenni allanol, tua gwaelod y ddalen. Ar gyfer cysylltu â gwefannau sydd â gwybodaeth ychwanegol, sylweddol a dibynadwy. Nid yw pob un ddolen allanol yn addas i'w defnyddio mewn erthygl ar Wicipedia: byddwch ddethol! O'u gwneud yn iawn mae'r adran hon hefyd yn gweithredu fel "ffynhonnell" i'r darllenydd.
Mae'n ddigon hawdd eu creu, ac mae'r fformat yn ddigon tebyg i'r cyfeiriadau uchod, ond heb y s. Dyma'r drefn arferol: cromfach sgwar yn gyntaf ac yna'r URL; yna rhowch fwlch; mae'r bwlch hwn yn bwysig gan ei fod yn rhannu'r hyn a welir a'r hyn nas gwelir. Mae'r hyn a ddaw ar ôl y bwlch yn weledol, er enghraifft:
Dim ond y testun sy'n dilyn y bwlch ("Peiriant chwilio Google") sy'n weledol:
Os yw eich dolen yn pwyntio i wefan nad yw'n Gymraeg, dylech nodi hynny ar ddechrau'r ddolen gyda {{eicon en}} neu {{eicon br}} sy'n rhoi:
Weithiau, pan ddyfynir o nifer o lyfrau, gellir defnyddio'r term "Llyfryddiaeth" fel is-bennawd, ynghyd â rhestr o lyfrau a gyfeirir atynt yng ngorff yr erthygl. Dylech ddechrau pob llinell gyda seren (*), sy'n creu bwled e.e.
Os dowch o hyd i erthygl sydd a pheth gwybodaeth dadleuol ynddi, rhowch y Nodyn hwn ar frig y dudalen:
{{angen ffynhonnell}}
Mae hyn yn rhestru'r tudalennau sydd angen gwaith arnynt mew un man taclus. Mae Nodyn yn gôd Wici arbennig sy'n galw am wybodaeth o lefydd eraill, fel arfer, neu'n galw tudalen gyfan i'r man lle caiff y Nodyn ei gosod.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Wicipedia:Tiwtorial (Nodi ffynonellau), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.