cwestiynau Cyffredin

Mynegai: Tiwtorial  · Canllaw Pum Munud  · Cwestiynau Cyffredinol / FAQs  · Gofynwch Gwestiwn  · Geirfa  · Y Ddesg Gymorth  · Chwilio'r holl Pynciau

Wicipedia:CymorthWicipedia:Cymorth
Wicipedia:Cymorth
Wicipedia:Cymorth
Cwestiynau Cyffredin

Ar y dudalen hon, gallwch gael atebion i gwestiynau a godir aml gan ddefnyddwyr y safle. Ar gyfer mwy o gymorth, ewch i'r dudalen cymorth.

Beth yw wici?

Mae wici yn gasgliad o dudalennau gwe sydd wedi'u cysylltu. Gall unrhyw berson olygu unrhyw dudalen (gydag eithriadau), gan ychwanegu dolenni i dudalennau eraill ar y safle. Yn wir, dyma hanfod y syniad o wici: bod mwy a mwy o gysylltiadau yn creu rhwydwaith eang o dudalennau.

Beth yw Wicipedia?

Wicipedia ydy'r gwyddoniadur Cymraeg mwyaf ar y we sydd: ac mae o am ddim. Cychwynnodd y fersiwn Saesneg gwreiddiol yn 2001, gyda'r fersiwn Cymraeg yn dilyn yn 2003. Am fwy o wybodaeth, darllenwch Ynglŷn â Wicipedia.

Pwy sy'n berchen ar Wicipedia?

Chi a fi! Rheolir Wicipedia gan gwmni di-elw, y Sylfaen Wicimedia. Mae'r cwmni hefyd yn rheoli chwaer-brosiectau Wicipedia, gan gynnwys y Wiciadur. Mae'r cyllid yn dod o ymgyrchoedd codi arian blynyddol.

Rhyddheir pob dogfen o dan Drwydded Dogfennaeth Rydd GNU, sy'n golygu y gall unrhyw un gopïo'r deunydd, gyda chydnabyddiaeth. Gweler Wicipedia:Hawlfraint am fwy o fanylion.

Sut alla i ofyn cwestiwn?

Mae sawl ffordd i gysylltu â Wicipedia. Os ydych am ofyn cwestiwn cyffredinol, ewch i'r Caffi neu'r Ddesg Gyfeirio a gofynwch! Os ydych am gysylltu ag unigolyn yn uniongyrchol, gadewch sylw ar ei dudalen sgwrs, ond cofiwch - bydd y nodyn yn weladwy i bawb. Ar y llaw arall, os ydych am anfon neges breifat, mae'n bosibl fod y defnyddiwr wedi caniatáu ichi anfon e-byst ato; os felly, bydd dolen i'r chwith o'i dudalen defnyddiwr.

Y Sylfaen Wicimedia sy'n rhedeg Wicipedia o ddydd i ddydd. Os ydych am gysylltu â nhw, gallwch ymweld â Meta-Wiki (yn Saesneg), sy'n cydgysylltu'r prosiectau i gyd.

A ddylwn i gofrestru cyn golygu?

Nid oes rhaid cofrestru, ond mae yna fanteision o wneud felly. Os ydych yn bwriadu cyfrannu'n gyson yma, mae'n syniad da agor cyfrif, gan nad yw defnyddwyr anhysbys yn cael ail-enwi tudalennau nac uwchlwytho lluniau neu gyfryngau eraill. I weld rhestr o fanteision eraill, gweler Wicipedia:Cofrestru.

Sut allaf fod yn sicr fod y wybodaeth yn gywir?

Gall unrhyw un olygu unrhyw erthygl, felly wrth gwrs mae'n bosibl y gall rhywun ychwanegu gwybodaeth anghywir. Ar y llaw arall, mae eraill yn cadw llygad barcud ar erthyglau, gan ddefnyddio'u rhestr wylio, neu'r dudalen Newidiadau diweddar. Felly cywirir yn gyflym gwybodaeth anghywir fel rheol. Mae'r broses hon yn gwella wrth i fwy o bobl ymuno. Fe'ch anogir i roi help llaw trwy gywiro erthyglau a rhoi cyfeiriadau defnyddiol.

Sut ydw i'n chwilio Wicipedia?

Y ffordd symlaf yw teipio'r pwnc yn y blwch 'chwilio' i'r chwith o'r dudalen, a chlicio ar 'Chwilio'. Gallwch hefyd ddefnyddio Google gan ddilyn y cysylltiad hwn i chwilio drwy Wicipedia yn Gymraeg, ond cofiwch nad yw Google yn cynnwys y diwygiadau diweddaraf.

Gweler Wicipedia:Chwilio am ragor o wybodaeth.

Rwyf wedi darganfod gwall mewn erthygl - beth wnaf?

Clicio ar Golygu ar frig y dudalen, a chywiro'r gwall. Nid oes ots os gwnewch gamgymeriad - fe fydd eraill wastad yn gallu tacluso ar eich ôl.

Os ydych chi am brofi'ch sgiliau golygu cyn gwneud newidiadau i unrhyw dudalen go iawn, rhowch gynnig ar y Tiwtorial a chwaraewch yn y pwll tywod, lle gallwch arbrofi gyda golygu tudalen.

Sut mae golygu tudalen?

Ar Wicipedia, fe ysgrifennir tudalennau mewn cod arbennig. Peidiwch â phoeni - dyma'r peth hawsaf yn y byd i'w ddysgu (heblaw'r Gymraeg!). Er enghraifft, dynodir cysylltiadau mewnol gyda [[cromfachau sgwâr dwbl|chromfachau sgwâr dwbl]]. Am esboniad manwl o'r cod wici, gwelwch Wicipedia:Sut i olygu tudalen.

Sut mae creu tudalen?

Os ydych chi'n dod ar draws cysylltiad coch, trwy glicio arni byddwch yn cyrraedd sgrîn golygu ar gyfer yr erthygl honno. Ar ôl ichi ysgrifennu digon am y pwnc, bydd cadw'r dudalen yn ei chreu ar y gronfa ddata.

Os ydych chi am greu erthygl heb orfod darganfod cysylltiad coch iddi, teipiwch y teitl i'r blwch chwilio ar y chwith, a chliciwch Ewch. Ar y sgrîn chwilio, bydd cysylltiad coch yn arwain i'r sgrîn golygu ar gyfer y dudalen arfaethedig.

Rwyf wedi anghofio fy nghyfrinair

Os ydych chi wedi rhoi'ch cyfeiriad e-bost inni, gallwn ni e-bostio cyfrinair newydd i chi. Cliciwch ar Mewngofnodi yng nghornel dde uchaf y dudalen, teipiwch eich enw defnyddiwr, a chliciwch ar 'Anfoner cyfrinair newydd ataf trwy e-bost'.

Tags:

cwestiynau Cyffredin Beth yw wici?cwestiynau Cyffredin Beth yw Wicipedia?cwestiynau Cyffredin Pwy syn berchen ar Wicipedia?cwestiynau Cyffredin Sut alla i ofyn cwestiwn?cwestiynau Cyffredin A ddylwn i gofrestru cyn golygu?cwestiynau Cyffredin Sut allaf fod yn sicr fod y wybodaeth yn gywir?cwestiynau Cyffredin Sut ydw in chwilio Wicipedia?cwestiynau Cyffredin Rwyf wedi darganfod gwall mewn erthygl - beth wnaf?cwestiynau Cyffredin Sut mae golygu tudalen?cwestiynau Cyffredin Sut mae creu tudalen?cwestiynau Cyffredin Rwyf wedi anghofio fy nghyfrinaircwestiynau CyffredinCanllaw Pum MunudWicipedia:CymorthWicipedia:Cysylltwch â ni am gymorthWicipedia:GeirfaWicipedia:TiwtorialWicipedia:Y Ddesg GyfeirioWicipedia:Y Ddesg Gymorth

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Crabtree, PlymouthTwo For The MoneyThe AristocatsMartyn GeraintNadoligYswiriantMirain Llwyd OwenCamlesi CymruAbertawe (sir)The Speed ManiacErnst August, brenin HannoverRhyw llawAir ForceCascading Style SheetsHiltje Maas-van de KamerLlyn TegidVin DieselDohaNo Man's GoldMelangellDafydd ap SiencynNasareth (Galilea)Y Forwyn FairRwsegClustog19eg ganrifLove Kiya Aur Lag GayiLlywodraeth leol yng NghymruEwropJoan EardleyDelhiTywysogion a Brenhinoedd CymruKathleen Mary FerrierChris Williams (academydd)Siôn Alun DaviesXHamsterAstreonamNizhniy NovgorodTechnolegYsbyty Frenhinol HamadryadPla DuCyfeiriad IPDulynYsgol Syr Hugh OwenThe UntamedLeonor FiniDermatillomaniaAwstralia (cyfandir)HentaiAlbanegGlawLlanharanHope, PowysJess DaviesLerpwlTor (rhwydwaith)Martin o ToursWalking Tall Part 2MacOSEfrog NewyddSeneddIn My Skin (cyfres deledu)Unol Daleithiau AmericaStrangerland1996Aled Lewis EvansCaerdyddSyriaLlys Tre-tŵrBreuddwyd Macsen Wledig🡆 More